Plismona’r Ddeddf Hela yng Ngogledd Cymru yn cael ei archwilio mewn adolygiad newydd ei gyhoeddi dan arweinyddiaeth ymchwilwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Wrexham Glyndwr University building in the sun

Date: Dydd Iau Ionawr 12fed 2023

Mae adolygiad annibynnol o blismona’r Ddeddf Hela yng Ngogledd Cymru - dan arweinyddiaeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam - wedi ei lansio heddiw (12/1/23).

Cynhyrchwyd yr adroddiad gan aelodau Cyfiawnder - y Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, a geisiodd barn y gymuned sydd o blaid a’r gymuned sydd yn erbyn hela, yr heddlu ac eraill sy’n gysylltiedig â’r mater.

Nod Sefydliad Ymchwil Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw bod yn adnodd cefnogol ar gyfer darparwyr gwasanaeth ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol, gan adnabod, hyrwyddo ac ymchwilio i ymarfer da yn y meysydd hynny.

Gorchmynnwyd yr adolygiad ym mis Mai 2022 gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, a tra bo’r testun yn amlygu bod gweithredoedd Heddlu Gogledd Cymru yn gyson ag arferion da, mae hefyd yn cynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer yr Heddlu ar sut mae’n plismona hela ar draws y rhanbarth.

Edrychodd ar heriau gorfodi ar gyfer yr heddlu sy’n gysylltiedig â Deddf Hela 2004; beth yn union yw arfer da mewn perthynas â phlismona’r gwaharddiad ar hela; pa mor dda y mae Heddlu Gogledd Cymru yn perfformio mewn perthynas â hela llwynogod yn anghyfreithlon a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â hela sy’n cael eu dwyn i’w sylw; a pha mor dda y mae’r Heddlu yn cydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gofnodi, ymateb, archwilio ac erlyn digwyddiadau sy’n gysylltiedig â hela.

Mae’r adolygiad yn nodi nad yw hela llwynogod yn flaenoriaeth plismona cenedlaethol, a bod y ffaith hon yn y gorffennol wedi llywio ymateb Heddlu Gogledd Cymru i’r mater. Ond mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod y modd y mae’r Heddlu yn plismona’r Ddeddf Hela yn cyd-fynd yn dda â chanllawiau arferion da. Mae hefyd yn pwysleisio i Heddlu Gogledd Cymru, yn y 12 mis yn arwain at yr adolygiad, “adnewyddu ei ddull ac arferion sy’n gysylltiedig â gorfodi’r gwaharddiad ar hela a digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag ef”.

Dywed Yr Athro Iolo Madoc Jones, Cyd Gyfarwyddwr Cyfiawnder - y Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Hoffwn i a’r tîm ymchwil ddiolch i bawb a gyfrannodd ar yr adolygiad annibynnol hwn drwy rannu eu profiadau o sut mae’r Ddeddf Hela yn cael ei gorfodi, a sut mae digwyddiadau sy’n gysylltiedig â hela yn cael eu plismona.

“Bwriad y Sefydliad Ymchwil ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yw bod yn adnodd ar gyfer darparwyr gwasanaeth ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol er mwyn adnabod, hyrwyddo ac ymchwilio i ymarfer da yn y meysydd hynny.

“Ein nod drwy gydol yr ymchwil a’r adolygiad oedd gweithio i’r safonau uchaf posib o uniondeb academaidd i sicrhau bod ein casgliadau ac unrhyw argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r broses wedi ein harwain i ystyried, yn gyffredinol, bod honiadau o hela llwynogod yn anghyfreithlon yn cael eu harchwilio mewn modd cymesur ar hyn o bryd.”

Dywed Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru: “Fy rôl i fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu yw sicrhau bod gan bobl Gogledd Cymru y gwasanaeth heddlu gorau posib, ble bynnag maent yn byw. Mae troseddau gwledig a bywyd gwyllt yn hynod bwysig i mi oherwydd yr effaith sylweddol y gall trosedd ei chael ar ein cymunedau gwledig ar draws Gogledd Cymru.

“Cododd llawer o bobl ar draws yr ystod barn ar hela y mater hwn gyda mi a chomisiynwyd yr adolygiad hwn gennyf i gynnig mewnwelediad annibynnol a gwrthrychol i sut mae’r Ddeddf Hela yn cael ei phlismona yng Ngogledd Cymru. Mae’n bwysig inni roi’r heddlu o dan lens i weld ble maent yn plismona’n effeithiol, a ble y gallai bod angen unrhyw welliannau.

“Tra bo’r canfyddiadau yn dangos bod Heddlu Gogledd Cymru yn plismona’r Ddeddf Hela yn effeithiol, ac wrth gydbwyso barn gref ar y ddwy ochr o’r bwlch hela, mae’r adroddiad hefyd yn argymell nifer o newidiadau i’n gweithrediadau. Byddaf nawr yn gweithio gyda’r Prif Gwnstabl ac uwch swyddogion Heddlu Gogledd Cymru i weld sut y gellir rhoi’r argymhellion hyn ar waith.

“Hoffwn ddiolch i’r tîm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam am eu gwaith wrth gwblhau’r adolygiad hwn mewn modd pragmataidd, proffesiynol a gwrthrychol. Hoffwn hefyd ddiolch yn ddiffuant i’r aelodau niferus o’r cyhoedd gymeron ran ac a rannodd eu barn.”

Disgwylir y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn adolygu’r canfyddiadau a dychwelyd at y Comisiynydd Heddlu a Throseddu gyda chynllun gweithredu ar sut y mae modd rhoi’r argymhellion ar waith.

I ddarllen yr adolygiad llawn a’i argymhellion, ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yma.

NODIADAU 

Roedd tair elfen i ‘Adolygiad annibynnol o berfformiad Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â gorfodi’r gwaharddiad ar hela llwynogod gyda chŵn hela a phlismona digwyddiadau sy’n gysylltiedig â hela’: arolwg, adolygiad o ddigwyddiadau yr adroddwyd a chyfweliadau gyda rhanddeiliaid allweddol.

Dosbarthwyd yr arolwg yn eang gan gasglu data o sampl fwy o ymatebwyr nag a fyddai wedi bod yn bosib trwy gyfweliadau’n unig, a chafwyd cyfanswm o 117 o ymatebion cymwys.

Archwiliwyd ymateb yr heddlu i 57 o ddigwyddiadau i gyd. Ac yn olaf, ar gyfer y cyfweliadau, lluniwyd ffrâm samplu o bartïon â diddordeb a chyfranogwyr, gan ddosbarthu gwahoddiadau i gyfrannu at yr ymchwil. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda deg o swyddogion neu staff yr heddlu, naw unigolyn o fewn sefydliadau Monitro/Sabotwyr, pedwar person sy’n ymwneud â hela, pum unigolyn sydd wedi cael eu heffeithio gan hela a pum person arall sydd â barn yn seiliedig ar eu gwaith. Cyflwynwyd tystiolaeth ysgrifenedig/fideo hefyd gan grwpiau hela a grwpiau sydd yn erbyn hela, a chan Wasanaeth Erlyn y Goron.