Mae buddsoddiad anferth newydd mewn sgiliau, addysg a thwf rhanbarthol wedi cael ei gadarnhau ar gyfer y Gogledd Ddwyrain
.jpg)
Dyddiad: Dydd Mercher, Chwefror 11, 2026
Mae buddsoddiad anferth newydd mewn sgiliau, addysg a thwf rhanbarthol wedi cael ei gadarnhau ar gyfer y Gogledd Ddwyrain, wrth i Goleg Cambria a Phrifysgol Wrecsam gyhoeddi menter ar y cyd arloesol a gefnogir gan gyllid sylweddol gan Medr.
Bydd y buddsoddiad yn galluogi datblygiad Partneriaeth Sgiliau Gogledd Ddwyrain Cymru, a elwir yn Hwb Sgiliau Uwch.
Bydd yr hwb yn newid y ffordd y mae addysg a sgiliau'n cael eu cyflwyno ar draws y rhanbarth, gan gefnogi cynlluniau ar gyfer system drydyddol integredig wedi'u siapio gan alw cyflogwyr a blaenoriaethau rhanbarthol.
Bydd yr Hwb Sgiliau Uwch yn gweithredu fel math newydd o ddarparwr ar gyfer busnesau ar draws Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam a'r Gogledd Orllewin.
Bydd yn canolbwyntio ar feysydd twf blaenoriaeth gan gynnwys technolegau digidol a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, sgiliau gwyrdd a pheirianneg gynaliadwy, gweithgynhyrchu uwch, arwain y sector cyhoeddus, llythrennedd digidol a seiberddiogelwch, adeiladu gwyrdd, ac arwain iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Prif Weithredwr Coleg Cambria Yana Williams: "Mae'r buddsoddiad yma yn bleidlais o ffydd bwerus yn nyfodol ein rhanbarth a fwyaf pwysig, yn ein pobl.
"Trwy'r Hwb Sgiliau Uwch, rydyn ni'n gweithio gyda Phrifysgol Wrecsam i greu system integredig sy'n cyfarparu pobl ifanc a'r gweithlu presennol gyda gwybodaeth, hyder a sgiliau ar gyfer y dyfodol sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu mewn byd sy'n newid yn gyflym.
"Drwy alinio addysg â diwydiant ac arloesedd, rydyn ni'n buddsoddi mewn cyfleoedd, yn datgloi talent, ac yn helpu i adeiladu dyfodol mwy llewyrchus a chynaliadwy i'r Gogledd Ddwyrain a thu hwnt."
Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam, Joe Yates: "Mae'r Hwb Sgiliau Uwch yn newid y gêm i Ogledd-ddwyrain Cymru - gan uno Prifysgol Wrecsam a Choleg Cambria mewn partneriaeth bwerus sy'n sbarduno ffyniant rhanbarthol, yn grymuso cyflogwyr gydag atebion hyblyg, ac yn cyfarparu ein gweithlu â sgiliau sy'n barod ar gyfer y dyfodol.
"Mae'r ymgyrch yma yn ganolog i'n gweledigaeth i ddod yn Brifysgol ddinesig fodern flaenllaw yn y byd, gan sicrhau bod addysg a diwydiant yn gweithio law yn llaw i greu cyfleoedd a thwf cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau i ddod."
Drwy'r Hwb, bydd cyflogwyr yn gallu cyrchu ystod eang a hyblyg o ddarpariaeth sgiliau. Bydd hyn yn cynnwys prentisiaethau ar bob lefel, cymwysterau proffesiynol o Lefel 2 i Lefel 7, micro-gymwysterau, rhaglenni uwchsgilio ac ailsgilio'r gweithlu, cyrchu cyfleusterau ymchwil a datblygu, a chymorth wedi'i deilwra i fodloni anghenion sgiliau.
Ynghyd â blaenoriaethau buddsoddi Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru, disgwylir i'r Hwb Sgiliau Uwch chwarae rhan allweddol wrth sbarduno twf economaidd ac arloesedd ar draws y rhanbarth.
Bydd cryfhau cysylltiadau rhwng addysg, diwydiant ac ymchwil yn helpu i ddenu busnesau newydd, cefnogi ehangu cyflogwyr presennol, a chynyddu'r gallu i gyrchu cyfleoedd cyflogaeth medrus a chynaliadwy ar gyfer cymunedau lleol.
Dywedodd Nick Tyson, Arweinydd Prosiect Hwb Sgiliau Uwch: "Bydd yr Hwb Sgiliau Uwch yn rhan allweddol o ehangu'r cynnig sgiliau i'r holl gyflogwyr ar draws y Gogledd Ddwyrain a thu hwnt.
"Mae'r cynrychioli her sylweddol, yn enwedig gyda'r datblygiadau sy'n digwydd yn gyflym mewn technoleg. Fodd bynnag, mae hyn yn faes y gallwn ni, oresgyn hyn ar gyfer y rhanbarth, ar y cyd, drwy gydweithrediad cryf ein rhanddeiliaid allweddol sy'n gyflogwyr, y coleg, a'n Prifysgol.
"Bydd yr hwb yn darparu'r hyder a'r eglurder sydd eu hangen i fodloni anghenion hyfforddi, gyda chanolbwynt manwl ar gymorth 'ystwyth' partneriaid yn y diwydiant, yn bwysicach fyth, gan eu galluogi i gynnal a chynyddu eu hallbwn. Bydd yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi leol ac felly'n creu cyfleoedd swyddi a phrentisiaethau medrus iawn."
Gyda chefnogaeth ariannol Medr yn ei lle, disgwylir i'r Hwb Sgiliau Uwch lansio'n swyddogol erbyn mis Medi 2026.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr: "Fel un o'r cyrff addysg trydyddol cyntaf yn y byd, mae'n newyddion arbennig ein bod ni wedi gallu cefnogi ystod o brosiectau arloesol a chydweithredol er budd dysgwyr ar hyd a lled Cymru.
"Gwnaeth ystod, uchelgais ac ansawdd y cynigion a gawsom ni argraff fawr arnom ni ac rydyn ni'n edrych ymlaen at werthuso effaith y prosiectau llwyddiannus.
"Mae'r prosiectau hefyd yn arddangos yr awydd am ragor o gydweithredu, gan helpu i ddarganfod potensial sector sy'n well yn ei gyfanrwydd."