Prif Gwnstabl yn rhannu ei phrofiadau fel dynes yn yr heddlu gyda myfyrwyr

Date: Dydd Mawrth Tachwedd 21

Rhannodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ddeg o’i phrif flaenoriaethau plismona a rhoi trosolwg o’i rôl, mewn sgwrs â myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam.

Bu myfyrwyr Plismona Proffesiynol y Brifysgol yn gwrando ar Ms Blakeman – y Prif Gwnstabl benywaidd cyntaf yn hanes Heddlu Gogledd Cymru.

Yn ystod y sesiwn, bu’n trafod prif flaenoriaethau’r Heddlu, yn ogystal â rhannu ei phrofiadau o fod yn ddynes yn yr heddlu.

Dywedodd: “I mi, fy mhrif nod a’r grym sydd y tu ôl i bopeth rwy’n ei wneud yw dal pobl ddrwg yn gwneud pethau drwg a chadw’r gymuned yn ddiogel. Hynny yw’n prif flaenoriaeth yn sicr – a hynny yw fy nghymhelliant.

“Mae plismona’n swydd galed ond mae’n un hynod werth chweil. Gwaith plismona yw bod allan yn y gymuned rydym yn ei gwasanaethu, bod yn weladwy ynddi ac ymgysylltu â’r bobl. Ni yw’r llinell las gul honno rhwng y cyfiawn a’r anghyfiawn.”

Dechreuodd Ms Blakeman ei gyrfa ym 1992, ac mae hi wedi gweld “newid sylweddol iawn” fel dynes yn yr heddlu.

Dywedodd: “Pan ddechreuais i yn fy swydd, roedd plismona’n cael ei ddominyddu’n sylweddol gan ddynion. Roeddwn yn un o’r ychydig ferched roedd bod ar shifft yn anodd ac unig ar adegau.

“Mae’n hynod galonogol gweld pa mor bell rydym wedi cyrraedd dros y tri degawd diwethaf ac mae llawer mwy i’w wneud o hyd o ran cyflawni cydraddoldeb rhywedd.”

Gan ddirwyn ei sgwrs â’r myfyrwyr i ben cyn mynd ati i ateb eu cwestiynau, dywedodd Ms Blakeman: “Fy neges i chi yw byddwch yn falch o’r hyn rydych yn ei wneud, yr hyn rydych yn ei gyflawni ac yn gweithio tuag ato a bod yn ddiolchgar o bopeth rydych yn ei ddysgu.

“Mae plismona’n ymwneud â chadw pobl yn ddiogel, bod yn gynhwysol a sicrhau bod y gymuned yn lle hapus i fyw a gweithio ynddi, a’i nod yw gwneud gwahaniaeth.”

Dywedodd Abigail Lee, myfyriwr Plismona ar ei blwyddyn gyntaf: “Roedd gwrando ar Brif Gwnstabl benywaidd cyntaf Heddlu Gogledd Cymru yn ysbrydoledig ond hefyd yn galonogol i mi fel dynes ifanc – roedd yn wych i gael dealltwriaeth o’r hyn sy’n ei hysgogi.

“Roedd y sgwrs yn un hynod ddifyr ac roedd yn wych clywed am ei phrofiadau niferus ac amrywiol yn ystod ei gyrfa.”

Ategodd Andy Jones, Uwch Ddarlithydd Plismona Proffesiynol: “Hoffwn ddiolch o galon i’r Prif Gwnstabl am roi o’i hamser i rannu ei phrofiadau personol â’n myfyrwyr – y genhedlaeth nesaf o heddlu proffesiynol Gogledd Cymru. Roedd y sgwrs yn hynod o ddiddorol, a gwn fod ein myfyrwyr wedi cael budd mawr ohoni.”