Prifysgol Wrecsam a Wurkplace yn cwblhau Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth

A group of four people in a workspace

Date: Dydd Lau, Awst 22, 2024

Mae Prifysgol Wrecsam a chwmni Wurkplace o Gaer wedi bod yn cydweithio ar Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a fydd yn gwella ei busnes yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Drwy greu meddalwedd mewnol yn y cwmni, bydd Wurkplace nawr yn gallu cynnig gwasanaethau AD pwrpasol ar gytundebau allanol i’w gwsmeriaid am brisiau cystadleuol.

Dywedodd Mark Whitfield, Cyfarwyddwr Cwmni Wurkplace: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cwblhau’r KTP hwn, a fydd yn trawsnewid y cwmni trwy beidio â dibynnu ar ddarparwyr meddalwedd allanol.

“Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu ymateb i anghenion ein cwsmeriaid yn gyflym a chynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf am gyfraddau cystadleuol. Rydym hefyd wedi manteisio ar leoliadau myfyrwyr busnes, cyfrifiadura a marchnata i gefnogi gwasanaethau blaengar y cwmni.”

Dywedodd Laura Gough, Pennaeth Menter a Datblygu ym Mhrifysgol Wrecsam: “Mae KTP Wurkplace wedi bod yn gydweithrediad gwych, gan ei fod wedi dod ag anghenion busnes i galon ein haddysgu, gan roi golwg uniongyrchol i’n myfyrwyr ar ddisgwyliadau’r diwydiant; a chaniatáu i’r academydd rannu ei arbenigedd ymarferol mewn ffordd amlwg er budd y cwmni.”

Ychwanegodd Mick Card, Cynghorydd Rhanbarthol Innovate UK sydd yn rhannol-ariannu prosiectau KTP: "Mae llwyddiant y KTP hwn yn brawf o’r gwaith caled a’r cydweithio i bawb dan sylw. Mae cael y tîm cywir yn ei le yn hollbwysig ac mae’r partneriaid wedi cyflawni’n dda gyda’i gilydd."

Wedi'i ariannu gan Innovate UK a Llywodraeth Cymru, mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn bartneriaeth tair ffordd rhwng cwmni, prifysgol, a Chydymaith, sy'n caniatáu i raddedigion weithio ar brosiect diwydiant byw gyda chymorth a chefnogaeth academaidd reolaidd. Mae prosiectau KTP yn cymhwyso gwybodaeth ac arbenigedd blaenllaw academyddion i brosiectau sy'n hanfodol i fusnes, gan helpu cwmnïau i yrru busnes yn ei flaen.