Prifysgol Wrecsam yn dathlu urddo’r Is-ganghellor, yr Athro Joe Yates

Dyddiad: Dydd Mercher, Hydref 1, 2025
Mae Prifysgol Wrecsam wedi urddo’n ffurfiol ei His-ganghellor, yr Athro Joe Yates, mewn seremoni a ddaeth â myfyrwyr, staff, partneriaid cymunedol ac arweinwyr dinesig ynghyd i nodi dechrau’r bennod nesaf yn hanes balch y sefydliad.
Er bod yr Athro Yates wedi ymuno â’r Brifysgol ym mis Awst 2024, bwriad y digwyddiad oedd cydnabod yn ffurfiol ei arweinyddiaeth ar ôl iddo ddal y swydd am ychydig dros flwyddyn. Dyma oedd yn gyfle i fyfyrio ar daith Prifysgol Wrecsam hyd yma, ac amlinellu gweledigaeth y sefydliad i ddod yn brifysgol ddinesig flaenllaw.
Yn ogystal, darparodd gyfle i ddathlu ei daith academaidd, broffesiynol a phersonol ei hun. Perthnasol iawn oedd hyn o ystyried bod yr Athro Yates wedi’i gynnwys fel astudiaeth achos yn adroddiad Elitist Britain 2025 newydd y Sutton Trust a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Mae’r gwaith hwn yn edrych ar gefndiroedd addysgol unigolion blaenllaw ledled y byd gwleidyddol, byd y cyfryngau, y byd busnes, y byd elusennol, y byd chwaraeon, y byd creadigol a'r sectorau cyhoeddus.
Yn ystod ei anerchiad urddo, myfyriodd yr Athro Yates ar fagwraeth mewn ardal ddifreintiedig yn Lerpwl. Er nad oedd gan ei rieni a’i nain a'i daid lawer o addysg ffurfiol, roeddent yn gwerthfawrogi dysg, diwylliant a thrafod yn fawr. Cafodd hyn effaith fawr arno.
Rhannodd ei fod wedi dechrau ei yrfa fel gweithiwr cymdeithasol cymwys a Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid, gan fagu 15 mlynedd o brofiad ar y rheng flaen, cyn pontio i’r byd academaidd. Daeth yn Bennaeth Troseddeg ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl (LJMU) a chyd-sylfaenodd y Ganolfan ar gyfer Astudio Troseddeg, Troseddoleiddio ac Eithrio Cymdeithasol.
Cyn ymuno â Phrifysgol Wrecsam, ymgymerodd yr Athro Yates â swyddi uwch arwain yn LJMU, gan gynnwys Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Lleoedd a Phartneriaethau a Deon y Gyfadran Celfyddydau, Astudiaethau Proffesiynol a Chymdeithasol.
Hefyd, yn ystod ei anerchiad, amlinellodd yr Athro Yates ei waith ymchwil, sydd wedi canolbwyntio ar gyfiawnder ieuenctid ac ymatebion polisïau i blant sydd ar yr ymylon, yn ogystal â chynghori cyrff cenedlaethol fel y Swyddfa Gartref a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.
Gan droi at yr hyn a ysgogodd ei gymhelliant i ymuno â Phrifysgol Wrecsam, dywedodd yr Athro Yates: “Mae Prifysgol Wrecsam yn rhan o draddodiad o ddarparu addysg i bobl sydd mewn gwaith, i fyfyrwyr y genhedlaeth gyntaf, ac rwyf o’r farn bod hynny’n bwysig. Mae gennyf ffydd mewn prifysgolion fel Wrecsam oherwydd rwy’n deall yr effaith drawsnewidiol a all addysg ei chael.
“Mae fy ngyrfa academaidd yn ddyledus i leoedd fel Wrecsam, ac mae fy stori bersonol a’r stori am fy nheulu yn cyd-fynd â’r lleoedd hyn.”
Rhannodd yr Athro Yates ei fyfyrdodau yn dilyn ei flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Dywedodd “Mae ein pobl yma yn Wrecsam yn eiddo pwysig. Mae eu lefelau diddordeb, eu cadernid, eu hymroddiad, eu balchder a’u cydweddiad â’r Brifysgol a’i chenhadaeth yn drawiadol”.
“Mae’n sylfaen bwerus iawn i’r Brifysgol symud i’w cham datblygu newydd i barhau i dyfu, i wella’n barhaus ac i gynyddu ei gwerth fel sefydliad angor i’r uchaf.
“Mae ein gwerthoedd a’n huchelgeisiau ar gyfer y cymunedau a wasanaethwn yng Ngogledd Cymru, a’r ymrwymiad cryf at gyfiawnder cymdeithasol, cynhwysiant a chenedlaethau’r dyfodol yn rymus.
“Ar ôl blwyddyn ym Mhrifysgol Wrecsam, mae’n amlwg imi fod ganddi ymrwymiad diysgog at gynhwysiant a’n cymuned.”
Aeth yn ei flaen i amlinellu ei weledigaeth i dywys y sefydliad i 2030, wedi gwreiddio ar sail tri phrif nod: darparu profiad rhagorol sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr; bod yn brifysgol angor ac arweiniol ar ran Cymru; a llywio trawsnewidiadau ac arloesedd llwyddiannus.
Wrth siarad am y weledigaeth, dywedodd: “Ein gweledigaeth a’n strategaeth yw ein Seren y Gogledd - dyma ein hymrwymiad cyffredin i ddod yn brifysgol ddinesig fodern a blaenllaw.
“Yn seiliedig ar ein gwerthoedd o ragoriaeth, cynhwysiant, cydweithrediad, trawsnewidiad a chynaliadwyedd, byddwn yn darparu myfyrwyr gyda chyfleoedd a thwf, yn ogystal â chryfhau ein partneriaethau sy’n llywio sgiliau ac arloesedd ledled ein rhanbarth, a meithrin gwaith ymchwil sy’n cael effaith ar y byd go iawn.
“Drwy groesawu ein hunaniaeth a’n diwylliant Cymreig, a’r Gymraeg, a hefyd wrth fuddsoddi mewn ystadau cynaliadwy a seilwaith digidol, mae gennym yr holl gydrannau i wasanaethu ein cymunedau mewn ffordd falch a chael effaith fyd-eang yn yr un modd.”
Dr Leigh Griffin, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Wrecsam, gyda’r Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam
Ychwanegodd Leigh Griffin, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Wrecsam: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi urddo'r Athro Yates fel Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn nhaith ein prifysgol; mae’n achlysur sy’n nodi dechrau pennod nesaf gyffrous iawn i ni.
Mae gan swydd yr Is-Ganghellor gyfrifoldeb sylweddol - i arwain gyda gweledigaeth, uniondeb a thrugaredd; i hyrwyddo rhagoriaeth academaidd; ac i arwain ein sefydliad drwy’r cyfleoedd a’r heriau a ddaw i’n rhan.
“Mae Prifysgol Wrecsam yn brifysgol sy’n adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu, ac mae’n llawn uchelgais ac yn datblygu’n gyson. Mae’r Athro Yates yn deall grym dinesig y ddinas, ac mae ei arweinyddiaeth wir yn ymgorffori ein cenhadaeth i wasanaethu Wrecsam a thu hwnt.”
Rhai o’r pwysigion oedd ym mhresennol yn y seremoni oedd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Tina Mannering; Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam; a Ken Skates MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru.
Roedd dau o Gymrodyr er Anrhydedd y Brifysgol hefyd yn bresennol, sef Rachel Clacher OBE, Cadeirydd Bwrdd Dinas Wrecsam; a’r Arglwydd Barry Jones, Llywydd Cynghrair Mersi Dyfrdwy.