Nod rheolwr PGW yw "rhoi anghenion Cymru wrth wraidd popeth" yn rôl newydd y Cadeirydd

Dyddiad: Dydd Gwener Mai 23

Mae Rheolwr Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) wedi'i ethol yn gyd-gadeirydd HELOA Cymru - cymdeithas broffesiynol staff addysg uwch. 

Mae Ben Kibble-Smith wedi'i benodi'n gyd-gadeirydd, ochr yn ochr â Llinos Williams, Swyddog Cyswllt Ysgolion ym Mhrifysgol Bangor - gyda Llinos yn cadeirio am y 18 mis cyntaf a Ben yn rôl yr is-gadeirydd, cyn iddo ymgymryd â'r 18 mis sy'n weddill o'r tymor. 

 Dywed Ben y bydd rhai o'i brif flaenoriaethau fel Cadeirydd yn hyrwyddo anghenion myfyrwyr Cymru a chryfhau'r cysylltiadau rhwng sefydliadau addysg uwch ar draws Cymru. 

Dywedodd: "Rwy'n falch iawn o gael fy ethol ochr yn ochr â Llinos - yn gyntaf, mae cael dwy gadair ar y cyd o Ogledd Cymru yn wych, nid yn unig mae'n golygu ein bod ni'n cysylltu'n well â'n sefydliadau ag eraill yn y sector addysg uwch ond mae hefyd yn golygu y byddwn ni'n gallu cryfhau cysylltiadau ymhellach â chydweithwyr o bob rhan o Gymru. 

"Rwy'n credu bod gwasanaethu fel aelod etholedig dros HELOA Cymru yn creu cyfleoedd gwych ac mae gennyf nifer o nodau yr hoffwn eu cyflawni yn ystod fy nghyfnod yn y rôl, gan gynnwys hyrwyddo anghenion myfyrwyr Cymru, creu cysylltiadau gwell rhwng sefydliadau addysg uwch ledled Cymru, yn ogystal â chwilio am gyfleoedd hyfforddi o ansawdd uchel i gydweithwyr o rwydwaith HELOA ac yn ehangach. 

"Yn y pen draw, fy nod cyffredinol yw rhoi anghenion Cymru wrth wraidd popeth rwy'n ei wneud yn y rôl hon - ac rwy'n teimlo'n freintiedig o gael y cyfle i wneud hynny. 

"Rwy'n edrych ymlaen at yr hyn sydd gan y blynyddoedd nesaf a chryfhau ein rhwydwaith ehangach yn PGW." 

Yn ei rôl yn PGW, mae Ben yn gyfrifol am allgymorth, gweithgaredd ysgol a choleg, digwyddiadau ac ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch.