Llwyddiant i Brifysgol Wrecsam yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2024
Date: Dydd Mawrth, Ebrill 30, 2024
Mae Prifysgol Wrecsam wedi cael ei henwi'n brifysgol orau yng Nghymru ar gyfer ei darlithwyr a'i haddysgu, y gefnogaeth i fyfyrwyr y mae'n ei darparu yn ogystal ag ar gyfer rhagolygon gyrfa yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni (WUSCAs).
Y WUSCAs yw'r unig wobrau Addysg Uwch yn y wlad lle mae sefydliadau yn cael eu beirniadu a'u hadolygu gan fyfyrwyr yn unig.
Yn y gwobrau blynyddol, a gynhaliwyd mewn seremoni yn Llundain yr wythnos hon a gyflwynwyd gan yr actor a'r digrifwr Lenny Henry, roedd Prifysgol Wrecsam:
- 1af yng Nghymru ac 2il yn y DU ar gyfer Darlithwyr ac Addysgu
- 1af yng Nghymru ac 2il yn y DU ar gyfer Darlithwyr ac Addysgu
- 1af yng Nghymru a'r 4ydd yn y DU ar gyfer Rhagolygon Gyrfa
- 2il yng Nghymru a'r 5ed yn y DU ar gyfer Neuaddau'r Brifysgol
Ar y cyfan, rhoddwyd y brifysgol yn 2il yng Nghymru yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn - ac yn 17eg yn y DU yn gyffredinol allan o 101 o sefydliadau.
Meddai’r Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein gosod yn 1af yng Nghymru ar gyfer Darlithwyr ac Addysgu, Cymorth i Fyfyrwyr a Rhagolygon Gyrfa.
"Mae ein perfformiad ledled y DU hefyd yn wych - mae cael ein rhestru'n 2il yn y DU ar gyfer darlithwyr ac addysgu yn wir yn esiampl o waith caled ac ymroddiad ein cydweithwyr academaidd. Rydym hefyd yn falch iawn ein bod wedi gorffen yn yr 20 uchaf yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn.
"Rwy'n hynod falch o'r safleoedd hyn ac mae'n teimlo'n fwy braf fyth bod ein myfyrwyr wedi pleidleisio dros y gwobrau hyn.
"Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo yn eu dysgu – ac mae'n wych gwybod bod ein myfyrwyr yn amlwg yn cydnabod hyn drwy bleidleisio dros y Brifysgol yn WUSCAs."
Eleni, casglwyd dros 39,000 o adolygiadau gan fyfyrwyr o dros 100 o brifysgolion yn y DU.
Daw'r WUSCAs cyn digwyddiad diwrnod agored nesaf y Brifysgol, sy'n cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 8 Mehefin. Gallwch archebu lle ar gyfer diwrnod agored mis Mehefin yma.