Prifysgol Wrecsam a Sefydliad Wrecsam AFC yn ffurfio tîm ar gyfer rhaglen Bêl-droed a Datblygiad Cymunedol sydd newydd ei lansio

Dyddiad: Dydd Llun, Mehefin 23, 2025
Mae Prifysgol Wrecsam yn falch iawn o fod yn ffurfio partneriaeth gyda’i chymdogion, Sefydliad Wrecsam AFC, i gyflwyno cwrs newydd sbon a fydd yn canolbwyntio ar bŵer trawsnewidiol pêl-droed a’i effaith ar gymunedau.
Yr wythnos hon, fe lansiodd y Brifysgol a’r Sefydliad eu Gradd Sylfaen newydd mewn Pêl-droed a Datblygiad Cymunedol, gyda derbyniadau cyntaf y cwrs yn digwydd ym mis Medi.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth o’r rhan y mae pêl-droed yn ei chwarae mewn cymunedau, a hynny wrth ennill profiad hyfforddi ymarferol.
Elfen gyffrous iawn o’r cwrs yw’r ffaith y bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i weithio gyda Sefydliad Wrecsam AFC.
Sara Hilton a Jamie Edwards
Erbyn diwedd y rhaglen, bydd myfyrwyr yn barod i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr neu gyflawni rhaglenni cymunedol effeithiol.
Daeth staff y brifysgol, myfyrwyr a chynrychiolwyr o Sefydliad Wrecsam AFC ynghyd yr wythnos hon i ddathlu lansiad y rhaglen newydd.
Dywedodd Sara Hilton, Uwch Ddarlithydd mewn Pêl-droed a Gwyddor Hyfforddi yn y Brifysgol ac arweinydd y rhaglen: “Rydym yn teimlo’n hynod gyffrous i gyhoeddi a lansio ein gradd sylfaen newydd mewn Pêl-droed a Datblygiad Cymunedol, a phleser o’r mwyaf yw ffurfio tîm â Sefydliad Wrecsam AFC sy’n cael ei arwain gan bwrpas. Bwriad gwaith y sefydliad yw newid bywydau plant a phobl ifanc ar draws Wrecsam, Gogledd Cymru a hyd yn oed tu hwnt a hynny er gwell.
“Ni ellir gorbwysleisio pŵer pêl-droed a’i effaith gadarnhaol ar gymunedau, ac yn arbennig ar blant a phobl ifanc. Rydym wrth ein bodd yn cael gweithio gyda’r Sefydliad i gyflwyno’r rhaglen ysbrydoledig hon i ysgogwyr newid pêl-droed y dyfodol.
“Rydym yn falch iawn y byddwn yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o bêl-droed llawr gwlad, datblygiad chwaraeon, a gweithwyr proffesiynol allgymorth cymunedol, a fydd yn defnyddio’r gêm hyfryd fel ysgogwr i wneud da.”
Dywedodd Leigh Griffin, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Wrecsam: “Mae lansio’r rhaglen gyffrous hon, mewn partneriaeth ag Wrecsam AFC, yn gyfle enfawr ac yn enghraifft ragorol arall o’n perthynas gadarn a hirdymor gyda’r Clwb.
“Mae cynnydd trawiadol y Clwb - ar y cae ac oddi arno - wedi newid ein cymuned yn llwyr, ac ynghyd â’r ffaith eu bod yn rhannu ein gweledigaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn lleol ac yn fyd-eang, mae’r rhaglen hon yn ymgorffori’r ethos honno mewn ffordd hyfryd.
“Ar lansiad ein Strategaeth a Gweledigaeth newydd yn gynharach eleni, un o’r nodau y bu inni osod fel prifysgol oedd darparu profiadau sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr a chreu cyfleoedd a fydd yn ysbrydoli a galluogi pob myfyriwr i ddod yn raddedig hyderus, ac a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas.
“Mae’r rhaglen astudio newydd hon yn enghraifft wych o hynny - rydym yn hyderus y bydd y radd sylfaen hon yn darparu myfyrwyr gyda’r wybodaeth a’r profiadau sydd eu hangen arnynt i fynd yn eu blaenau i gael effaith werthfawr ar gymunedau, gyda phêl-droed yn gyfrwng i hynny.”
Ychwanegodd Jamie Edwards, Pennaeth Cymunedol yn Sefydliad Wrecsam AFC: “Mae disgwyl i’r radd sylfaen mewn Pêl-droed a Datblygiad Cymunedol fod yn sbardun go iawn ar gyfer Sefydliad Wrecsam AFC a’n cymuned ehangach. Fel clwb pêl-droed, mae gennym gyfrifoldeb unigryw - a chyfle go iawn - i arwain newid ystyrlon. Ond, i wneud hynny, mae angen gweithlu medrus ac ysgogol iawn arnom.
“Bydd y rhaglen hon yn helpu i ddatblygu’r gweithlu hwnnw drwy gynnig profiadau unigryw a gwirioneddol - yma yn Wrecsam ac yn rhyngwladol - gan roi’r adnoddau, cipolygon a’r hyder i fyfyrwyr er mwyn cael effaith wirioneddol.
“Mae’n amlwg bod Prifysgol Wrecsam yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer twf a datblygiad sy’n canolbwyntio ar y gymuned, ac rydym wir yn teimlo’n gyffrous i weld sut fydd y rhaglen hon a’n partneriaeth gyfan yn datblygu a llewyrchu."