Prifysgol Wrecsam yn cyflawni Gwobr Efydd ar gyfer y Siarter Cydraddoldeb Hil

Wrexham campus clock tower

Dyddiad: Dydd Mawrth, Mehefin 17, 2025

Mae ymdrechion Prifysgol Wrecsam i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ar sail hil a chreu amgylchedd mwy cynhwysol wedi eu cydnabod gyda Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hil.

Mae'r wobr yn tynnu sylw at ymrwymiad y Brifysgol i gyflawni cydraddoldeb hil ac yn nodi cyflwyno rhaglen gynhwysfawr sydd â'r nod o chwalu'r rhwystrau a chreu amgylchedd mwy cynhwysol i fyfyrwyr a staff Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.

Mae'r Siarter Cydraddoldeb Hil (REC) yn fframwaith a gydnabyddir yn genedlaethol, sy'n darparu dull strwythuredig o feithrin newid arwyddocaol a hyrwyddo cyfleoedd teg ar draws y byd academaidd. 

Mae'r wobr fawreddog hon, a gadarnhawyd mewn llythyr gan Anne Mwangi, Pennaeth y Siarter Cydraddoldeb Hil yn Advance HE, yn cydnabod bod cyflwyniad y Brifysgol yn bodloni'r safonau llym disgwyliedig, gyda'r Wobr Efydd yn ddilys tan fis Mehefin 2030.

Dros gyfnod o dair blynedd, bu Tîm Hunan Asesu Siarter Cydraddoldeb Hil y Brifysgol, sy'n cynnwys cynrychiolaeth gan staff o bob cwr o'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, yn gweithio i ddeall yr heriau a'r annhegwch sy'n arwain at anghydraddoldeb ar sail hil.

Mae'r cyflawniad hwn yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn nhaith barhaus y sefydliad at feithrin cymuned prifysgol fwy cynhwysol a theg. 

Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: "Mae'r wobr hon yn dystiolaeth o ymrwymiad diysgog ein staff a'n myfyrwyr i wreiddio cydraddoldeb a chynhwysiant ym mhob elfen o fywyd prifysgol, sy'n cyd-fynd yn llwyr â'n Gweledigaeth a Strategaeth 2030 newydd.

"Mae ein fframwaith strategol yn pwysleisio'r ymrwymiad hwn drwy ei themâu craidd - profiad a chyfleoedd y myfyriwr; pobl, lleoedd a phartneriaeth; ac ymchwil a menter.

"Ac, wrth wraidd y cyfan mae cynhwysiant, un o werthoedd craidd y Brifysgol, sydd wedi'i blethu drwy gydol ein gweledigaeth strategol, gan weithredu fel egwyddor arweiniol ar gyfer ein cymuned brifysgol gyfan, a llywio ein hymdrechion torfol i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn.

"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dystiolaeth o'n hymdrechion torfol i feithrin amgylchedd academaidd mwy teg i bawb. Hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn. Heb eu cydweithrediad a'u hymrwymiad, ni fyddai cyflawni hyn wedi bod yn bosibl."

Bu i'r panel dyfarnu ganmol sawl maes o arfer da, yn arbennig gwaith y Brifysgol i sicrhau bod Cydraddoldeb Hil yn rhan o'i nodau dinesig ehangach.

Bu iddynt nodi: "Mae'r cysylltiadau ystyrlon a wnaed rhwng gwaith REC a nodau cyfrifoldeb dinesig eraill y Brifysgol, yn cynnwys ei huchelgais i ddod yn sefydliad sy’n wybodus o ran Trawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE) yn dangos ymdrech i ymgorffori cydraddoldeb hil mewn gwerthoedd sefydliadol ehangach a strategaeth allanol."

Fel rhan o'r hyn a oedd yn ddisgwyliedig i gyflawni'r wobr, roedd gofyn i'r Brifysgol ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil.

Mae'r cynllun yn cefnogi Gweledigaeth a Strategaeth y Brifysgol drwy alluogi i amgylchedd cynhwysol gael ei feithrin lle gall staff ffynnu, gan dywys mentrau cydraddoldeb hil y Brifysgol dros y pum mlynedd nesaf wrth i'r sefydliad barhau ei daith tuag at ddod yn brifysgol wrth-hiliol.