Prifysgol Wrecsam a Choleg Polytechnig Humber yn cyhoeddi partneriaeth strategol i hyrwyddo ymchwil gymhwysol, arloesi a dysgu byd-eang 

Dyddiad: Dydd Lau, Ebrill 24, 2025

Mae Prifysgol Wrecsam a Choleg Polytechnig Humber wrth eu bodd yn cyhoeddi partneriaeth arloesol gyda'r nod o feithrin ymchwil gymhwysol, arloesi, a chyfleoedd addysgol byd-eang.

Bydd y cydweithrediad strategol hwn rhwng sefydliadau Gogledd Cymru a Chanada yn canolbwyntio ar greu llwybrau i fyfyrwyr, cyfadran, a phartneriaid diwydiant gymryd rhan mewn mentrau dysgu ac ymchwil trawsnewidiol sy'n mynd i'r afael â heriau byd sy'n datblygu'n gyflym.

Mae'r bartneriaeth yn tanlinellu ymrwymiad y ddau sefydliad i ysgogi rhagoriaeth academaidd, cefnogi anghenion y diwydiant, a hyrwyddo cyfnewid diwylliannol trwy raglenni a chydweithrediadau arloesol.

Trwy gyfuno cryfderau Prifysgol Wrecsam mewn twf economaidd rhanbarthol ag arbenigedd Humber Polytechnic’ mewn addysg gymhwysol, bydd y bartneriaeth yn sicrhau canlyniadau dylanwadol i fyfyrwyr a diwydiannau yn fyd-eang.

Meddai Moss Garde, Dirprwy Is-Ganghellor Ymgysylltu Allanol a Phartneriaethau ym Mhrifysgol Wrecsam: “Mae’r bartneriaeth hon â Choleg Polytechnig Humber yn gyfle i ddyfnhau ein ymrwymiad i ymchweil gymhwysol, arloesi ac ymgysylltu byd-eang.  

“Gyda'n gilydd, byddwn yn creu llwybrau newydd i fyfyrwyr a chyfadran, wrth fynd i'r afael ag anghenion diwydiannau trwy atebion cydweithredol."

Gina Antonacci yw'r Uwch Is-lywydd Academaidd Humber Polytechnic, ychwanegodd: "Mae Humber yn falch o bartneru â Phrifysgol Wrecsam i ddatblygu dysgu cymhwysol a chydweithio rhyngwladol. Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein gweledigaeth gyffredin o rymuso dysgwyr gyda’r offer sydd eu hangen arnynt i lwyddo wrth feithrin arloesedd sydd o fudd i gymunedau ledled y byd."

Mae’r meysydd cydweithio allweddol y bydd y ddau sefydliad yn cydweithio arnynt, yn cynnwys:  

  • Ymchwil ac arloesi cymhwysol – trwy ddatblygu cynigion ariannu ar y cyd i gefnogi prosiectau ymchwil blaengar sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang.
  • Cytundebau llwybr – a fydd yn gweld datblygu llwybrau i gyn-fyfyrwyr Humber ddilyn rhaglenni Meistr ym Mhrifysgol Wrecsam.
  • Rhaglenni symudedd rhyngwladol – megis hyrwyddo ymgysylltiad myfyrwyr byd-eang trwy fentrau, gan gynnwys Ysgol Haf Fyd-eang flynyddol Humber a chyfleoedd dysgu tymor byr ym Mhrifysgol Wrecsam.
  • Cyfnewid cyfadran a myfyrwyr – ymweld â rhaglenni cyfadran, cyfnewid myfyrwyr, Dysgu Rhyngwladol Cydweithredol Ar-lein (COIL), a chydweithrediadau eraill ar lefel cwrs i wella profiadau dysgu trawsddiwylliannol.
  • Micro-Gredydau ar gyfer datblygiad proffesiynol – gan gynnwys archwilio rhaglenni hyfforddi a micro-gymwysterau wedi'u teilwra ar gyfer cynulleidfaoedd academaidd a diwydiant i fynd i'r afael ag anghenion y gweithlu sy'n dod i'r amlwg.
  • Fframwaith ar gyfer cyfnewid academaidd – sefydlu fframwaith cadarn i hyrwyddo cyfnewid academaidd, ymchwil a diwylliannol rhwng y ddau sefydliad.
  • Datblygu cwricwlwm – cefnogaeth ar gyfer arloesi cwricwlwm mewn meysydd academaidd â blaenoriaeth, yn unol â thueddiadau diwydiant.
  • Llwyfannau cydweithredol ar gyfer ymchwil – creu llwyfannau ar y cyd i ddarparu atebion ymchwil systematig sy'n gyrru arloesedd ar draws disgyblaethau.

Mae’r bartneriaeth hon yn cyd-fynd â gweledigaeth a strategaeth 2030 newydd Prifysgol Wrecsam i ddod yn brifysgol ddinesig sy’n arwain y byd, wrth gefnogi cenhadaeth Coleg Polytechnig Humber i arwain mewn addysg gymhwysol trwy gydweithio rhyngddisgyblaethol.   

I gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth hon neu gyfleoedd ar gyfer cydweithio, cysylltwch: