Prifysgol Wrecsam yw'r sefydliad cyntaf yng Nghymru i sicrhau achrediad gradd ICAS
.jpg)
Dyddiad: Dydd Mercher, Rhagfyr 17, 2025
Prifysgol Wrecsam yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad gradd gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban (ICAS), gan nodi carreg filltir sylweddol ar gyfer addysg busnes a chyflogadwyedd yn yr ardal.
Mae’r achrediad yn berthnasol i radd BSc (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid a gradd BSc (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen/Blwyddyn Ryngwladol y Brifysgol, gan greu llwybr uniongyrchol, â chefnogaeth, i’r cymhwyster Cyfrifydd Siartredig (CA), sy’n cael ei barchu’n fyd-eang.
O 2026, bydd myfyrwyr sy’n cofrestru ar y rhaglenni hyn yn elwa o gydnabyddiaeth broffesiynol well a llwybr clir i’r proffesiwn cyfrifyddu, gyda disgwyliad i’r graddedigion cyntaf dan yr achrediad newydd gwblhau eu hastudiaethau yn 2029.
Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu canolbwyntiad cryf Prifysgol Wrecsam ar gyflogadwyedd, ymgysylltiad â diwydiant a lledaenu mynediad i yrfaoedd proffesiynol. Yn ogystal, mae’n cyd-fynd ag ethos cynhwysol y Brifysgol, gan gynnwys ei hymrwymiad i gefnogi defnydd o’r iaith Gymraeg ar draws addysgu, dysgu a bywyd ar y campws.
Mae’r bartneriaeth gydag ICAS - corff proffesiynol hynaf y byd ym maes cyfrifeg - yn cryfhau ymhellach rôl Prifysgol Wrecsam yn y broses o ddatblygu graddedigion medrus sydd â diddordeb mewn cael effaith gadarnhaol yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Dywedodd Dr Ruth Slater, Deon newydd Ysgol Fusnes Wrecsam: “Rydym yn eithriadol o falch mai ni yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill achrediad ICAS. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dangos ansawdd, perthnasedd ac aliniad proffesiynol ein graddau Cyfrifeg a Chyllid, ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus, dylanwadol.
“Mae ein rhaglenni wedi’u dylunio i agor drysau - nid yn unig i’r proffesiwn, ond i gyfleoedd sydd o fudd i gyflogwyr, cymunedau a’r economi ehangach.”
Gail Boag, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Ddysgu yn ICAS: “Mae graddau cyfrifeg Prifysgol Wrecsam yn garreg filltir arwyddocaol i ICAS wrth inni barhau i ehangu mynediad i'r proffesiwn. Mae pwyslais cryf y Brifysgol ar gyflogadwyedd graddedigion a chysylltiadau agos â’r diwydiant yn ei gwneud yn barter rhagorol yn y broses o baratoi Cyfrifwyr Siartredig y dyfodol.”
Mae’r achrediad yn meithrin enw da cynyddol Prifysgol Wrecsam o ran addysgu sydd wedi’i seilio ar y diwydiant, dysgu cymhwysol a phartneriaethau proffesiynol cryf, gan gefnogi ei huchelgais i fod yn brifysgol ddinesig fodern sy’n darparu sgiliau a thalent ar gyfer y dyfodol.