Nyrsio yn PGW ar y brig am foddhad myfyrwyr am yr ail flwyddyn yn olynol

Date: Dydd Mawrth Mehefin 13

Mae nyrsio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) wedi cael ei rhestru gyntaf am foddhad myfyrwyr am yr ail flwyddyn yn olynol, mewn tablau cynghrair sydd newydd eu cyhoeddi. 

Mae'r Canllaw Prifysgolion Cyflawn (CUG) wedi rhestri PGW yn gyntaf yn y DU am foddhad myfyrwyr yn nhabl cynghrair pwnc Nyrsio, yn nhabl 2024. Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i Nyrsio fod ar frig y tabl. 

Mewn newyddion da pellach i'r maes pwnc, mae Nyrsio hefyd yn gyntaf am ragolygon graddedigion yn y tabl cynghrair pwnc. 

Mae PGW yn cynnig cyrsiau BN Nyrsio (Anrh) mewn Nyrsio Oedolion, Nyrsio Plant a Nyrsio Iechyd Meddwl. 

Ar y cyfan, mae'r canllaw wedi rhoi'r ail safle PGW am foddhad myfyrwyr yng Nghymru, ac yn chweched yn y DU gyfan. 

Mae'r canllaw hefyd wedi rhoi PGW yn gyntaf am foddhad myfyrwyr mewn pynciau Cymdeithaseg – lle mae PGW yn cynnig cyrsiau mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (BA Anrh) a'r Gyfraith a Chyfiawnder Troseddol (BA Anrh). 

Roedd pynciau Cwnsela, Seicotherapi a Therapi Galwedigaethol hefyd yn perfformio'n uchel yn y tablau cynghrair – lle mae PGW yn cynnig cyrsiau mewn Therapi Galwedigaethol (BSc Anrh) - gyda'r cwrs yn cael ei raddio gyntaf ar gyfer rhagolygon graddedigion yn y tabl cynghrair pwnc, yn ogystal â chael ei roi yn drydydd am foddhad myfyrwyr. 

Tra, roedd rhaglen y Gyfraith PGW yn y 10 uchaf yn nhabl cynghrair y pwnc. 

Mae'r tablau pwnc yn seiliedig ar chwe mesur (Safonau Mynediad, Boddhad Myfyrwyr, Ansawdd Ymchwil, Rhagolygon i Raddedigion – canlyniadau, Parhad a Rhagolygon i Raddedigion – ar y trywydd iawn) ac maent yn cynnwys 130 o brifysgolion, colegau prifysgol a sefydliadau addysg uwch arbenigol. 

Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru: "Rydym yn hynod falch o'n henw da am foddhad myfyrwyr, ac mae tablau cynghrair CUG eleni yn sicr yn dangos hynny unwaith eto, yn enwedig yn ein meysydd pwnc Nyrsio a Chymdeithaseg. 

"Ar y cyfan cawsom ein rhestru yn y 10 uchaf ar gyfer y DU gyfan - ac mae hynny'n wir destament i waith caled cydweithwyr, sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo yn eu dysgu. 

"Mae hefyd yn braf bod pynciau Nyrsio a Chwnsela, Seicotherapi a Therapi Galwedigaethol wedi eu rhestru gyntaf ar gyfer rhagolygon graddedigion. 

"Fodd bynnag, rwy'n teimlo ei bod yn bwysig pwysleisio na fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Byddwn yn parhau i weithio'n galed i wella profiad ein myfyrwyr yma yn PGW i sicrhau eu bod yn gallu ffynnu a llwyddo, wrth astudio gyda ni a thu hwnt." 

Wedi'i lunio gan IDP Education Ltd, mae'r Canllaw Prifysgolion Cyflawn blynyddol yn rhyddhau tablau cynghrair prifysgolion a phynciau y DU i gefnogi darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol. 

Roedd nyrsio yn PGW hefyd yn y pump uchaf ar gyfer addysgu ac yn gyntaf am foddhad cyffredinol ymhlith prifysgolion Cymru yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022. 

Cafodd ei enwi’n gyntaf yn y DU hefyd am foddhad ag addysgu, yn ogystal ag ail yn y DU am foddhad cyrsiau a 10 uchaf yng Nghymru a Lloegr yn gyffredinol yng Nghanllaw Prifysgolion The Guardian 2023.