Gwahoddir myfyrwyr i ddigwyddiadau Cyfleoedd Cymraeg i glywed sut byddant yn cael eu cefnogi i ddefnyddio'r iaith ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
Date: Rhagfyr 8 2022
Mae myfyrwyr sy'n ystyried ymgeisio am y brifysgol ac a hoffai gael mwy o wybodaeth ac arweiniad ynghylch darpariaeth cyfrwng Cymraeg wrth astudio yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad sy'n cael ei gynnal yr wythnos nesaf ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Mae'r digwyddiad Cyfleoedd Cymraeg, sy'n cael ei gynnal ddydd Mercher 14 Rhagfyr rhwng 11yb-2yp, yn agored i fyfyrwyr sy'n astudio mewn coleg neu chweched dosbarth, sy'n chwilio am gyngor ac arweiniad ynghylch darpariaeth Gymraeg yn y brifysgol.
Yn ystod y digwyddiad, bydd cyfle i fyfyrwyr siarad â darlithwyr ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau blasu sydd i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â gwrando ar sgwrs am fanteision dwyieithrwydd a'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.
Meddai Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu Academaidd Cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Bydd ein digwyddiad Cyfleoedd Cymraeg yn gyfle gwych i ddarpar fyfyrwyr y brifysgol ddod i glywed sut rydym ni ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cefnogi myfyrwyr i ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u hastudiaethau.
"Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygiadau ledled y sector mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac rydym yn cynnig nifer gynyddol o fodiwlau y gellir eu hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws pynciau megis Therapi Galwedigaethol; Lleferydd ac Iaith; a'r Gyfraith, er enghraifft.
"Os ydych yn y broses o wneud cais am y brifysgol ar hyn o bryd ac os oes gennych gwestiynau'n ymwneud â'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, boed hynny dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, asesiadau, gofal bugeiliol, llety, a chyfleoedd drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neu unrhyw beth arall, dewch draw gan y bydd aelodau ein tîm cyfeillgar wrth law i ateb eich holl gwestiynau. Edrychwn ymlaen i'ch cyfarfod!"
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad y Gymraeg ac i lynu at safonau'r Gymraeg.
Mae llefydd ar gyfer digwyddiad yr wythnos nesaf yn gyfyngedig, felly gofynnir i'r rhai sydd â diddordeb mewn mynychu gofrestru eu diddordeb ymlaen llaw – i wneud hynny, anfonwch e-bost at Amber Percy, Cydlynydd Ehangu Mynediad: amber.percy@glyndwr.ac.uk.