Lansio arddangosfa gelf newydd er cof am ddarlithydd poblogaidd Wrecsam
Dyddiad: Dydd Gwener, Rhagfyr 15
Mae arddangosfa o brintiau, sy’n cael ei chynnal er cof am ddarlithydd celf a dylunio poblogaidd a oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam, wedi agor yn Oriel INSERT y Brifysgol.
Mae selogion celf, myfyrwyr, graddedigion a staff yn cael eu hannog i weld yr arddangosfa arbennig, ‘Taith Trwy Brintiau’, yn cynnwys etifeddiaeth artistig ddwys y diweddar Pat Cooke.
Yn cael ei arddangos tan ddydd Iau, 21 Rhagfyr, ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am - 3pm yn Ysgol Gelf Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw, mae'r arddangosfa hon yn addo taith weledol wedi'i hysbrydoli gan bersbectif unigryw Pat.
Gydag atgofion o wraig, mam, nain a ffrind gariadus, roedd Pat nid yn unig yn arlunydd a gwneuthurwr printiau medrus, ond hefyd yn ddarlithydd poblogaidd. Yn anffodus bu farw Pat ym mis Mai 2020.
Yadzia Williams and Peter Cook
Wedi'i genhedlu a'i guradu gan Yadzia Williams, ffrind agos a chydweithiwr i Pat, mae'r arddangosfa'n cynnig cipolwg ar archwiliad Pat trwy fyd gwneud printiau, blodau a gloÿnnod byw.
Dywedodd Yadzia, uwch ddarlithydd mewn Celf a Dylunio yn y brifysgol: “Mae celf Pat yn rhannu stori sy’n cysylltu â phawb. Mae'n stori o ddelio ag anawsterau, darganfod harddwch mewn momentau byr a chael effaith barhaol trwy greadigrwydd.
“Roedd yn fraint curadu’r arddangosfa hon – rwy’n mawr obeithio ein bod wedi gwneud Pat a’i theulu yn falch. Mae colled Pat yn cael ei deimlo’n ddwys gan bawb a oedd yn ei hadnabod, mae pawb yn gweld ei heisiau yn fawr.”
Ychwanegodd Dr Paul Jones, Curadur yr Oriel INSERT ac Uwch Ddarlithydd Celf Gain yn y Brifysgol: “Mae effaith Pat ar ei myfyrwyr a’r gymuned gelf yn amlwg yn y casgliad rhyfeddol a hynod deimladwy hwn o weithiau.
“Bydd y printiau a arddangosir ar gael i’w prynu, gyda’r holl elw wedi’i neilltuo i Elusen Christie - achos oedd yn bwysig iawn i Pat.
“Mae’r cyfle unigryw hwn yn caniatáu i bobl gaffael darn o gelf wrth gyfrannu at achos ystyrlon ac effeithiol. Rydyn ni'n gwybod y byddai Pat yn falch y bydd yr elw o'i gweithiau yn mynd at achos mor bwysig.”