PGW i gynnal digwyddiad Trosglwyddo Gwybodaeth ar y cyd â sefydliadau academaidd eraill ar gyfer busnesau yng Ngogledd Cymru

Glyndwr University tower building

Date: 17/03/2023

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn falch o gyhoeddi eu bod yn cynnal digwyddiad ar y cyd â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth a Grŵp Llandrillo Menai, sef digwyddiad Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) ddiwedd mis Mawrth. Bydd y digwyddiad yn rhoi llwyfan i sefydliadau, busnesau a gweithwyr proffesiynol mewn diwydiant i ddysgu am bartneriaethau trosglwyddo gwybodaeth a'r manteision.

Mae’r digwyddiad hwn, sy’n digwydd ar 31 Mawrth 2023 rhwng 10.00yb a 1.00yh yng Ngwesty'r Cei, Marina Deganwy, LL31 9DJ (yn cynnwys cinio), wedi'i gynllunio i feithrin partneriaethau a chyfnewid gwybodaeth rhwng byd addysg a diwydiant, gyda'r nod o sbarduno arloesedd a thwf economaidd. 

Gan ddechrau gyda chyflwyniad gan Mick Card, Ymgynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth ar ran Innovate UK, mi fydd y digwyddiad hefyd yn arddangos astudiaethau achos gan bob sefydliad academaidd, sy'n cynnwys arbenigwyr academaidd a phartneriaid yn y diwydiant. Bydd cyfle hefyd i fynychwyr gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol, rhwydweithio gyda chyfoedion a  chael mewnwelediadau gwerthfawr i dechnolegau blaengar, tueddiadau sy'n dod i'r amlwg ac arferion gorau ym meysydd arbenigedd a gwmpesir gan bob sefydliad academaidd.  

Dywedodd Jane Edwards, Partner Trosglwyddo Gwybodaeth ac Arloesi yn PGW: 

"Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddod yn fwy cyfarwydd gyda KTP a'u buddion i bawb sy'n gysylltiedig, o fusnesau, academyddion a graddedigion sy'n dymuno datblygu eu gyrfa".

Mynegodd Prifysgol Aberystwyth eu cyffro i gymryd rhan ac ymgysylltu â busnesau:

"Rydym yn edrych ymlaen at ymuno â'r digwyddiad cyffrous hwn a chwrdd â'r busnesau sy'n mynychu. Mae gennym enghreifftiau gwych i'w rhannu gyda chi i gyd, gyda'r buddion a gafodd partneriaid y cwmni gyda’r prosiectau".

Dywedodd Grŵp Llandrillo Menai: 

"Mae gennym gyflwyniad a fideo i'w rannu gyda chi ar ein prosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth lwyddiannus a gwblhawyd yn ddiweddar gyda chwmni Fifth Wheel. Rydym yn gyffrous iawn i gwrdd â busnesau a rhannu ein profiadau fel sefydliad academaidd sy'n cefnogi cwmnïau lleol".

Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymroddedig i gefnogi ymchwil ac arloesedd sy'n cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas a'r economi. Drwy ddigwyddiadau fel hyn, nod y brifysgol yw creu cyfleoedd ar gyfer cydweithio, trosglwyddo gwybodaeth, a gweithio mewn partneriaeth a fydd yn sbarduno arloesedd a thwf economaidd yn y rhanbarth. 

Mae'r digwyddiad Arddangos KTPs yn agored i bawb ac mae cofrestru am ddim. Gyda nifer o lefydd yn gyfyngedig, archebwch chi le am ddim yma.  

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk