Llety newydd i fyfyrwyr yn arwydd o dwf “adnewyddol” yn hanes Prifysgol Wrecsam a’r ddinas

Date: Dydd Lau, Awst 29, 2024

Mae Prifysgol Wrecsam yn bwriadu bwrw ymlaen â chynlluniau i ddarparu 300 o welyau ychwanegol i fyfyrwyr er mwyn helpu i leihau’r pwysau ar y farchnad rhentu preifat, yn ogystal â galluogi’r sefydliad i dyfu a chyflawni ei uchelgeisiau hirdymor o ran recriwtio myfyrwyr.

Yn ystod y diwrnodau diwethaf, mae’r Brifysgol wedi cyhoeddi ei bod yn chwilio am gontractwr i ddylunio a sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer llety pwrpasol newydd i fyfyrwyr ar gampws Plas Coch yn Wrecsam, a fydd yn cynnwys 322 o welyau a chyfleusterau ategol cysylltiedig.

Bydd y contract hwn yn ymwneud â’r gwaith dylunio cychwynnol a’r caniatâd cynllunio. Yna, bydd ail ymarfer caffael yn cael ei roi ar waith, a fydd yn cynnwys dyluniad manylach, adeiladu, a chyllido’r prosiect.

Gan fod nifer y myfyrwyr sy’n mynychu’r Brifysgol wedi codi o 8,416 ym mlwyddyn academaidd 2021-22 i 9,055 ym mlwyddyn academaidd 2022-23, mae’r galw am lety i fyfyrwyr wedi cynyddu. Ac yn 2023/24, bu’r galw am lety o’r fath yn fwy nag erioed o’r blaen.

Medd Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau ym Mhrifysgol Wrecsam: “Dyma gyfnod cyffrous iawn i astudio a byw yn Wrecsam – ac o ganlyniad, mae ymwybyddiaeth gynyddol o’r ddinas, ein Prifysgol a’r cyrsiau a gynigiwn yn golygu bod nifer ein myfyrwyr wedi cynyddu a bod yna fwy a mwy o alw am lety.

“Er bod y galw hwn yn rhywbeth i’w groesawu, mae wedi cael ei ddwysáu gan ddiffyg tai amlfeddiannaeth yn y sector preifat yn Wrecsam, felly bydd y llety arfaethedig hwn yn helpu i leihau’r pwysau ar y farchnad rentu leol.

“O’r herwydd, mae hi’n hanfodol i ni, fel sefydliad, ailasesu ein darpariaethau llety mewn modd strategol er mwyn cynorthwyo i recriwtio a chadw myfyrwyr. Yn ei dro, bydd hyn yn ein galluogi i barhau i dyfu a chyrraedd ein huchelgeisiau yn y tymor hwy.

“Mae’r llety newydd arfaethedig yn arwydd o dwf adnewyddol, nid yn unig i ni fel sefydliad ond i Wrecsam fel dinas ddiweddaraf Cymru.”

Mae’r cynllun arfaethedig yn rhan o gynllun Campws 2025 y Brifysgol. Nod y cynllun hwn, sy’n werth £80 miliwn, yw cyfoethogi’r rhanbarth lleol a’i gampysau er mwyn sicrhau y bydd gan fyfyrwyr gyfleusterau ac amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf.

Yn ôl Paul Moran, Rheolwr Prosiectau Cyfalaf Prifysgol Wrecsam: “Rydym yn obeithiol y bydd busnesau lleol yn croesawu’r cyfle cyffrous hwn i ddylunio llety modern a chroesawgar y bydd ein myfyrwyr yn dymuno byw ynddo.

“Byddwn eisiau i’n dewis gontractwr ddarparu ateb dylunio addas i’r diben a gaiff ei ddiogelu at y dyfodol, gan ystyried perfformiad amgylcheddol trwy’r holl broses.”

Gall busnesau sydd â diddordeb mewn cyflwyno tendr ar gyfer y cyfle hwn lawrlwytho’r pecyn tendro llawn ar wefan GwerthwchiGymru. Y dyddiad cau ar gyfer y tendr hwn yw 18 Hydref.