Partneriaeth arloesol i ddarparu tai fforddiadwy gwyrddach yng Ngogledd Cymru

Dyddiad: Dydd Mawrth, Gorffennaf 29, 2025

Dyfarnwyd Partneriaeth SMART a ariennir gan Lywodraeth Cymru i Brifysgol Wrecsam a Thai ClwydAlyn er mwyn datblygu arloesedd ym maes tai cynaliadwy.

Bydd y cydweithrediad yn creu datrysiadau tai arloesol a chynaliadwy yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.  Nod y prosiect yw cyfrannu at effeithiolrwydd ynni cartrefi newydd gan ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan leihau costau ynni gweithredol ar gyfer y trigolion a lleihau effaith amgylcheddol ClwydAlyn. 

Y nod yw gosod esiampl o sut y gellir datblygu tai fforddiadwy a chynaliadwy a fydd yn fuddiol i’r gymuned yn ogystal â’r amgylchedd. 

Bydd Prifysgol Wrecsam yn chwarae rhan allweddol yn y broses o ddarparu’r Bartneriaeth SMART drwy roi arbenigedd academaidd mewn systemau ynni clyfar a thechnoleg carbon isel ar waith. Trwy aelod cyswllt graddedig ymroddedig, bydd y Brifysgol yn arwain ar fodelu technegol, astudiaethau dichonoldeb a datblygiad cysyniad grid clyfar wedi’i deilwra ar gyfer datblygiadau tai ClwydAlyn.

Bydd y cydweithrediad hwn hefyd yn cefnogi datblygiad cwricwlwm mewn cynaliadwyedd ac ynni adnewyddadwy, gan sicrhau effaith hirdymor y tu hwnt i gyfnod 12 mis y prosiect.

Dywedodd Laura Gough, Pennaeth Menter Prifysgol Wrecsam: "Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau'r cyllid hwn a fydd yn cynorthwyo gyda chenhadaeth ClwydAlyn tuag at dai carbon sero net, a fydd hefyd yn bwydo ein cwricwlwm cynaliadwyedd ac ynni cynaliadwy newydd. 

“Byddwn yn ceisio recriwtio unigolyn graddedig gydag arbenigedd cyfrifiadura i weithio’n uniongyrchol ar y prosiectau, yn debygol o ddechrau ym mis Medi am 12 mis.”

Ychwanegodd Tom Boome, Pennaeth Arloesi Technegol a’r Hinsawdd yn ClwydAlyn: "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Partneriaeth SMART. Nid yn unig y bydd y bartneriaeth yn cryfhau’r berthynas rhwng Prifysgol Wrecsam a ClwydAlyn; bydd yn ein galluogi i ddefnyddio arbenigedd y Brifysgol yn y byd academaidd - gan gyfuno ein gwybodaeth a’n profiad i ddarparu tai cynaliadwy a fforddiadwy ar gyfer ein trigolion.

“Trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy ar raddfa fwy yn ein datblygiadau tai, mae potensial i wella allyriadau gweithredol ein cartrefi yn sylweddol a sicrhau lleihad sylweddol mewn costau ynni i’n trigolion.”

Mae Partneriaethau SMART yn darparu cymorth ariannol i brosiectau cydweithredol ac arloesol sydd angen amrywiaeth o arbenigedd i gefnogi twf busnes, gwella cynhyrchiant a chynyddu’r natur gystadleuol.