Gwaith ymchwil newydd gan academydd o Wrecsam yn amlygu llais rhieni a gofalwyr pobl sy’n byw gydag anableddau dysgu

Dyddiad: Dydd Gwener, Tachwedd 1, 2024

Mae pwysigrwydd gwrando ar leisiau rhieni a gofalwyr wedi cael ei amlygu mewn gwaith ymchwil newydd a gwblhawyd gan academydd o Brifysgol Wrecsam i ddeall profiadau wrth gael mynediad at wasanaethau gofal a chymorth i blant sy’n byw gydag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.

Cafodd Dr Dawn Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol yn y Brifysgol, ei chomisiynu gan raglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru i gynnal y gwaith ymchwil.

Bu’r prosiect yn gweithio gydag ystod o rieni a gofalwyr sy’n gofalu am blant a phobl ifanc sydd ag anabledd dysgu. Cawsant eu cyfweld gan Dr Jones, mewn ymgais i ddod i ddeall eu profiadau unigol.

Mae’n dilyn adolygiad llenyddiaeth a gwerthusiad diweddar a gwblhawyd gan Dr Jones o fodelau a fframweithiau gofal cenedlaethol, sy’n darparu gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru.  

Meddai Dr Jones: “Mae’r ddau ddarn o waith ymchwil a gwblhawyd gen i ar ran Gwelliant Cymru wedi amlygu bod plant a phobl ifanc sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru yn cael profiadau cymysg wrth dderbyn gofal a chael mynediad at wasanaethau cymorth.

“Roedd y canfyddiadau’n awgrymu bod diffyg cyd-drefniant yn gallu digwydd ar draws gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, gan wneud i deuluoedd deimlo’n ddryslyd ynglŷn â’r ystod o adnoddau gofal a chymorth sydd ar gael.

“Er bod tystiolaeth o waith ysbrydoledig ym mhob sector, cafwyd hefyd adroddiadau o achosion lle’r oedd diffyg cyd-drefniant yn y ddarpariaeth ar draws y sectorau, gan olygu bod teuluoedd yn gorfod dilyn ystod o wahanol lwybrau er mwyn cael gofal ystyrlon ac effeithiol ar gyfer eu plant.

“O’r canfyddiadau hyn, mae’n amlwg bod gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol ar draws y sectorau angen cydlynu a darparu gwasanaeth sy’n golygu nad oes unrhyw ddrysau anghywir – yn hytrach, bod gwahanol goridorau ar gael a’u bod yn gallu cyrraedd gwasanaethau’n rhwydd.”

Bydd canfyddiadau y gwaith ymchwil yn cael eu rhannu gyda’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar draws Cymru, a fforymau amlddisgyblaethol a chymunedau arfer eraill.

Diben hirdymor y prosiect yw hybu’r canfyddiadau, fel bod gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio’n dda, ac unrhyw feysydd lle ceir bylchau yn y gwasanaethau.

Mae rhai o’r prif ganfyddiadau’n cynnwys:

  • Gall darpariaeth gofal fod yn dameidiog, ac mae nifer fawr o achosion lle nad yw gofynion yn cael eu bodloni.
  • Mae profiadau da gan amlaf yn gysylltiedig ag achosion lle mae gweithwyr proffesiynol yn dod i adnabod y plentyn a’r teulu’n dda, ac yn gallu eirioli gyda’i gilydd am wasanaethau i fodloni eu hanghenion.
  • Mae’n rhaid i hawliau plant a theuluoedd fod yn fan cychwyn ar gyfer cynllunio gofal. Mae teimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn rhan o’r broses yn werthfawr iawn i rieni a gofalwyr.
  • Gweld y plentyn yn gyntaf cyn yr anabledd yw sylfaen gofal da sy’n seiliedig ar hawliau.
  • Po gryfaf yw’r cysylltiadau rhwng y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, gorau oll yw profiadau’r rhieni, gofalwyr a’r plant.
  • Gallai mynediad i ganolfannau ‘galw heibio’ sy’n darparu cymorth integredig gyfrannu at brofiadau mwy cadarnhaol.

Mae Dr Jones bellach yn dechrau ar ran ddiweddaraf y gwaith ymchwil - y tro hwn, yn edrych ar brofiadau o ddarpariaeth gwasanaeth o safbwynt y gweithwyr proffesiynol eu hunain, sy’n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Ychwanegodd: “Nod y gwaith ymchwil diweddaraf yw nodi’r hyn y mae ymarferwyr yn ei ystyried yn brif rwystrau rhag sicrhau canlyniadau effeithiol, ond hefyd yr hyn maen nhw’n teimlo sy’n gweithio’n dda.

“Cynhelir y gwaith ymchwil ar ffurf cyfweliadau un-i-un ar-lein gyda gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru, gan gynnig lle diogel a chyfrinachol lle gellir rhannu profiadau, a chynnig argymhellion ar gyfer arfer at y dyfodol.”

Bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i lywio cyfeiriad Strategaeth Anableddau Dysgu Cymru at y dyfodol, yn ogystal â darparu adborth i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Iechyd ledled Cymru.

  • Mae Dr Jones bellach yn annog gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg sy’n gweithio gyda phlant sy’n byw gydag anabledd dysgu yng Nghymru i gymryd rhan a rhannu eu profiadau, fel rhan o’r gwaith ymchwil diweddaraf hwn. Cynhelir y cyfweliadau ym mis Rhagfyr ar-lein, a disgwylir y byddant yn para oddeutu 40 munud. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Dr Jones drwy e-bostio: dawn.jones@wrexham.ac.uk