Prifysgol Wrecsam yn lansio partneriaeth drosglwyddo ryngwladol gyda Bucks County Community College, gan ddathlu ei hunaniaeth Gymreig yn fyd-eang

Dyddiad: Dydd Mercher, Medi 3, 2025

Mae Prifysgol Wrecsam yn falch o gyhoeddi partneriaeth ryngwladol arloesol gyda Bucks County Community College a fydd yn cynnig llwybr esmwyth tuag at ennill gradd sy’n cael ei chydnabod yn fyd-eang mewn cyn lleied â blwyddyn i fyfyrwyr o America.

Bydd y rhaglen ar y cyd rhwng y Brifysgol a’r Coleg Cymunedol, sydd wedi’i leoli yn ne-ddwyrain Pensylfania, yn darparu’r cyfle i fyfyrwyr Bucks archwilio diwylliant Cymru ac ymgolli’n llwyr ynddo, gan raddio gyda gradd ryngwladol mewn tair blynedd, gydag opsiwn i ennill eu gradd ôl-raddedig Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) yn y bedwaredd flwyddyn.

Fel un o’r prifysgolion ieuengaf yn y DU, mae’r bartneriaeth ryngwladol hon yn atgyfnerthu gweledigaeth fentrus Prifysgol Wrecsam i gydweithredu a gweithio mewn partneriaethau gweithredol ar lefel fyd-eang er mwyn sicrhau cymaint â phosib o effeithiau cadarnhaol er lles cenedlaethau heddiw ac yfory.

Mae’r Brifysgol hefyd yn gweithio’n galed i hyrwyddo iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru drwy ei holl weithgareddau - a bydd y bartneriaeth hon yn darparu cyfleoedd cryf i wneud hynny.

Drwy’r cytundeb partneriaeth newydd, gall myfyrwyr sy’n cwblhau eu gradd gyswllt mewn gweinyddu busnes yn Bucks drosglwyddo’n uniongyrchol i Brifysgol Wrecsam er mwyn cwblhau gradd naill ai mewn Busnes a Rheoli neu Gyfrifeg a Rheoli Cyllid mewn dim ond un flwyddyn ychwanegol. Gall cyfranogwyr hefyd ddewis aros ar gyfer MBA carlam, gan gwblhau’r radd i raddedigion mewn cyfanswm o bedair blynedd o’r adeg y byddant yn dechrau yn Bucks.

Bydd y bartneriaeth hefyd yn adeiladu ar y cyswllt cynyddol rhwng Wrecsam a rhanbarth ehangach Philadelphia, diolch yn rhannol i’r actor a’r cynhyrchydd Rob McElhenney.

Ac yntau’n frodor o Dde Philadelphia ac yn gyd-berchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam, mae McElhenney wedi helpu i roi’r ardal leol ar y map ar gyfer llawer o Americanwyr drwy’r rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham a dderbyniodd ganmoliaeth uchel.

Dywedodd Moss Garde, Dirprwy Is-ganghellor Ymgysylltiad a Phartneriaethau Allanol Prifysgol Wrecsam: “Mae’r bartneriaeth ryngwladol hon gyda Bucks County Community College yn hynod gyffrous gan ei bod yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu llwybrau byd-eang mewn addysg.

“Drwy gyflwyno cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithredu a symudedd myfyrwyr, rydym yn cyflawni ein gweledigaeth a strategaeth 2030 newydd i fod yn brifysgol gysylltiedig, gynhwysol sy’n ymgysylltu’n fyd-eang.”

Ychwanegodd Patrick M. Jones, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Bucks County Community College: “Mae hyn yn fwy na chytundeb trosglwyddo - mae’n brofiad trawsnewidiol. Mae ein myfyrwyr yn cael mynediad at addysg ryngwladol o safon uchel am ffracsiwn cost nifer o sefydliadau’r UD, tra’n trochi eu hunain yn niwylliant Cymru ac ennill persbectif byd-eang.”