Dyddiad: Dydd Mawrth, Tachwedd 12, 2025

Rydym yn falch o gyhoeddi penodiad Dr Ruth Slater fel Deon newydd Ysgol Fusnes Wrecsam

Mae Ruth yn arweinydd academaidd profiadol gyda gyrfa yn cwmpasu addysg uwch, datblygu sefydliadol a dysgu proffesiynol ar draws cyd-destunau cyhoeddus, corfforaethol a rhyngwladol. Fel Pennaeth y Ganolfan Arweinyddiaeth Addysgol ac uwch arweinydd yng Nghyfadran Cymdeithas a Diwylliant Prifysgol John Moores Lerpwl, mae wedi arwain partneriaeth arloesol a mentrau sy’n seiliedig ar le, sy’n cysylltu addysg, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau yn rhanbarthol a chenedlaethol. 

Mae Ruth wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’r Gyfarwyddiaeth Addysg yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon, lle bu’n cefnogi rhaglenni cenedlaethol a rhyngwladol i gryfhau addysg glinigol a chapasiti arweinyddiaeth ar draws y systemau gofal iechyd. Ochr yn ochr â hyn, mae wedi arwain rhaglenni addysg weithredol sydd wedi ennill gwobrau a rhaglenni arweinyddiaeth gorfforaethol gydag Ysgol Fusnes Lerpwl, gan gydweithio â phartneriaid rhanbarthol, cenedlaethol, a byd-eang i wella galluoedd arweinyddiaeth, arloesedd, a pherfformiad sefydliadol.

Yn hyfforddwraig weithredol brofiadol, mae Ruth wedi cefnogi uwch arweinwyr ac arweinwyr newydd ar draws y sector cyhoeddus i ddatblygu hyder, gwytnwch, ac eglurder strategol. Mae ei hymarfer yn seiliedig ar ddull sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n cael ei yrru gan werthoedd, gan feithrin cydweithrediad, cynhwysiant, ac ymddiriedaeth ym mhob agwedd ar weithio mewn partneriaeth. Mae wedi ymrwymo’n llwyr i greu cymunedau cynaliadwy a datblygu methodolegau cyd-ddylunio sy’n dod ag addysg, mentergarwch, a phartneriaid dinesig ynghyd i gyflawni effaith gyffredin.

Mae ymchwil doethurol Ruth yn archwilio datblygu talent glinigol a llwybrau hyfforddi, gan archwilio sut mae arweinyddiaeth a diwylliant sefydliadol yn gallu gyrru twf yn y gweithlu a gwelliant ar draws y system. Mae hi hefyd yn Llywodraethwraig mewn coleg addysg bellach mawr yn y rhanbarth, sy’n adlewyrchu ei hymrwymiad parhaus i sgiliau, cynhwysiant, a dysgu gydol oes.

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Ruth:

“Rwyf wrth fy modd o fod wedi cael fy mhenodi i’r rôl o Ddeon Ysgol Fusnes Wrecsam. Rwyf wedi fy nghyffroi gan yr uchelgais a’r cyfleoedd a gyflwynir gan Weledigaeth a Strategaeth 2030 newydd Prifysgol Wrecsam i fod yn brifysgol ddinesig fodern flaenllaw gydag ymgysylltiad rhanbarthol a byd-eang cryf, yn darparu sgiliau, ymchwil effeithiol i hybu twf ac arloesedd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda myfyrwyr, staff a phartneriaid i wireddu’r weledigaeth hon.” 

Bydd Dr Slater yn dechrau ar ei swydd ar 2 Chwefror, 2026.