Prifysgol Wrecsam yn cyhoeddi enw ei adeilad peirianneg newydd gyda balchder

Wrexham University engineering building

Dyddiad: Dydd Lau, Awst 28, 2025

Mae Prifysgol Wrecsam yn falch o gyhoeddi enw ei hadeilad peirianneg newydd - ‘CanfodAu – Canolfan Peirianneg ac Arloesi’ (Centre of Engineering and Innovation). 

Nod ‘CanfodAu - Canolfan Peirianneg ac Arloesi’ yw adlewyrchu gweledigaeth, lleoliad a threftadaeth y sefydliad. 

  • Gair Cymraeg yw Canfod a’i ystyr yw darganfod, adnabod, dirnad, cael hyd i rywbeth neu i bennu rhywbeth - cysyniadau sydd oll yn ganolog i beirianneg ac arloesedd. 
  • Ar y llaw arall, Au yw’r symbol cemegol ar gyfer aur - sy’n cyfeirio at AUR ac yn deyrnged gynnil i do aur arbennig yr adeilad. 

Mae’r cyfleuster newydd yn ymgorffori gweledigaeth y Brifysgol o ddod yn brifysgol ddinesig fodern flaenllaw yn fyd-eang - gan weithredu fel hwb a fydd yn darparu sgiliau o'r radd flaenaf, yn meithrin arloesedd ac yn ysgogi twf rhanbarthol cynhwysol, gan agor cyfleoedd i fyfyrwyr, busnesau’r ardal ac i’r gymuned. 

Bydd yr adeilad - sef prosiect adeiladu cyntaf Bargen Twf y Gogledd - yn darparu canolfan ar gyfer cydweithredu a datblygu sgiliau cynaliadwyedd, ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu o safon uchel ar gyfer yr ardal.  

Yn benodol, bydd yn canolbwyntio ar ddeunyddiau cyfansawdd fel opsiynau amgen ysgafn ar gyfer gweithgynhyrchu, gan gefnogi'r dasg o ddatblygu a mabwysiadu technolegau hydrogen, a manteisio ar fuddiannau arbenigedd opteg a ffotoneg.  

Gan adeiladu ar hanes hir a balch y Brifysgol ym maes peirianneg - gyda chysylltiad agos â threftadaeth ddiwydiannol yr ardal, mae’r adeilad yn cynrychioli parhad yr etifeddiaeth honno yn ogystal â cham dewr i'r dyfodol. 

Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r enw newydd ar gyfer ein hadeilad peirianneg, 'CanfodAu - Canolfan Peirianneg ac Arloesi', sy’n bosibl diolch i gyllid Bargen Twf y Gogledd. 

“Roeddem yn teimlo bod dewis enw Cymraeg yn dathlu ymrwymiad ein prifysgol i’r Gymraeg a threftadaeth Cymru, sy’n rhan bwysig o’n hunaniaeth. Yn ogystal, mae’n anrhydeddu treftadaeth ddiwydiannol falch ein hardal, lle y bu peirianneg ac arloesedd yn chwarae rhan flaenllaw o ran siapio ein cymunedau a’n diwydiannau. 

“Trwy enwi’r adeilad yn ‘Canolfan Peirianneg ac Arloesi - CanfodAu’, rydym yn atgyfnerthu ein safle fel prifysgol Gymreig gydag uchelgais byd-eang, yn seiliedig ar hanes ac arloesedd ein cenedl. 

“Daw’r cyhoeddiad hwn ychydig wythnosau ar ôl agor yr adeilad yn swyddogol ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd, sy’n destun cyffro mawr i ni gan y bydd yn chwarae rhan sylweddol yn y broses o wireddu ein huchelgeisiau o’i gwneud yn ganolfan arbenigol ar gyfer ymchwil a datblygiad, ac yn hwb ar gyfer ymgysylltiad cymunedol, yma yng ngogledd Cymru.”  

Ychwanegodd Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau yn Uchelgais Gogledd Cymru: “Rydym yn croesawu enwi ‘CanfodAu - Canolfan Peirianneg ag Arloesi’, enw sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad ni a’r Brifysgol i hyrwyddo ein hiaith, ein diwylliant a'n treftadaeth, yn ogystal â chyfleu ein huchelgeisiau ar gyfer yr ardal yn y dyfodol.  

"Mae'r prosiect yn enghraifft berffaith o'r datblygiad economaidd, cynaliadwy rydym yn ceisio'i gyflawni drwy ein rhaglen Arloesedd mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel - gan sicrhau cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant gwerth uchel yn ogystal â chefnogi busnesau gweithgynhyrchu i ddatgarboneiddio. Yn cael ei gyflawni’n gyflym, ac yn agor yn swyddogol o fewn ychydig o wythnosau, mae'r prosiect yn canolbwyntio’n gryf ar werth cymdeithasol, a bydd yn gatalydd ar gyfer arloesedd, sgiliau a chydweithrediad diwydiant ledled gogledd Cymru.”