Prifysgol Wrecsam yn gwobrwyo Cymrodoriaethau Anrhydeddus i hyrwyddwyr cymunedol nodedig

Dyddiad: Dydd Lau, Hydref 30, 2025

Mae pedwar unigolyn nodedig ac un sefydliad cymunedol, sydd wedi gwneud cyfraniadau anhygoel i’r gymuned yng ngogledd Cymru, wedi cael eu cydnabod gyda Chymrodoriaethau Anrhydeddus gan Brifysgol Wrecsam.

Yn ystod seremonïau graddio yr wythnos hon, bu i’r Brifysgol gyflwyno Cymrodoriaethau Anrhydeddus i

  • Y bardd a’r awdur adnabyddus Aled Lewis Evans am ei gyfraniad i’r iaith Gymraeg, y celfyddydau a diwylliant yn y rhanbarth a’i gefnogaeth arhosol i’r Brifysgol.
  • Huw Jones MBE, cadeirydd Jones Bros Civil Engineering UK, i gydnabod ei wasanaethau i ogledd Cymru, busnes a pheirianneg werdd.
  • Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, i gydnabod ei gyfraniad i’r celfyddydau a diwylliant yn y rhanbarth a’i gefnogaeth arhosol i’r Brifysgol.
  • Yr Ymarferydd Gofal Critigol, Kate Humphries am ei hymroddiad i wella datblygiad myfyrwyr Parafeddygol y Brifysgol, a’i hymrwymiad i arfer sy’n ystyriol o drawma.
  • Hwb Amlddiwylliannol Gogledd Ddwyrain Cymru i gydnabod eu gwaith yn hyrwyddo a dathlu amrywiaeth diwylliannau yn ein cymuned.

Mae’r Brifysgol yn rhoi Cymrodoriaethau Anrhydeddus i unigolion a grwpiau i gydnabod eu hymrwymiad sylweddol i’r Brifysgol a’r gymuned ehangach.

Cyflwynwyd y Gymrodoriaeth Anrhydeddus gyntaf yr wythnos hon i Mr Lewis Evans ar brynhawn Llun yn ystod seremoni raddio gyntaf yr wythnos.

Mae Mr Lewis Evans, awdur a gweinidog sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, wedi gwneud cyfraniad nodedig i lenyddiaeth Gymraeg a diwylliant drwy ddegawdau o farddoniaeth, rhyddiaith a darlledu. Ers 1982 mae wedi cyhoeddi casgliadau niferus yn Gymraeg a Saesneg gan gynnwys Dirftwood, Someone else in the audience , ac Afterglow.

Yn gyn-gyflwynydd ar Sain y Gororau, mae’n cyfrannu’n rheolaidd at BBC Radio Cymru - a heddiw mae’n gwasanaethu fel Gweinidog yn Wrecsam a Chaer, yn dilyn dau ddegawd o fod yn bregethwr lleyg ar hyd a lled Cymru, ac mae’n parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd drwy ddigwyddiadau llenyddol a myfyrdodau diwylliannol.

Ychydig fisoedd yn ôl cafodd ei gyfweld yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan Bethan Gwanas yn y Babell Lên ynghylch ei fywyd a’i gyhoeddiadau, a threfnodd ddigwyddiad arbennig ym Maes D er mwyn edrych yn ôl ar yr wyth o Eisteddfodau Cenedlaethol sydd wedi eu cynnal yn ardal Wrecsam rhwng 1876 a 2025.

Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd: “Rwy’n teimlo’n hynod o freintiedig a gwylaidd o dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Mae ysgrifennu wedi bod yn daith drwy gydol fy mywyd i mi, drwy farddoniaeth, radio a gweinidogaeth, felly mae cael fy nghydnabod yn y ffordd yma, yn arbennig felly yma yn Wrecsam yn brofiad hynod o gynhyrfus.

“Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i rannu straeon sy’n ein cysylltu ni, ac rwy’n gobeithio y byddant yn parhau i ysbrydoli heddwch, myfyrdod ac ymdeimlad o berthyn.”

Ar ddydd Mawrth, roedd yn amser arbennig i Mr Evans-Ford wrth iddo ddod yn Gymrawd Er Anrhydedd yn chwaer leoliad Theatr Clwyd, Neuadd William Aston sydd wedi’i lleoli ar y campws yn y Brifysgol.

Mae wedi cael ei gydnabod am ei waith yn Theatr Clwyd, theatr gynhyrchu fwyaf Cymru, lle mae wedi arwain twf trawsnewidiol oddi ar 2016 - gan gynyddu trosiant o £5, i £12.2m, gan ddarparu mwy na 72 o berfformiadau cyntaf, a sicrhau cynyrchiadau mawr Theatr yn y DU, gwobrau Olivier a Stage.

Ar hyn o bryd mae’n arwain ar ailddatblygiad £50m ar adeilad rhestredig Gradd II Theatr Clwyd ac mae wedi sefydlu’r theatr fel arweinydd cenedlaethol o ran traweffaith gymdeithasol, gyda phartneriaethau ar draws iechyd, tai ac addysg.

Dywedodd Mr Evans-Ford: “Rwy’n hynod o falch o gael fy nghydnabod gan Brifysgol Wrecsam ac i ddal statws Cymrodor Anrhydeddus, yn gydnabyddiaeth o’r naw mlynedd rwyf wedi bod yn Brif Weithredwr yn Theatr Clwyd. Mae bod yn gyfrifol am y theatr sy’n cynhyrchu fwyaf yng Nghymru, ac un o’r mwyaf yn y DU ynddo’i hun yn fraint anferthol.

“Fodd bynnag, y peth pwysicaf i mi yw’r effaith mae Theatr Clwyd wedi’i gael ar bobl, a’r gofal, craffter, uchelgais ac ymwybyddiaeth fyd-eang y gall y celfyddydau ei gynnig i gymunedau. Rwy’n falch o’r partneriaethau cyfeirio sydd gennym gyda’r GIG, gwasanaethau cymdeithasol, elusennau ffoaduriaid, cartrefi gofal a chymdeithasau tai. Rwy’n falch o’r bywydau rydym wedi cael effaith arnynt, y bobl ifanc rydym wedi helpu i’w hysbrydoli, a’r newid cymdeithasol rydym yn parhau i weithio tuag ato er mwyn gwireddu ein cenhadaeth, sef ‘Gwneud y Byd yn Lle Hapusach’.

“Mae gwerthoedd Theatr Clwyd yn alinio’n berffaith gyda rhai Prifysgol Wrecsam, gan wneud y Gymrodoriaeth hon hyd yn oed yn fwy o fraint ac anrhydedd. Edrychaf ymlaen at barhau i gefnogi gwaith y Brifysgol hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol drwy weithio mewn partneriaeth ac o fewn y rôl lysgenhadol hon.”

Y drydedd Gymrodoriaeth i gael ei dyfarnu’r wythnos hon oedd i Huw Jones MBE, sydd wedi arwain Jones Bros Civil Engineering UK am dros 50 mlynedd, gan gynnwys 40 mlynedd fel Rheolwr Gyfarwyddwr ac yn y ddegawd olaf, fel Cadeirydd, gan yrru ei dwf i drosiant o £155 miliwn ac un o fflydoedd peiriannau mwyaf sydd mewn perchnogaeth breifat yn y DU.

Yn hwylusydd talent ifanc, sefydlodd Mr Jones gynllun prentisiaeth arobryn sydd nawr yn cyfrif am 40 y cant o’r gweithlu o 550 o bobl. Mae’n Gymrawd Sefydliad Peirianwyr Sifil, yn gwasanaethu ar bwyllgorau CECA Cymru a CBI Wales, a dyfarnwyd MBE iddo yn 2020 am ei gyfraniad nodedig i’r sector.

Mae gan Mr Jones hefyd berthynas arhosol gyda Phrifysgol Wrecsam, gan iddo gwblhau ei astudiaethau yn y sefydliad a’n rhagflaenodd, sef Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain (NEWI).  

Mae Jones Bros Civil Engineering UK hefyd yn rhedeg prentisiaethau gradd llawn, wedi’u partneriaethu gyda’r Brifysgol a Choleg Cambria, sy’n cynnwys BEng (Anrh) mewn Peirianneg Sifil a BSc (Anrh) mewn Quantity Surveying.

Meddai Mr Jones MBE: “Yn bersonol, rwyf wrth fy modd yn cael fy nghydnabod gyda’r Gymrodoriaeth Er Anrhydedd nodedig yma. Fel brodor o ogledd Cymru, mae’n wych gweld yr effaith bositif rydym yn ei chael yn yr ardal.

“O uwchsgilio pobl ifanc drwy’n cynllun prentisiaethau, i ymgysylltu gyda chyflenwyr lleol ar ein prosiectau, rwy’n falch ein bod wedi cyfrannu at ehangu statws economaidd a chymdeithasol amrywiol gymunedau drwy ein gwaith. Digwyddodd y twf yn y cwmni oherwydd ymroddiad ein haelodau o’n tîm, gyda nifer ohonynt wedi dechrau fel prentisiaethau neu weithwyr dan hyfforddiant cyn symud ymlaen i swyddi uwch. Rwy’n ddiolchgar iawn am eu hymroddiad.  

“Wrth edrych ymlaen, rwy’n gobeithio y byddwn yn parhau i sefydlu ein presenoldeb fel un o’r prif gwmnïau peirianneg sifil sy’n darparu cynlluniau o safon uchel ar draws y DU, yn arbennig felly o fewn gogledd Cymru.”

Ms Humphries sy’n Ymarferydd Gofal Critigol (CCP) gyda’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), yn gweithio mewn partneriaeth ag Ambiwlans Awyr Cymru oedd yr olaf ond un i dderbyn Cymrodoriaeth Anrhydeddus fel rhan o seremonïau graddio hydref 2025 y Brifysgol.

Ymunodd MS Humphries â gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn ôl yn 2017, gan gynnig cefndir cryf mewn parafeddygaeth, ar ôl gweithio gyda’r West Midlands Ambulance Service a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn flaenorol.

Mae’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant, gan addysgu cyrsiau cymorth bywyd ar gyfer oedolion a phlant i ystod eang o broffesiynau gofal iechyd, a datblygu modiwlau Uwch Ymarfer MSc ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Brys Hofrenyddion HEMA a Chasglu a Throsglwyddo Meddyginiaeth. Mae hi’n arwain ar ddatblygu hyfforddiant mewnol ar gyfer cydweithwyr y Gwasanaeth Adferiad Meddygol Brys (EMRTS) a chydweithwyr Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol Oedolion (ACCTS), gan gynnwys ehangu cwmpas ymarfer parafeddygon a nyrsys o fewn y gwasanaeth i sicrhau’r gofal gorau posibl i bobl Cymru.

Mae wedi darparu cefnogaeth werthfawr i’r Brifysgol, drwy roi cyfleoedd dysgu yn seiliedig ar brofiad byd go iawn i’n myfyrwyr, ac i helpu i ysgogi gwaith y sefydliad i wella addysg trawma o fewn Cymru.

Dywedodd Ms Humphries ei bod yn “anrhydedd” iddi gael ei dyfarnu gyda Chymrodoriaeth Er Anrhydedd gan y Brifysgol.

Meddai: “Yn fy ngwaith o ddydd i ddydd rwy’n gweithio i’r tîm gofal hanfodol cyn-ysbyty, yn darparu rhai o’r ymyriadau blaengar sy’n cael eu harwain gan barafeddygon i bobl Cymru. Mae’r gyfradd y mae rôl y parafeddyg wedi datblygu yn anhygoel, ac mae cwmpas yr ymarfer a’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer graddedigion yn anferth, ond gyda hynny rhaid cael sylfaen wybodaeth gadarn, ac mae’r gallu i ddarparu gofal yn seiliedig ar dystiolaeth i rai sydd angen ein gwasanaeth yn hanfodol i ddiogelwch y claf.

“Caiff hyn ei sicrhau drwy addysg, ac mae wedi bod yn fraint i mi ddarparu sesiynau ymarfer gofal critigol ymestynnol ac uwch a chynnal gweithdai yn seiliedig ar drawma ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Wrecsam.

“Mae addysg barafeddygol a datblygu ymarfer parafeddygol mor bwysig i mi, ac rwy’n ddiolchgar am fod yn gallu cael cefnogaeth y genhedlaeth nesaf o barafeddygon. Mae brwdfrydedd ac ymrwymiad y myfyrwyr a staff yn Wrecsam yn anhygoel, ac rwy’n hyderus y byddant yn darparu budd mawr i’r poblogaethau maent yn eu gwasanaethu. Mae’n fraint chwarae rhan fach yn y broses honno, ac rwy’n teimlo’n hynod wylaidd o gael y gydnabyddiaeth hon.”

Cymrodoriaeth Er Anrhydedd olaf yr wythnos, a ddyfarnwyd ddoe (dydd Mercher), oedd i Hwb Amlddiwylliannol Gogledd-Ddwyrain Cymru. Dyma’r ail waith yn unig mae’r Brifysgol wedi cyflwyno gwobr y cyd i grŵp.

Mae’r Hwb wedi cael ei gydnabod am ei gefnogaeth anhygoel i gymunedau amrywiol gogledd-ddwyrain Cymru, gan greu gofodau cynhwysol ar gyfer digwyddiadau diwylliannol, dysgu ac ymgysylltu rhwng cenedlaethau. Drwy ei waith, mae’r grŵp wedi meithrin gwell dealltwriaeth o wahanol draddodiadau, wedi cryfhau balchder rhanbarthol, ac wedi ysbrydoli ymrwymiad a rennir i ddyfodol yr ardal.

Gan siarad ar ran Hwb Amlddiwylliannol gogledd-ddwyrain Cymru, meddai’r Cydlynydd Prosiect Iolanda Banu Viegas: “Rydym ni yn Hwb Amlddiwylliannol Gogledd Cymru yn wirioneddol freintiedig o dderbyn y Gymrodoriaeth hon gan Brifysgol Wrecsam. Mae’n gydnabyddiaeth ystyrlon o ymdrechion diflino i greu gofodau lle all pobl o bob cefndir gysylltu, rhannu a ffynnu.

“Mae’r wobr hon yn ein hysbrydoli i barhau i feithrin Cymru sy’n fwy cynhwysol a bywiog i bawb.”