Myfyriwr PhD yn ennill grant i ymchwilio anhwylder prostad
Mae ymchwilydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ennill tua £3,500 mewn grant gan gorff proffesiynol blaengar ar gyfer prosiect sydd yn archwilio rôl biofarcwyr sydd yn gysylltiedig ag anhwyldebau prostad.
Nana Yaa Frempomaa Snyper, sydd yn astudio am PhD mewn Gwyddor Fiofeddygol yn y brifysgol, wedi derbyn y gan Sefydliad Gwyddor Biofeddygol. Bydd yn brosiect yn archwilio sut gellir cysylltu biofarcwyr – dangosyddion biolegol a ddefnyddir i asesu cyflyrau – â newidiadau yng nghyflwr claf sydd wedi cael triniaeth am anhwyldebau prostad.
Un maes fydd yr astudiaeth yn ei archwilio ydy os gellir defnyddio newidiadau mewn biofarcwyr i ganfod cymhlethdodau gall datblygu ar ôl llawdriniaethau. Y gobaith ydy y gellir defnyddio’r canlyniadau i ragfynegi risg glaf prostad o ddatblygu cymhlethdodau ar ôl llawdriniaethau.
Meddai Nana: “Mae’r ymchwil yn bwysig a gall helpu leddfu rhywfaint o’r straen sydd ar systemau gofal iechyd ar draws y byd.
“Mae’n bwriadu edrych ar ba newidiadau sydd yn digwydd i fiofarcwyr penodol ar ôl llawdriniaethau prostad – a phrofi’r hypothesis bod y newidiadau hyn yn gysylltiedig â datblygiad cymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth.
“Bydd casgliadau’r astudiaeth yn rhoi prawf neu banel o brofion gellir ei defnyddio i ragfynegi risg glaf o ddatblygu cymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth.
“Mi fuaswn yn disgwyl i newidiadau o’r fath helpu cleifion a chyflenwyr gofal iechyd, i leihau costau triniaeth, ac i leihau’r nifer o bobl sydd yn dychwelyd i’r ysbyty o oherwydd y cyflyrau hyn. Gellid wedyn newid triniaeth cleifion er mwyn gwella canlyniadau iddyn nhw.”
Cynhelir yr astudiaeth yng Nghanolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru, sydd hefyd yn cynnig triu gymhwyster ôl-raddedig i fyfyrwyr o eleni ymlaen.
Yn ôl yr Athro Stephen Fôn Hughes, Cyfarwyddwr Academaidd a Gwyddoniaeth y ganolfan: “Mae ymchwil Nana’n ddiddorol iawn, ac rydym yn hapus ofnadwy bod Sefydliad Gwyddor Biofeddygol wedi cydnabod ei werth gyda grant. Hyn ydy’r corff proffesiynol am wyddor biofeddygol a’r sefydliad sydd yn achredu’r cyrsiau a gynnir can y ganolfan, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
“Bwriad pob un o’r rhaglenni ôl-raddedig yma ydy darparu platfform academaidd, i addysg ôl-raddedig ac fel rhywle gellir gwneud ymchwil biofeddygol a chlinigol o’r radd flaenaf, fel gwaith Nana.
“Wrth gael bwrdd iechyd ymchwil-weithredol, gan weithio ochr yn ochr â Glyndŵr, mae ein rhanbarth yn fwy deniadol o lawer i glinigwyr, nyrsys, bydwragedd a phroffesiynau gofal iechyd.”