Gwobr ffotograffiaeth i gyn-fyfyrwraig Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Mae cyn-fyfyrwraig Ffotograffiaeth wedi esbonio sut y datblygodd ei sgiliau i'r lefel nesaf – a'i helpu i greu argraff ar feirniaid cystadleuaeth sy'n denu ymgeiswyr o bob cwr o'r byd – trwy astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Enillodd Suzanne Ross-Hughes, a raddiodd yn ddiweddar gyda Gradd Meistr integredig MDES mewn Ffilm a Ffotograffiaeth, y trydydd lle yn y categori Newydd-anedig yng Ngwobrau Ffotograffydd y Flwyddyn.
"Roeddwn i wrth fy modd! Hwn oedd un o'm prif amcanion yn ystod fy nghwrs ym Mhrifysgol Glyndŵr. I ennill gwobr a bod ymhlith ffotograffwyr enwebedig yr wyf wedi cael fy ysbrydoli gan ers dechrau fy siwrnai ffotograffiaeth yn anhygoel, " meddai.
"Mae hi wedi bod yn bedair blynedd anodd yn gwneud y cwrs yn ogystal â rhedeg fy musnes a bod yn fam, felly alla i ddim dweud wrthych chi pa mor wych oedd gweld y gwaith caled yn talu ar ei ganfed."
Mae Suzanne, 37, o Owrtyn, wedi bod yn ffotograffydd ers 2013 ac wedi dysgu sgiliau technegol gan ei thad a chwrs coleg cyn dod i Glyndŵr yn 2015 i fireinio'i gwybodaeth a datblygu ei sgiliau.
Ei llwyddiant trawiadol yng Ngwobrau ffotograffydd y flwyddyn, a gyflwynwyd mewn seremoni yn Llundain, yw'r ddiweddaraf mewn cyfres o lwyddiannau yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd ganmoliaeth uchel yng nghystadlaethau misol Cymdeithasau’r Ffotograffwyr yn 2018 a Gwobr Aur y llynedd. Roedd Suzanne hefyd yn enillydd yn y gwobrau lluniau babanod ym mis Ebrill 2019.
“Yr hyn a ddysgais o fynychu'r cwrs ym Mhrifysgol Glyndŵr oedd sut i fynd â'm busnes i'r lefel nesaf. Roedd yn rhoi'r sgiliau academaidd sydd eu hangen arnaf a'r hyder i hyrwyddo fy ngwaith," meddai Suzanne.
"Roeddwn i'n lwcus iawn i gael arweinydd cwrs ffantastig Karen Heald, Dw i mor ddiolchgar am ei chefnogaeth a'i hanogaeth bob cam o ffordd fy nhaith i ennill gradd dosbarth cyntaf yn y diwedd."
Mae Eiliadau Perffaith yn arbenigo mewn lluniau celfyddyd gain o blant newydd-anedig a phriodasau yn stiwdio Suzanne yn Owrtyn.
"Mae ffotograffiaeth newydd-anedig yn golygu cymaint i mi oherwydd mae'n ddechrau bywyd newydd, dechrau newydd a thaith newydd gyfan i deulu. Mae cael y cyfle i weithio gyda theuluoedd i greu delweddau fydd yn cael eu trysori a'u cadw am genedlaethau i ddod yn anrhydedd," meddai.
"Rwyf wrth fy modd â'r holl broses o ganfod beth mae fy nghleientiaid yn ei hoffi ac yna creu saethiad pwrpasol yn seiliedig ar hynny hyd at y rhan olaf o gyflwyno eu delweddau a'u celfyddyd fur er mwyn eu harddangos yn eu cartrefi."
Rhoddodd Dr Karen Heald, Arweinydd Rhaglen Ffotograffiaeth a Ffilm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, canmoliaeth i Suzanne am ei dychymyg a gwaith caled Suzanne wrth ennill ei chymhwyster a chreu ymlaen â'i gyrfa.
"Mae Suzanne wedi bod yn fyfyriwr gwych, ac rwy'n falch iawn ei bod yn gwneud cystal. Yr oedd yn fyfyriwr mor greadigol a diwyd fel nad yw'n syndod ei bod wedi cael cydnabyddiaeth am ei gwaith,” meddai.
“Mae ei llwyddiant parhaus yn enghraifft wych o sut y mae astudio ar y rhaglen ffotograffiaeth a ffilm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn eu dewis yrfa."