Myfyrwyr Glyndŵr yn profi digwyddiad pêl-droed rhyngwladol a cheisio hybu’r gêm
Cafodd myfyrwyr Glyndŵr mewnwelediad o bêl-droed rhyngwladol wrth ddefnyddio eu sgiliau hyfforddi i annog mwy o ferched i chwarae’r gêm.
Ymwelodd myfyrwyr sy’n astudio BSc (Anrh) Hyfforddi Pêl-droed a’r Arbenigwr Perfformiad â Pharc y Glowyr ar gyfer cyhoeddiad carfan merched Cymru ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2021 yn erbyn Gogledd Iwerddon.
Cafodd y myfyrwyr cyfle i ofyn cwestiynau i reolwr Jayne Ludlow a chwaraewyr Elise Hughes a Rhiannon Roberts mewn cynhadledd i’r cyfryngau yng Nghanolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol yng Ngresffordd.
Mae Parc y Glowyr yn gyfleuster newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) ac mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn bartner prosiect.
Cynhaliodd yr hyfforddwyr sesiynau ‘Huddle’ gyda disgyblion Ysgol Morgan Llwyd ac All Saints’ Gresffordd.
Huddle ydy rhaglen Ymddiriedolaeth yr FAW ar gyfer merched rhwng 5 ac 11 oed fel rhan o ymgyrch i gynyddu nifer chwaraewyr benywaidd yng Nghymru I 20,000 erbyn 2024.
Roedd arweinydd y cwrs Bsc, Sara Hilton, wrth ei bodd cael cynnig gan yr ymddiriedolaeth i’r myfyrwyr cymryd rhan.
“Mae’n gyfle ac yn brofiad gwych i’r myfyrwyr gweld ochr arall i’r amgylchedd proffesiynol o ran y cyfryngau. Mae hefyd yn wych eu bod nhw’n cael dangos eu doniau hyfforddi wrth gefnogi’r sesiwn Huddle,” meddai.
Ychwanegodd Sara, sydd hefyd yn rheolwr tîm merched Nomadiaid Cei Connah, bod mwy o ferched yn ymuno â chwrs Glyndŵr a'i bod hi eisiau gweld mwy o ferched yn dod yn arbenigwyr pêl-droed.
“Cafon ni ddigwyddiad tebyg gyda thîm y dynion yn gynharach eleni felly mae’n ffantastig cael yr un fath o gyfle gyda charfan y merched hefyd,” meddai.
Mae Richard Chapman, hyfforddwr tîm cyntaf CPD Tref Treffynnon a rheolwr ieuenctid Academi Airbus, yn astudio blwyddyn sylfaenol.
Pwysleisiodd Richard agweddau iechyd a ffitrwydd Huddle, yn ogystal â chymaint mwynhaodd y merched cymryd rhan.
“Mae wedi bod yn ardderchog. Mae’r plant wedi cael hwyl - mae’n braf gweld y plant yn chwarae gyda gwên ar eu hwynebau,” meddai.
Rhoddodd Richard glod i’r cwrs am hyrwyddo agweddau academaidd ac ymarferol hyfforddi pêl-droed wrth iddo geisio datblygu gyrfa hyfforddi llawn amser.