Partneriaid yn cyhoeddi gweledigaeth am gynllun adfywio mawr ar gyfer porth Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam
Partneriaid yn cyhoeddi gweledigaeth am gynllun adfywio mawr ar gyfer porth Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam
Cafodd y weledigaeth am brif gynllun adfywio mawr, sydd â’r nod o adfywio porth Ffordd yr Wyddgrug mewn i Wrecsam ei gyhoeddi heddiw, gyda chefnogaeth gan bedwar prif gefnogwr.
Cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Clwb Pêl-droed Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam eu gweledigaeth ar gyfer Prosiect Porth Wrecsam heddiw - cynllun dinesig ac economaidd ar raddfa fawr er mwyn ailddatblygu ardal fawr ger coridor Ffordd yr Wyddgrug, un o’r prif ffyrdd mewn i’r dref.
Y weledigaeth ar gyfer y prosiect ydi sicrhau adfywiad llewyrchus ar gyfer yr ardal, creu hwb i gefnogi buddsoddiad mewn busnes; cefnogi seilwaith academaidd, tai a chwaraeon; a chreu gofod cyhoeddus gwerthfawr sydd yn cysylltu â chanol tref Wrecsam.
Mae prif elfennau’r prosiect yn cynnwys datblygu cyfnewidfa fawr ar gyfer cludiant cyhoeddus yng Ngorsaf Reilffordd Gyffredinol Wrecsam; ailddatblygu pen ‘Kop’ yn Stadiwm y Cae Ras yn ogystal â datblygiad ehangach y Cae Ras; creu lleoliad gynadledda mawr a phwysig yn rhanbarthol, a llawer mwy.
Un o’r prif nodau a nodir yn y weledigaeth ydi adfywio pen y ‘Kop’ yn Stadiwm y Cae Ras, gyda’r nod o ddarparu eisteddle newydd i ddarparu mwy na 15,000 o seddi yn y Stadiwm, a helpu i wireddu potensial y stadiwm fel cyrchfan o’r radd flaenaf ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, ac fel stadiwm aml swyddogaeth y gellir ei defnyddio drwy gydol y flwyddyn sydd yn gallu llwyfannu chwaraeon o safon ryngwladol.
Mae’r prosiect hefyd yn gobeithio gwella cysylltiadau teithiau llesol i orsaf drenau Wrecsam Cyffredinol, a chefnogi creu canolfan deithio integredig a rhoi hwb i gyfleoedd cyflogaeth - gan gynnwys mannau gwell i ollwng a chasglu teithwyr bysiau, a darparu mynediad gwell i gerddwyr.
Bydd aelodau o Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn trafod y prif gynllun ddydd Mawrth 9 Gorffennaf, a bwriedir trafod y mater â budd-ddeiliaid os caiff y weledigaeth ei chymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym ni’n gadarnhaol iawn am y nodau sydd wedi’u hamlinellu ym mhrif gynllun coridor Ffordd yr Wyddgrug. Mae’n ddarn o waith uchelgeisiol iawn a fydd yn rhan bwysig o adfywio Wrecsam, a dwi'n falch iawn nodi fod gennym bartneriaid allweddol cryf yn cydweithio â ni i gyflawni’r nodau hyn.
“Mae yna brosiectau posibl gwych wedi’u nodi yn y prif gynllun, ond ni fydd modd i ni eu cyflawni ar ein pen ein hunain - a dyna pam, ac os cânt eu cymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol, byddwn yn trafod y syniad â budd-ddeiliaid allweddol ar y weledigaeth, a sut yn eu barn nhw y gallwn ni gyrraedd y nodau yma."
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam: “Dwi’n falch iawn y gallwn gyhoeddi gweledigaeth Partneriaeth Porth Wrecsam, sydd â’r potensial o ddenu â gwerth miliynau o bunnoedd o waith adfywio mewn i Wrecsam.
“Er ei fod yn uchelgeisiol, gellir gwireddu’r golau sydd wedi’u nodi yn ein gweledigaeth trwy’r bartneriaeth, a bydd y cynlluniau yn cyfuno nifer o elfennau allweddol cyffrous ar draws isadeiledd busnes, academaidd, tai a chwaraeon.”
Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Bydd adfywio Ffordd yr Wyddgrug yn gwella’r porth mewn i Wrecsam ar gyfer preswylwyr, myfyrwyr ac ymwelwyr. Mae hyn yn bwydo mewn i’n Strategaeth Campws 2025 sydd yn ymwneud â’r brifysgol a Wrecsam ar gyfer ffyniant y dref yn y dyfodol.”
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru: “Nod y cynlluniau sydd ar y gweill gan Bartneriaeth Porth Wrecsam ydi cyflwyno newid trawsnewidiol ar lefel lleol a rhanbarthol.
“Mae yna lawer o waith o’n blaenau a gyda’n gilydd mae gennym gyfle i gyflawni cysylltedd gwell o fewn Wrecsam ac ar draws yr ardal ehangach yn ogystal â chreu eiddo busnes a allai yrru twf economaidd cryf.
“Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys cynigion i ddatblygu’r Cae Ras a fyddai yn golygu ei fod yn gyfleuster sydd yn cynnig mwy o weithgareddau o fewn cymuned Wrecsam ochr yn ochr â denu rhagor o ddigwyddiadau rhyngwladol a darparu cartref i’r clwb pêl-droed sydd yn barod at y dyfodol. Mae Prosiect Porth Wrecsam yn ddatblygiad uchelgeisiol a chyffrous a dwi'n awyddus iawn i fwrw ymlaen gan gydweithio gyda'n partneriaid.
Dywedodd Spencer Harris, Cyfarwyddwr CPD Wrecsam: “Yn ogystal â bod yn gartref i Glwb Pêl-droed Wrecsam, mae’r Cae Ras yn ased o bwysigrwydd strategol i Gymru. Ynghyd â’n partneriaid yn y weledigaeth hon, rydym yn gyffrous iawn am y prosiect adfywio yma, gan gynnwys y potensial i sicrhau bod y stadiwm yn opsiwn hyfyw ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol.
“Gan ein bod yn eiddo i gymdeithas mantais gymunedol, mae’n haeddiannol y byddai nodau'r prosiect yma'n rhoi manteision sylweddol i Wrecsam a'r rhanbarth.”