Manylion cwrs

Côd UCAS

243H

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

3 BL (Llawn amser) 6 BL (Rhan amser)

Tariff UCAS

96-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

1af yn y DU

am Foddhad Myfyrwyr*

Yn y 5 uchaf

allan o Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon am Foddhad Cyffredinol*

Ymhlith y 10 uchaf yn y DU

am Gymorth Academaidd*

Pam dewis y cwrs hwn?

Datglowch eich potensial a dechreuwch eich taith i mewn i blismona modern. Bydd ein gradd Plismona Proffesiynol yn sicrhau eich bod yn barod i gwrdd â gofynion gwasanaeth heddlu'r 21ain ganrif.


Bydd y cwrs yma yn: 

  • Cyfuno dysgu seiliedig ar senario yn efelychu sefyllfaoedd plismona gyda darlithoedd a seminarau wedi'u dysgu gan staff academaidd profiadol a swyddogion heddlu profiadol wedi ymddeol
  • Cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth academaidd a sgiliau mewn plismona

Byddwch yn:

  • Ymgolli mewn cyfarfyddiadau plismona ffug fel rhan o'n Diwrnod Digwyddiad Mawr blynyddol, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer eich gyrfa ar ôl cymhwyso.
  • Cyfuno’r dysgu efelychiad hwn gyda darlithoedd a seminarau a addysgir gan staff academaidd profiadol profiadol a swyddogion heddlu profiadol sydd wedi ymddeol. Dysgu’r wybodaeth gyfreithiol angenrheidiol a'r sgiliau trosglwyddadwy allweddol i fodloni gofynion gweithredol gwasanaeth yr heddlu ar ôl cwblhau'r cwrs.

*Astudiwch radd sy'n rhan o faes pwnc sy'n 1af yn y DU am Foddhad Myfyrwyr yn y Complete University Guide, 2025.

*Mae'r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd: 

  • Ymhlith y 10 uchaf yn y DU am gymorth academaidd, yn ogystal ag asesu ac adborth, llais myfyrwyr, a threfniadaeth a rheolaeth.
  • Yn y 5 uchaf allan o Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon am foddhad cyffredinol.
  • Yn y 5 uchaf yn y DU am ymwybyddiaeth o gymorth lles meddwl.

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, 2024 

North Wales Police logoDyfed-Powys Police logoWest Mercia Police logoThames Valley Police logoCity of London Police logo
Policing students

Plismona Yn PGW

Gwyliwch i glywed gan fyfyrwyr ar ein BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol

Prif nodweddion y cwrs

  • Yn eich arfogi â'r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau a'r offer sy'n berthnasol iawn i gyflogaeth fel Cwnstabl yr Heddlu a rolau plismona eraill.
  • Bydd ein Diwrnod Digwyddiad Mawr yn eich galluogi i brofi digwyddiadau efelychiadol amser real a datblygu eich sgiliau yn gweithio'n broffesiynol gyda myfyrwyr o Wyddoniaeth Fforensig a Gwyddor Parafeddygon.
  • Datblygu gwybodaeth am y system cyfiawnder troseddol ehangach a'r sgiliau uwch wrth ymdrin yn effeithiol ac yn sensitif ag aelodau'r cyhoedd.
  • Manteisiwch ar ein 'Tŷ Dysgu' a ffug ystafelloedd cyfweld yr heddlu ar gyfer efelychiadau.
  • Creu cysylltiadau cryf a chynaliadwy â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n ymwneud â phlismona ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol.
  • Profwch radd sy'n falch o weithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gorllewin Mersia, Heddlu Dyffryn Tafwys a Heddlu Dinas Llundain. 

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i gysyniadau allweddol a phrosesau ym maes plismona, gan ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer rôl heddwas. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar safonau proffesiynol, y fframwaith cyfreithiol, a gwneud penderfyniadau yng nghyd-destun plismona.

  • Sgiliau Astudio mewn Addysg Uwch (20 credyd): Mae'r modiwl hwn yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau academaidd sy'n hanfodol i lwyddo mewn addysg uwch, gan gynnwys ymchwil, meddwl yn feirniadol, a chyfathrebu effeithiol.
  • Deall Rôl yr Heddwas (20 credyd): Mae’r modiwl hwn yn rhoi trosolwg o rolau, cyfrifoldebau a heriau y mae heddweision yn eu hwynebu mewn gwahanol gyd-destunau.
  • Proffesiynoldeb Heddlu (20 credyd): Bydd myfyrwyr yn archwilio pwysigrwydd safonau proffesiynol, moeseg, a rôl uniondeb mewn plismona.
  • Cyfraith Heddlu (20 credyd): Bydd y modiwl hwn yn archwilio fframweithiau cyfreithiol allweddol a deddfwriaeth sy'n sail i blismona yng Nghymru a Lloegr.
  • Cyfiawnder Troseddol (20 credyd): Bydd myfyrwyr yn astudio strwythur a phrosesau'r system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys prif asiantaethau a’u rhyngweithio â’r heddlu.
  • Gwneud Penderfyniadau ac Arweinyddiaeth (20 credyd): Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau o fewn plismona, gan dynnu sylw at gymhlethdodau gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd heriol.

 

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Yn yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd yn y flwyddyn gyntaf, gan fynd yn ddyfnach i feysydd penodol o blismona fel rheoli gwybodaeth, plismona digidol, a defnyddio pwerau’r heddlu.

  • Gwybodaeth a Chudd-wybodaeth mewn Plismona (20 credyd): Mae'r modiwl hwn yn dysgu myfyrwyr sut i reoli a defnyddio cudd-wybodaeth i lywio strategaethau plismona a phenderfyniadau gweithredol.
  • Plismona Digidol (20 credyd): Bydd myfyrwyr yn dysgu am effaith technolegau digidol ar blismona, gan gynnwys troseddu seiber ac ymgysylltu â thechnolegau mewn ymchwiliadau.
  • Plismona Ffyrdd (20 credyd): Bydd y modiwl hwn yn cwmpasu elfennau allweddol o blismona ffyrdd, gan ganolbwyntio ar ddeddfwriaeth, gorfodaeth, a’r heriau a wynebir gan swyddogion yn y maes hwn.
  • Cymhwyso Pwerau'r Heddlu (20 credyd): Bydd myfyrwyr yn dysgu am y pwerau cyfreithiol sydd ar gael i swyddogion heddlu a sut y maent yn cael eu cymhwyso'n ymarferol, gyda ffocws ar ddefnydd cyfreithlon, cymesur a moesegol.
  • Plismona Ymateb (20 credyd): Bydd y modiwl hwn yn archwilio’r heriau sy’n gysylltiedig â phlismona ymateb cyntaf, gan gynnwys rheoli trefn gyhoeddus a delio ag argyfyngau.
  • Ymchwiliadau Heddlu 1 (20 credyd): Bydd myfyrwyr yn archwilio’r broses ymchwilio, gan ddysgu sut i gynnal ymchwiliadau yn broffesiynol ac yn effeithiol.

 

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Yn y drydedd flwyddyn, bydd myfyrwyr yn ymgysylltu’n feirniadol â phynciau uwch ym maes plismona, gan arwain at brosiect traethawd hir. Mae’r flwyddyn hon yn canolbwyntio ar gymhwyso gwybodaeth a sgiliau mewn cyd-destunau cymhleth, gan gynnwys gweithio aml-asiantaeth ac ymdrin â heriau cyfoes.

  • Traethawd Hir (40 credyd): Bydd myfyrwyr yn cynnal ymchwil annibynnol ar bwnc o’u dewis, gan arwain at draethawd ysgrifenedig sy’n dangos eu gallu i ymgysylltu mewn dadansoddiad beirniadol a chyflwyno canfyddiadau ymchwil.
  • Trawma, Bregusrwydd a Llesiant mewn Plismona (20 credyd): Bydd y modiwl hwn yn archwilio effaith trawma a bregusrwydd ar unigolion yn y system cyfiawnder troseddol a rôl yr heddlu wrth ddiogelu eu llesiant.
  • Ymchwiliadau Heddlu 2 (20 credyd): Gan adeiladu ar y modiwl ymchwiliadau blaenorol, bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â phrosesau ymchwilio mwy cymhleth, gan gynnwys rheoli troseddau difrifol a gweithio gyda chyfarpar arbenigol.
  • Gweithio Aml-asiantaeth yn y System Cyfiawnder Troseddol (20 credyd): Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cydweithio rhwng gwahanol asiantaethau, fel yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, a darparwyr gofal iechyd, wrth reoli achosion cyfiawnder troseddol.
  • Plismona Cymunedau Cyfoes (20 credyd): Bydd myfyrwyr yn asesu’n feirniadol yr heriau sy’n wynebu’r heddlu mewn cymunedau modern, gan gynnwys materion amrywiaeth, cydlyniant, a diogelwch cymunedol.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion lleiaf yw:

1) 96-112 pwynt UCAS neu gyfatebol e.e.  Llwyddo rhaglen Mynediad i Addysg Uwch gyda 15 credyd lefel 2, 45 credyd lefel 3 i gael eu graddoli yn dilyn y rheolau cyfuno canlynol: 6 Rhagoriaeth, 33 teilyngdod, 6 llwyddo; ac 

2) Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ddangos yn eu datganiadu personol UCAS eu bod yn barod i ymgymryd ag Addysg Uwch a'r cymhelliant, yn enwedig, i ymgymryd â gradd BSc (Anrh) Plismona.

Neu

1) Mae mynediad i'r radd hefyd yn bosibl lle y mae ymgeisydd yn gallu dangos y bydd dysgu blaenorol ac/neu drwy brofiad yn eu galluogi i ymdopi â gofynion academaidd a phroffesiynol y rhaglen.

Yn amodol ar argaeledd lleoedd, byddai ymgeiswyr sy'n bodloni unrhyw un o'r gofynion hyn yn derbyn cynnig am gyfweliad. Yn y cyfweliad edrychir ymhellach ar barodrwydd yr ymgeiswyr i ymgymryd ag  Addysg Uwch a'u cymhelliant a'u cymhwysedd arddangosiadol i  i ymgymryd â gradd Plismona.

Addysgu ac Asesu

Caiff aseiniadau eu gosod o flaen llaw ac yn cael eu darparu i fyfyrwyr mewn llawlyfrau modiwlau a'u marcio a'u dychwelyd drwy e-bost. Mae myfyrwyr yn cael adborth electronig ac ar lafar ar yr holl asesiadau o fewn terfyn amser priodol a bennir gan reoliadau'r Brifysgol (pedair wythnos ar hyn o bryd).

Mae meini prawf asesu yn cael eu cyhoeddi yn llawlyfr rhaglenni'r myfyrwyr sy'n cael eu dosbarthu ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Er mwyn cynnal dull gweithredu lle gallu myfyrwyr ddatblygu eu diddordebau eu hunain ac yn cyfeirio at eu profiadau eu hunain gellir ateb cwestiynau llawer o'r aseiniadau o wahanol safbwyntiau.

Mae'r rhaglen yn cynnwys ystod o asesiadau gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau a chwarae rôl. 

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.

Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae'r rhaglen wedi ei chynllunio'n benodol i ddarparu ar gyfer y bobl hynny sy'n dymuno dod yn swyddogion yr heddlu. Tra nad yw cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn gwarantu cael eich penodi'n Gwnstabl Rheolaidd, mae'n galluogi myfyrwyr i wneud cais credadwy ar gyfer swydd o'r fath wrth iddynt godi. Mae hyn oherwydd y dylai cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus gynnig statws yn erbyn y gofynion hyfforddi a osodir gan heddluoedd/gwasanaethau unigol yn ystod cyfnodau prawf o gyflogaeth.

Ar gyfer y rhai hynny nad ydynt eisiau dod yn swyddog heddlu gwarantedig, ond sydd eisiau gweithio o fewn plismona, bydd y rhaglen hon yn darparu cymhwyster academaidd cref i gefnogi'r fath ddewis yrfaol.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Crime scene tape with police car in background

Cymerwch ran yn ein hymarferhyfforddi amser-real blynyddol

Pob blwyddyn rydym yn cynnal efelychiad dysgu ar ffurf Diwrnod Safle Trosedd proffil-uchel, gyda myfyrwyr o ystod o gyrsiau yn actio, bod yn dystion, archwilio ac adrodd ar drosedd proffil-uchel sydd wedi digwydd ar y campws.