Penodi Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam

Date: Dydd Gwener, Mai 24, 2024

Mae'n bleser gennyf gan Brifysgol Wrecsam gyhoeddi penodiad yr Athro Joe Yates fel Is-Ganghellor newydd Prifysgol Wrecsam i gymryd yr awenau gan yr Athro Maria Hinfelaar ar ei hymddeoliad. 

Bydd Dr Davies yn ymuno â'r Brifysgol yr haf hwn, o'i swydd bresennol fel Deon y Gyfadran Gyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol De Cymru, lle bu'n gyfrifol am gyfeiriad strategol a datblygiad Cyfadran fawr, sy'n cynnwys wyth adran, sy'n cwmpasu'r holl ddisgyblaethau gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a mathemateg (STEM). 

Cyn ei yrfa ym Mhrifysgol De Cymru, bu Paul yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, yn bennaf ar ddatblygiadau seilwaith ar raddfa fawr, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd wedi bod yn ymwneud â phrosiectau amrywiol ar draws y DU ac yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Pell. Mae'n Beiriannydd Siartredig ac yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Sifil (FICE), yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac mae ganddo PhD mewn Dadansoddi Strwythurol Uwch. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn bennaf ym maes cryfhau a gwella strwythurol, gan ddefnyddio deunyddiau cyfansawdd datblygedig. 

Meddai’r Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam, a fydd yn ymddeol yr haf hwn: "Rwy'n cynnig fy llongyfarchiadau cynhesaf i Dr Davies ar ei benodiad. Rwy'n hyderus y bydd yr etifeddiaeth rwy'n ei gadael ar ôl yma ar fy ymddeoliad mewn dwylo diogel gyda'n Is-Ganghellor a'n Dirprwy Is-Ganghellor newydd. Rwy'n edrych ymlaen at weld twf ac esblygiad parhaus ein Prifysgol wych." 

Meddai’r Athro Joe Yates, a fydd yn ymuno â'r Brifysgol fel Is-Ganghellor yr haf hwn: "Cafodd Paul ei benodi ar ôl proses recriwtio gadarn a thrylwyr ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef a gweddill y Tîm Gweithredol pan fydd y ddau ohonom yn ymgymryd â'n swyddi newydd ym Mhrifysgol Wrecsam yn ddiweddarach eleni. Yn y cyfweliad, dangosodd Paul ymrwymiad clir i'r gwerthoedd, rhagolwg byd-eang a'r ymrwymiad i ddarparu'r addysg a'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr sy'n ganolog i ethos Wrecsam." 

Meddai Dr Davies: "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Athro Yates a gweddill y tîm, gan gefnogi ein staff a'n myfyrwyr, ar yr adeg gyffrous hon yn esblygiad y Brifysgol."  

Bydd Dr Davies yn ymgymryd â swydd y Dirprwy Is-Ganghellor ddechrau Medi 2024.