Nyrsys uchelgeisiol yn cael eu gwahodd i fynd i nosweithiau agored Wrecsam a Llanelwy
Dyddiad: Dydd Mawrth Chwefror 7
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gwahodd pobl sydd â diddordeb mewn gyrfa nyrsio ynghyd â nosweithiau agored sydd ar ddod yn eu campysau Wrecsam a Llanelwy.
Bydd y digwyddiadau wyneb yn wyneb, a gynhelir ddydd Mercher, 15 Chwefror ar y ddau gampws rhwng 3.30yp a 7yh, yn gyfle da i'r rhai sy'n ceisio astudio Nyrsio gael sgwrs gyda darlithwyr a myfyrwyr presennol ynghylch y cyrsiau sydd ar gael, rhagolygon gyrfa yn y dyfodol a bywyd myfyrwyr.
Bydd cyfle hefyd i'r rhai sy'n dod draw i gael taith o'r cyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr.
Mae cyrsiau nyrsio sydd ar gael yn y ddau gampws yn cynnwys graddau mewn Nyrsio Oedolion, Nyrsio Plant a Nyrsio Iechyd Meddwl.
Dywedodd Chris O'Grady, Prif Ddarlithydd ac Arweinydd Nyrsio Proffesiynol ar gampws Wrecsam: "Os ydych yn edrych i astudio nyrsio, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu i'r digwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal ar y noson agored a gyhelir ar ein campysau yn Wrecsam a Llanelwy.
"Mae gennym rai llefydd ar gael o hyd ar gyfer ein cymeriant mis Mawrth yn y ddau gampws, felly teimlwch ei fod yn gyfle da i ddangos beth allwn ni gynnig darpar Nyrsys."
Dywedodd Karen Griffiths, sydd hefyd yn Brif Ddarlithydd ac yn Arweinydd Proffesiynol mewn Nyrsio ar gampws Wrecsam: "Rydym yn hynod falch bod ein cyrsiau Nyrsio ar y brig yn gyntaf am foddhad myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr, felly byddem wrth ein bodd i ddarpar fyfyrwyr Nyrsio glywed popeth am yr hyn y gallwn ei gynnig iddynt."
Ychwanegodd Alison Lester-Owen, Prif Ddarlithydd ac Arweinydd Proffesiynol mewn Nyrsio ar gampws Llanelwy: "Rydym yn gwybod bod llawer o bethau i'w hystyried pan wrth ddewis ble yr hoffech chi astudio. Mae ein digwyddiadau agored yn gyfle gwych i gwrdd â darlithwyr a myfyrwyr presennol, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
"Archebwch eich lle drwy'r ffurflen archebu ar-lein sydd wedi ei gysylltu isod neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd jyst popio i mewn a throi fyny ar y diwrnod. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu darpar nyrsys y dyfodol ac arddangos ein cyrsiau o ansawdd uchel."
Cynhelir y digwyddiad ar y ddau gampws – dim ond drwy'r ffurflen ar-lein y bydd angen i chi ddewis y campws yr ydych am ei fynychu drwy'r ffurflen ar-lein yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn y digwyddiad, ffoniwch: 01978 293439 neu e-bostiwch: enquiries@glyndwr.ac.uk
DIWEDD
Nodiadau i'r golygydd:
- Mi restrodd Canllaw Prifysgolion Cyflawn (CUG) Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gyntaf am foddhad myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr, ac yn ail yn y DU gyfan, yn ei dabl yn 2023 – gyda Nyrsio hefyd yn y safle cyntaf am fodlonrwydd myfyrwyr.