Myfyrwyr Glyndŵr yn ymweld â set Rownd a Rownd
Cafodd myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam cipolwg diddorol tu ôl i’r llenni ar ddrama teledu boblogaidd.
Ymwelodd grŵp o fyfyrwyr ail flwyddyn BA (Anrh) Theatr, Teledu a Pherfformiad â set opera sebon S4C Rownd a Rownd – yn ogystal ag bod yn ‘ecstras’ mewn golygfeydd.
Aeth cynhyrchydd Cliff Jones ac actor Huw Garmon – sydd hefyd yn Uwch Darlithiwr yn Glyndŵr – â’r myfyrwyr o gwmpas prif set y sioe ym Mhorthaethwy, Ynys Môn yn ogystal â’r cyfleusterau sain a fideo yng nghwmni cynhyrchu Rondo Media ger Caernarfon.
Gwyliodd y myfyrwyr ymarferion a ffilmio, a chawsant gyfle i sgwrsio gyda’r cyfarwyddwr, Rhian Mair, a’r tîm cynhyrchu.
Ymddangosodd Rownd a Rownd 24 mlynedd yn ôl fel drama 15 munud, dwywaith yr wythnos, yn dilyn hynt a helynt pobl ifanc ar rownd bapur. Bellach mae’r sioe yn targedu pob grŵp oed ac yn un o brif sioeau S4C.
Mae penodau’n cael eu saethu tua blwyddyn ymlaen llaw, ac amlinellodd Cliff prosesau stori, sgriptio a chynhyrchu’r sioe yn ystod yr ymweliad.
Mae Esme Snallow, 29, o’r Waun, yn cyfuno’i hastudiaethau gyda’i chwmni Punk Steam Productions, a chynhyrchodd Acrophobia – stori ditectif clasurol gyda thro annisgwyl – yn y dref a bellach yn gweithio ar addasiad ffilm.
“Roedd yn ymweliad addysgiadol iawn ac roedd yn wych cwrdd â chriw Rownd a Rownd – a hefyd i weld sut mae’n gweithio tu ôl i’r llenni a bod yn ecstra mewn awyrgylch braf iawn. Roedd yn help o ran datblygu rywfaint o syniadau.”
Roedd yr ymweliad hefyd yn ddefnyddiol iawn i Keith Parry, myfyriwr o Ellesmere, wrth iddo ddilyn gyrfa tu ôl ac o flaen y camera fel cynhyrchwr a chyfarwyddwr, ac actio rhannau fel ecstra.
“Roedd yn fewnwelediad i mi – dw i’n gwybod ym mha gyfeiriad dw i eisiau mynd rŵan,” meddai.
Dywedodd arweinydd rhaglen Elen Mai Nefydd fod y radd yn galluogi myfyrwyr datblygu sgiliau fydd yn cynyddu eu cyflogadwyedd, yn ogystal â chynnig profiad gwaith.
“Mae’n wych bod ein myfyrwyr yn cael y cyfle nid yn unig i gael eu haddysgu gan rywun sydd yn gweithio yn y diwydiant, ond hefyd mae ei ddylanwadau yn golygu eu bod nhw’n cael treulio diwrnod cyfan ar set teledu broffesiynol,” meddai.
“Mae’r cwrs yn wahanol iawn oherwydd ein bod yn cynnig cyrsiau teledu. Nid oes llawer o gyrsiau gradd yn cynnig hynny ac rwy’n meddwl ei bod yn denu myfyrwyr.”