Pennaeth Datblygu’r Gymraeg yn y Brifysgol yn cael ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Elen Mai Nefydd formally honoured by the Gorsedd of Bards at Wrecsam National Eisteddfod 2025 WEB

Dyddiad: Dydd Llun, Awst 11, 2025

Mae Pennaeth Datblygu'r Gymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam, Elen Mai Nefydd, wedi cael ei hanrhydeddu’n ffurfiol gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, gan gydnabod ei chyfraniad eithriadol i ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

Aelodaeth o Orsedd y Beirdd yw’r anrhydedd uchaf a roddir gan yr ŵyl flynyddol a chaiff ei gyflwyno i’r rhai a ystyrir iddynt wneud cyfraniad sylweddol i ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

Cyflwynwyd Elen Mai yn ffurfiol am ei chyfraniad i addysg uwch dros y 25 mlynedd diwethaf yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â’i gwaith yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg.

Roedd hi’n un o nifer dethol o unigolion sydd wedi cael eu cydnabod o bob rhan o’r wlad am eu cyflawniadau a’u hymrwymiad i Gymru, yr iaith a’u cymunedau lleol.

Ymunodd Elen Mai â gorymdaith yr aelodau newydd mewn seremoni arbennig awyr agored ar gae’r Eisteddfod yn Is-y-coed, lle y bu iddi ddwyn yr enw barddol, ‘Elen Mai Maelor’. Dewisodd Elen Mai yr enw i gynrychioli ei chysylltiad â’r ardal leol, lle mae wedi byw am dros 25 mlynedd, a derbyniodd ei gwisg werdd ei hun.

Yn ogystal â’i swydd yn y Brifysgol, mae Elen Mai hefyd yn Is-gadeirydd Diwylliant Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.

Elen Mai Nefydd receiving her robes - Wrecsam National Eisteddfod 2025 WEB

Yn siarad wedi’r seremoni, dywedodd Elen Mai: “Dyma anrhydedd mwyaf anhygoel fy mywyd - a phan glywch enwau’r rhai sydd wedi bod yn flaenorol a’r hyn y maent wedi’i gyflawni, mae’r anrhydedd hwn yn teimlo’n fwy arbennig fyth. Mae’n fraint cael bod ymhlith pobl mor ysbrydoledig, sydd wedi cael cymaint o effaith ar yr iaith Gymraeg a bywyd cyhoeddus yng Nghymru.”

“Hoffwn ddiolch i’r Brifysgol a’r cydweithwyr yr wyf wedi gweithio â hwy dros yr 20 mlynedd diwethaf, sydd wedi fy nghefnogi a bod yn rhan o’m taith broffesiynol. Mae’n fwy arbennig byth i dderbyn yr anrhydedd hwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yma yn Wrecsam - lle rydw i’n byw ac yn gweithio.”

Ychwanegodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Ar ran cymuned ein prifysgol, hoffwn estyn llongyfarchiadau enfawr i Elen Mai am gael ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod.”

"Mae’r anrhydedd hwn yn dangos ei hymroddiad i hyrwyddo a gwella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, yma yn y Brifysgol ac o fewn ein cymuned leol.”

“Fel sefydliad Cymreig, rydym yn hynod falch o’n treftadaeth a’n diwylliant cyfoethog, yn ogystal â’r iaith, ac yn integreiddio hyn yn llawn balchder i bopeth a wnawn drwy waith Elen Mai sy’n ein cynorthwyo i barhau i yrru hynny ymlaen. Llongyfarchiadau, Elen Mai.”