Partneriaeth SMART newydd wedi'i sefydlu rhwng Phrifysgol Wrecsam a ACE Lifts Ltd

Date: Dydd Mercher, Awst 14, 2024

Mae Prifysgol Wrecsam wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Partneriaeth SMART 12 mis gydag ACE Lifts Ltd, a leolir yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint.

Mae ACE Lifts Ltd yn cynnig datrysiadau monitro cynnal a chadw arloesol o bell ar gyfer nwyddau a lifftiau teithwyr ledled y DU, gan leihau achosion o dorri i lawr, gwella diogelwch, a sicrhau dogfennaeth gyfredol trwy borth cwmwl.

Bydd y Bartneriaeth SMART rhwng ACE Lifts Ltd a Phrifysgol Wrecsam yn galluogi'r cwmni i adolygu a gwella ei system bresennol ac ymgorffori gwybodaeth hanfodol ar gyfer datblygiad parhaus, gan ddiogelu ei safle yn y farchnad at y dyfodol.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Charles Salter: “Mae’r Bartneriaeth SMART hon yn gam cyntaf tuag at sefydlu system Meddalwedd Rheoli Lifft Deallus fewnol i ddiwallu anghenion cynyddol ein cwsmeriaid.”

Ychwanegodd Laura Gough, Pennaeth Menter a Datblygu ym Mhrifysgol Wrecsam: “Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio ag ACE Lifts Ltd ac ymgorffori profiad diwydiant go iawn yn ein haddysgu er budd ein myfyrwyr.”

Mae Partneriaethau SMART yn gydweithrediadau tair ffordd rhwng cwmni, prifysgol, a Chydymaith neu unigolyn graddedig. Wedi’u hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, maent yn cefnogi prosiectau arloesol fel hyn i wella twf busnes, cynhyrchiant, a chystadleurwydd.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: enterprise@wrexham.ac.uk.