Prifysgol Wrecsam yn dathlu "naid aruthrol" i'r 10 safle uchaf fel cyflogwr cynhwysol LHDTC+
Date: Dydd Llun, Mehefin 17, 2024
Mae Prifysgol Wrecsam wedi codi mwy na 30 o leoedd i'w rhestru yn y 10 uchaf yn Rhestr Cyflogwyr 100 Uchaf Stonewall sy'n cael ei chydnabod am feithrin amgylchedd gwaith cynhwysol i'w staff LHDTC+.
Gan sicrhau statws Gwobr Aur ac yn codi ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall o'r 41ain safle i'r nawfed, mae'r Brifysgol hefyd wedi cael ei rhoi yn y pumed safle o fewn sector addysg uwch.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae'r Brifysgol wedi gwneud cynnydd cryf tuag at greu amgylchedd gwaith cynhwysol trwy gynyddu ymgysylltiad cymunedol ac amlygu ei hymrwymiad i gymuned LGBTC+ y sefydliad. Cyflawnwyd hyn drwy gynnal stondinau mewn digwyddiadau Pride lleol, yn ogystal â ffurfio partneriaethau ystyrlon gyda grwpiau cymunedol lleol.
Ymhlith y meysydd o arfer da yn y Brifysgol a gydnabyddir gan Stonewall roedd polisïau cyfeillgar i deuluoedd y sefydliad, y mecanweithiau adborth sydd ar gael i gefnogi gwelliant parhaus, adnoddau a chanllawiau sydd ar gael i godi ymwybyddiaeth staff a myfyrwyr a monitro gwybodaeth yn effeithiol i helpu i lywio cynnydd.
Canmolodd Stonewall hefyd weithgarwch allgymorth y sefydliad a wnaed gyda grwpiau a sefydliadau LHDTC+ lleol, gan gefnogi eu gwaith parhaus. Amlygwyd arfer da hefyd mewn perthynas â'r dull rhyngblethol a gymerwyd gan y sefydliad lle rhoddir ystyriaeth i effaith gynyddol gwahaniaethu ar unigolion sydd â sawl hunaniaeth.
Meddai Alison Bloomfield, Pennaeth Datblygu Sefydliadol ac Amrywiaeth yn y Brifysgol: "Rydym wrth ein bodd o gael ein gosod yn nawfed safle Rhestr Cyflogwyr Gorau Stonewall - nid yn unig y mae hwn yn naid aruthrol o safle'r llynedd yn 41ain ond mae hefyd yn wych gweld ein bod wedi ein gosod yn y pumed safle o fewn sector addysg uwch.
"Hoffwn ddiolch i staff, a gymerodd yr amser i gwblhau ein holiadur adborth staff a oedd yn cyd-fynd â'r cyflwyniad, mae'r ymatebion hynny'n hynod werthfawr ac yn ein helpu i wneud gwelliannau pellach.
"Mae creu amgylcheddau cynhwysol yn gwneud ein hamgylchedd dysgu a gwaith yn fwy diogel ac yn well i bawb - nid pobl LHDTC+ yn unig. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch a diolch i'n Rhwydwaith Staff LHDTC+ a'r tîm Datblygu ac Amrywiaeth Sefydliadol am y gwaith y maent wedi'i wneud i gyflawni'r 10 safle uchaf hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i'n holl staff am helpu i wneud ein prifysgol yn lle arbennig a chynhwysol i weithio a dysgu."
Ychwanegodd Colin Macfarlane, Cyfarwyddwr Rhaglenni ac Incwm Stonewall "Mae gweithredu arferion a pholisïau cynhwysol yn hanfodol i gyflogwyr sy'n dymuno denu a chadw talent LHDTC+ gorau.
"Mae'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn tynnu cyfranogwyr o ddiwydiannau a sectorau amrywiol, ac mae pob un ohonynt yn deall mai cynwysoldeb yw'r dyfodol ac maent yn arwain y ffordd yn y newid hanfodol hwn. Drwy hyrwyddo gweithwyr LHDTC+, rydych chi'n meithrin gweithlu hapus a brwdfrydig ac yn cyfrannu at Deyrnas Unedig lle gall pobl LHDTC+ ffynnu fel eu gwir hunaniaeth."