Mae myfyrwyr Glyndŵr yn gweithio gyda chwmni arloesol sydd yn helpu pobl gyda chyflyrau prin, ar brosiect ymchwil cyflwr sydd yn effeithio ar bobl ifanc
Mae myfyrwyr Glyndŵr yn gweithio gyda chwmni arloesol sydd yn helpu pobl gyda chyflyrau prin, ar brosiect ymchwil cyflwr sydd yn effeithio ar bobl ifanc.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ffurfio sawl partneriaeth gydag Aparito, cwnni dechnoleg gellir ei gwisgo sydd yn helpu gwella ansawdd bywyd pobl yn fyd-eang.
Gweithiodd y cwmni, sydd â’i phencadlys yn Wrecsam, gyda myfyrwyr Seicoleg Kate McDonald ac Ariana Bradshaw.
Tasg y myfyrwyr - gydag arweiniad gan ddarlithydd Dr Shubna Sreenivas, oedd dadansoddi data o gyfweliadau a wnaethpwyd gan Aparito gyda chleifion, gofalwyr a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan afiechyd metabolig prin. Achosir yr anhwylder gan fwtaniad genetig.
Meddai Shubna: “Cofrestrodd CEP Aparito, Elin Haf Davies, fel nyrs plant i ddechrau - a nawr mae hi eisiau defnyddio’r dechnoleg i helpu mwy o bobl ac i ddarparu cymorth pan fo’r angen.
“Rhodd Picking, ein Hathro Rhyngweithiad Dynol-Cyfrifadurol, wybod i mi am gyfarfod gydag Aparito a drefnwyd gan ein tîm o WGU. Ymunais â’r cyfarfod ar sail diddordebau ymchwil gorgyffyrddol, ac yn fuan mi wnaethon ni wireddu’r potensial i gydweithio ar brosiect parhaus. Ychydig o wythnosau wedyn, cysylltodd Elin â fi gyda manylion yr ymchwil i’n mewnbwn.
“Wedyn wnes i ddewis myfyrwyr ar sail eu sgiliau i gyd-fynd â’n hanghenion ymchwil, yn ogystal â chynnig y cyfle i Ariana a Kate. Roedden nhw’n awyddus iawn i fod yn rhan yn yr ymchwil yma. Ar gyfer y prosiect, roedd Aparito’n bwriadu archwilio beth oedd y rhieni yn dweud am fyw gyda’r clefyd hyn - roedd hyn cynnwys cyfweliad a dadansoddiad data dilynol, a dyna sut wnaethon ni helpu.”
Roedd gwaith y myfyrwyr yn rhan o brosiect ehangach Aparito i adeiladu meddalwedd i gynghrair rhyngwladol sydd yn gweithio gyda chleifion sydd â’r clefyd er mwyn helpu rheoli’u gofal.
Meddai Kate: “Bwriad y prosiect oedd gweithio gyda chwmnïau fferyllol, cwmnïau, ac yn ogystal - dod i ddeall anghenion yr unigolyn a gwella’r gofal sydd ar gael iddyn nhw. Mae’r
cyflwr sydd yn destun yr ymchwil yn glefyd annaroganadwy, a gellir creu llawer o straeon i deuluoedd.
“Mae’r afiechyd yn wahanol iawn i bobl wahanol - felly un agwedd i’r feddalwedd yw cofnodi beth maen nhw’n eu profi, a gallai hyn helpu people eraill sydd yn delio gyda symptomau tebyg.”
Dadansoddodd y myfyrwyr cyfres o gyfweliadau rhyngwladol a gynhaliwyd gan Aparito, gan chwilio am themâu allweddol a chreu adroddiad yn eu hadnabod.
“Cawsom ni trawsgrifiadau o gyfweliadau a gynhaliwyd gyda phobl ar draws y byd - Siapan, Sweden, yr Unol Daleithiau, y DU a mannau eraill.
“Roedd rhaid i ni wneud dadansoddiad data ansoddol, gan archwilio a chasglu themâu, cymylau geiriau a geiriau allweddol i gynrychioli beth roedd pob gyda’r cyflwr hwn ac i arddangos eu safbwyntiau.
“Wrth i ni gynnal yr ymchwil, daeth yn amlwg iawn bod ein gwaith yn brofiad byd go iawn, a allai cael effeithiau go iawn ar fywydau pobl. Gallai hyn fod yn syniad brawychus, ond roedd ein gweithdai gyda Shubha a’r hyn wnaethon ni dysgu yn ein darlithoedd yn ddefnyddiol iawn.
Ychwanegodd Kate: “Y nod oedd symleiddio’r wybodaeth fel y gellid ei darllen- beth oedd yn bwysig i’r cleifion, a beth roedden nhw eisiau, ac iddyn nhw deimlo fel eu rhywun wedi gwrando arnyn nhw a’u deal.
“Diffyg gwybodaeth am y cyflwr hwn ydy’r broblem - ac felly, trwy wneud hyn, mi gafoch chi teimlad eich bod chi’n helpu go iawn.”
Bydd Dr Elin Haf Davies, Prif Weithredwr Aparito, yn gweithio gyda Dr Sreenivas yn Glyndŵr ar ôl cael ei hapwyntio’n Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus.
Ychwanegodd: “Roedd yn wych cydweithio gyda’r Brifysgol ar y prosiect hwn, ac rwy’n gobeithio bydd llawer mwy o gyfleoedd yn ymddangos.”