Gwahoddiad i nyrsys y dyfodol fynychu diwrnod agored sydd i’w gynnal yn Llanelwy
Date: Dydd Iau, Ionawr 12
Mae darpar nyrsys sydd am wneud gwahaniaeth a dod i mewn i’r proffesiwn yn cael eu gwahodd i fynychu diwrnod agored sydd i ddigwydd yng nghampws Llanelwy Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Bydd y digwyddiad wyneb yn wyneb, sydd i’w gynnal dydd Mercher nesaf, Ionawr 18 rhwng 12pm - 3pm yng Nghanolfan OpTIC Llanelwy yn gyfle i’r rhai hynny sy’n ystyried gyrfa ym maes nyrsio ddod i sgwrsio â darlithwyr a myfyrwyr cyfredol am y cyrsiau sydd ar gael, yn ogystal â gyrfâu i’r dyfodol a bywyd myfyrwyr.
Ymysg y cyrsiau nyrsio a gynigir yng nghampws Llanelwy mae Nyrsio Oedolion, Nyrsio Plant a Nyrsio Iechyd Meddwl.
Dywed Alison Lester-Owen, Prif Ddarlithydd ac Arweinydd Proffesiynol ar gyfer Nyrsio yng Nghampws Llanelwy Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Os ydych yn meddwl am yrfa mewn Nyrsio, fe hoffem eich croesawu i un o’n digwyddiadau sydd ar ddod sydd i’w cynnal y mis hwn yn ein campws yn Llanelwy.
“Rydym yn hynod falch bod Nyrsio ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi’i restru’n gyntaf o ran boddhad myfyrwyr, felly hoffem fedru sôn wrthych am yr hyn sydd gennym i’w gynnig.
“Rydym yn deall bod llawer o bethau i’w hystyried pan ddaw hi i ddewis ble hoffech chi astudio. Mae ein diwrnodau agored yn cynnig cyfle gwych i ganfod mwy, cyfarfod darlithwyr, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau posib sydd gennych.
“Nawr yw eich amser i nyrsio - does dim gwell amser na’r presennol. Archebwch eich lle drwy’r cyfeiriad e-bost isod, neu galwch heibio a dewch draw ar y diwrnod. Rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod.”
Y cyfeiriad ar gyfer campws Llanelwy Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw: Canolfan OpTIC, Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD.
I gofrestru eich diddordeb ar gyfer y diwrnod agored, e-bostiwch: recruitment@glyndwr.ac.uk.
DIWEDD
Nodiadau ar gyfer y golygydd:
- Rhestrodd The Complete University Guide (CUG) Brifysgol Glyndŵr Wrecsam flaenaf o ran boddhad myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr, ac yn ail ar draws yr holl DU, yn ei dabl ar gyfer 2023 - gyda Nyrsio hefyd wedi ei restru’n gyntaf o ran boddhad myfyrwyr.