Prifysgol Wrecsam yn adnewyddu ei phartneriaeth academaidd gyda Sefydliad y Peirianwyr Sifil
Dyddiad: Dydd Llun, Rhagfyr 11
Mae Prifysgol Wrecsam wedi adnewyddu ei phartneriaeth gyda Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) - corff proffesiynol peirianneg sifil mwyaf blaenllaw'r DU.
Mae'r bartneriaeth academaidd rhwng y Brifysgol ac ICE yn golygu y bydd myfyrwyr yn elwa o'r cysylltiadau cryf a'r arbenigedd a rennir rhwng y ddau sefydliad, yn ogystal â phartneriaethau â chyflogwyr rhanbarthol.
Ymunodd Aulay Mackenzie, Dirprwy Is-Ganghellor Dros Dro yn y Brifysgol, ag Elena Rinaldi, Rheolwr Partneriaethau Academaidd ICE, i lofnodi'r cytundeb newydd yn ffurfiol. Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad am y tro cyntaf yn ôl yn 2018.
Dywedodd Louise Duff, Arweinydd Rhaglen mewn Peirianneg Sifil: "Mae'n wych ein bod wedi adnewyddu ein partneriaeth academaidd gyda Sefydliad y Peirianwyr Sifil. Mae'n dyst i'r ffaith bod gan ein cwrs Peirianneg Sifil enw gwych, gyda diwydiant wrth wraidd popeth. Mae ein cynnig yn Wrecsam yn un unigryw felly mae'n wych bod y Sefydliad yn cydnabod hynny.
"Mae ein myfyrwyr ac aelodau staff yn elwa o'r bartneriaeth wych hon, drwy'r arbenigedd a'r arweiniad a rennir. Mae'r gymeradwyaeth hon yn gymeradwyaeth ganmol gan gorff proffesiynol peirianneg sifil mwyaf blaenllaw'r DU o'n rhaglen astudio."
Ychwanegodd Elena: "Wrth siarad ar ran Sefydliad y Peirianwyr Sifil, rydym yn falch iawn o adnewyddu ein partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam – sefydliad, sy'n rhoi profiad dysgu arloesol a hyblyg i fyfyrwyr.
"Rydym yn falch iawn o rannu ein gwybodaeth arbenigol gyda myfyrwyr a staff yn y Brifysgol, a helpu'r sefydliad i ddatblygu ei gysylltiadau diwydiant ymhellach, sydd eisoes wedi'u hen sefydlu.
"Mae'r bartneriaeth hon hefyd yn golygu, unwaith y bydd myfyrwyr Wrecsam yn graddio, y byddant wedi cwrdd â'r sylfaen addysgol ar gyfer cofrestru Peiriannydd Corfforedig a gallant fynd ymlaen i fod yn aelodau proffesiynol o'r Sefydliad, sy'n fuddiol o safbwynt datblygu gyrfa, yn ogystal ag adeiladu'r rhwydweithiau hynny yn y maes."