Myfyrwyr yn profi chwaraeon elit yn Nhaith Tennis Lexus yn Wrecsam
Dyddiad: Dydd Llun, Hydref 27, 2025
Cafodd dros 170 o fyfyrwyr coleg gyfle i wylio sêr y byd tennis yng Nghymru ac yn rhyngwladol yng nghystadleuaeth y Lexus Wrexham Open fel rhan o ddiwrnod darganfod Chwaraeon, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Wrecsam.
Nod y digwyddiad blasu oedd ysbrydoli pobl ifanc drwy gynnig cipolwg ymarferol ar fywyd prifysgol a’r byd chwaraeon proffesiynol.
Fel rhan o’r diwrnod, fe wnaeth y myfyrwyr gymryd rhan mewn ystod o wahanol sesiynau, gan gynnwys asesu cineteg ocsigen - y cynnydd yn y gyfradd y mae’r corff yn defnyddio ocsigen wrth wneud ymarfer corff, màs cyhyrau a braster, profion cryfder a chymesuredd cyhyrau, sesiynau hyfforddi pêl-droed, dadansoddiad perfformiad, seicoleg chwaraeon, dadansoddiad tactegol a mwy.
Yn ystod y daith dennis, gwelodd y myfyrwyr Mimi Xu o dîm Prydain yn symud yn ei blaen i ail rownd Cystadleuaeth Agored Wrecsam a sicrhau buddugoliaeth dros Justina Mikulskyte.
Meddai Dr Chelsea Batty, Prif Arweinydd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Gwyddoniaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Wrecsam: “Mae ein diwrnodau darganfod Chwaraeon wastad yn llwyddiant mawr ac yn cael croeso cynnes gan fyfyrwyr, fodd bynnag roedd gallu clymu hyn gyda thaith dennis Cystadleuaeth Agored Lexus Wrecsam y tro hwn yn ffantastig.
“Roeddem hefyd wrth ein bodd ein bod yn un o noddwyr y gystadleuaeth - ac ar gyfer myfyrwyr oedd yno gyda ni yn rhannu’r diwrnod, roedd yn brofiad hynod gyffrous iddynt fod yn rhan o’r dorf yn gwylio’r digwyddiad mwyaf ym myd tennis menywod i gael ei gynnal yn y DU eleni. Roedd yr adborth a dderbyniwyd gan fyfyrwyr yn hynod o bositif - ac roedd y rhan yna o’r diwrnod wir yn disgleirio.”
Meddai Erin Van Tonder, Myfyrwraig Blwyddyn 13 yng Ngholeg Caer - De a Gorllewin: “Rwy’n ystyried gyrfa naill ai o fewn Ffisiotherapi Chwaraeon neu Ffisiotherapi, felly ro’n i’n teimlo bod y diwrnod darganfod wedi bod yn eithriadol o dda er mwyn rhoi gwybodaeth. Roedd profi VO2max yn wirioneddol ddiddorol, yn arbennig felly i mi.
“Roedd o hefyd yn ffordd wych o gael gwylio tennis elit yng Nghystadleuaeth Agored Lexus Wrecsam, sy’n llythrennol y drws nesaf i’r Brifysgol.”
Ychwanegodd Iwan Williams, Darlithydd Chwaraeon yng Ngholeg Caer - De a Gorllewin: “Cafodd ein myfyrwyr brofiad gwirioneddol wych yn niwrnod darganfod Chwaraeon y Brifysgol, ac o’u hadborth, roedd y prif uchafbwyntiau’n cynnwys gweld y Labordy Chwaraeon a Ffisioleg Ymarfer Corff, lle clywsant am bopeth ynghylch y sgiliau ymarferol sydd ei angen er mwyn cael gyrfa o fewn gwyddor chwaraeon, iechyd a ffitrwydd, yn ogystal â sesiwn ar Seicoleg.
“Roeddem hefyd wrth ein bodd i gael y cyfle i wylio cystadleuaeth Agored Lexus Wrecsam, ac roedd cael eu hamlygu i dennis o’r radd flaenaf yn brofiad gwych i’n myfyrwyr.”
- Yr wythnos hon, mae’r Brifysgol wedi cyhoeddi dau gwrs tennis byr newydd – Gweithio yn yr Amgylchedd Tennis sydd wedi’i anelu at rai sy’n bwriadu dechrau gweithio o fewn tennis, gan ei fod yn cynnwys y Dyfarniad Hyfforddwr Cynorthwyol Tennis Level 1 sy’n cel ei gydnabod yn genedlaethol – a Busnes a Rheoli Digwyddiadau o fewn Tennis, fydd yn cyfuno cyfarwyddyd yn cael ei arwain gan arbenigwyr, darparu profiad yn y byd go iawn mewn rheoli digwyddiadau penodol i dennis a hefyd chwaraeon yn ehangach. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau drwy’r dolenni uchod.