PGW yn Codi’n Sylweddol yn Safleoedd Canllaw Prifysgolion Da’r Sunday Times
Date: 2021
Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn dathlu eto wrth i'r brifysgol symud i fyny tabl cenedlaethol arall.
Mae Canllaw Prifysgolion Da’r Times a’r Sunday Times 2022, sy'n uchel ei barch, wedi gweld Glyndŵr Wrecsam yn codi 14 lle eleni, ac yn cael ei gydnabod fel yr ail brifysgol orau yn y DU, a’r gorau yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu, gan sgorio 82 y cant yn yr arolwg myfyrwyr.
Mae rhestr y papur newydd cenedlaethol yn seiliedig ar ddadansoddiad o foddhad myfyrwyr ag ansawdd yr addysgu a'u profiad myfyrwyr, safonau mynediad, ansawdd ymchwil, a rhagolygon graddedigion.
Ers 2018 mae'r canllaw hefyd yn cynnwys safleoedd cynhwysiant cymdeithasol ar gyfer prifysgolion yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r tablau'n seiliedig ar fesurau allweddol i adlewyrchu amrywiaeth eu cymeriant a'u llwyddiant dilynol wrth fynychu'r brifysgol.
Daw'r ganmoliaeth ddiweddaraf hon ychydig dros wythnos ar ôl i Glyndwr godi dros 40 safle yn y rhestr a luniwyd gan bapur newydd cenedlaethol arall.
Symudodd y brifysgol i fyny dros 40 o leoedd yn nhabl cynghrair Canllaw Prifysgolion Da’r Guardian, i'r 66ain yn y DU, ac fe'i cydnabuwyd unwaith eto am ansawdd yr addysgu.
Mae wedi bod yn haf o newyddion da i'r brifysgol gan fod Glyndŵr Wrecsam ar ei uchaf yn y DU am Nyrsio Oedolion am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACL) eleni.
Llwyddodd y brifysgol hefyd i ennill tendr Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i lansio llu cyffrous o gyrsiau Nyrsio ac Ymarferwyr Perthynol i Iechyd newydd.
Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Maria Hinfelaar: "Rwy'n falch iawn o gael cydnabyddiaeth arall o'r profiad myfyrwyr o ansawdd a ddarparwn ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
"Mae hyn yn newyddion mor dda i'n myfyrwyr newydd yn ogystal â'r rhai sydd eisoes yn datblygu eu hastudiaethau gyda ni, ac yn croesawu cydnabyddiaeth o'r gwaith caled a wneir gan staff a'r buddsoddiadau rydym yn eu gwneud."