Prifysgol Wrecsam yn cyhoeddi partneriaeth yn y Ganolfan Cyfiawnder Pobl £5 miliwn newydd ledled y DU

Reception

Dyddiad: Dydd Llun, Ebrill 14, 2025

Cyhoeddwyd fod Prifysgol Wrecsam yn bartner mewn Canolfan Cyfiawnder Pobl newydd ledled y DU, sy’n ceisio dod ag ymchwil y gyfraith a chyfiawnder cymdeithasol ynghyd i gefnogi cymdeithasau tecach, cryfach a mwy cynhwysol. 

Caiff y ganolfan, a ariennir gan £4.1 miliwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), ei rhedeg gan Brifysgol Lerpwl, sy’n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion Glasgow, Llundain (SAS), Sheffield, Abertawe, Ulster a Wrecsam, gan ddod ag academyddion, y gymdeithas sifil, y llywodraeth a'r sectorau creadigol, corfforaethol a chyfreithiol ynghyd.

Disgwylir i’r ganolfan £5.8 miliwn ddatblygu rhaglen addysg a hyfforddi o’r radd flaenaf ac ystod arloesol o brosiectau creadigol, cyfiawnder cymdeithasol wedi’u hariannu, a fydd yn arwain at fethodoleg ymchwil cyfiawnder cymdeithasol radical a newydd. Bydd Prifysgol Wrecsam yn arwain agweddau yn ymwneud â’r gwaith sy’n ystyriol o drawma a’r celfyddydau a chreadigrwydd.

Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Rydym yn hynod falch o’r gwaith hwn a’r tîm sydd wedi cydweithio i alluogi’r agwedd arloesol hon tuag at gyfiawnder cymdeithasol ledled y DU.”

“Fel academydd ac ymarferydd mewn Cyfiawnder Ieuenctid, mae’r gwaith hwn yn agos iawn at fy nghalon. Bydd ein cyfranogiad yn cefnogi twf ein gwaith cenhadaeth ddinesig i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac adeiladu ar ein cryfderau a’n harbenigedd mewn troseddeg, ystyriol o drawma, y celfyddydau a chreadigrwydd.”

“Mae’r ffocws o alluogi lleisiau dinasyddion a chymunedau i lywio polisïau’r dyfodol a gweithio am gyfiawnder yn greiddiol i’n gwerthoedd, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru.”

Dywedodd Dr Caroline Hughes, Deon Dros Dro y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Wrecsam: “Mae’n bleser gennyf arwain y prosiect hanfodol bwysig hwn o bersbectif Wrecsam, a datblygu diwylliant dysgu seiliedig ar werthoedd mewn partneriaeth â’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.”

Dywedodd Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu Cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam: “Mae’r Gymraeg wrth wraidd ein gwaith gyda’r ganolfan, ac yn rhoi llwyfan i ni rannu ac arddangos ein dulliau a’n hangerdd dros yrru cydraddoldeb yr iaith a phwysigrwydd diwylliant, treftadaeth a hunaniaeth Gymreig. Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol fel partner yn y ganolfan, mae gennym lwyfan unigryw i ymgysylltu ag ef.”

Dywedodd Dr Tegan Brierley-Sollis, Darlithydd mewn Plismona, Troseddeg a dulliau sy’n Ystyriol o Drawma: “Bydd y fframwaith sy’n ystyriol o drawma, sydd wedi ei wreiddio trwy gydol y ganolfan, yn ein galluogi i greu aliniadau cadarn rhwng ymchwil, ymarfer, cyfraith, a pholisi.”

“Mae’r dulliau sy’n ystyriol o drawma wedi eu gwreiddio yn egwyddorion grymusedd, diogelwch, urddas, ac ymreolaeth tra’n rhoi dewis ac yn croesawu dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau. Bydd y Ganolfan Cyfiawnder Pobl yn ystyried unigolion fel deiliaid gwybodaeth werthfawr, arweinwyr, ac fel rhai sy’n gwneud newidiadau gweithredol wrth lywio byd mwy cynhwysol a theg.”

Ychwanegodd Dr Karen Heald, Darllenydd mewn Ymarfer Celf Ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Wrecsam: “Ni ellir gorbwysleisio grym cynhenid y celfyddydau a chreadigrwydd i feithrin dealltwriaeth ddiwylliannol, twf personol, a newid cymdeithasol. Trwy ymgysylltu â mynegiant artistig, gall unigolion a chymunedau archwilio emosiynau cymhleth, herio naratifau ymwthiol, ac adeiladu pontydd ar draws gwahaniaethau.

“Mae’r dulliau sy’n seiliedig ar y celfyddydau yn cynnig llwybrau unigryw i leisiau ymylol gael eu clywed, i straeon cudd gael eu hadrodd, ac i ddeialog drawsnewidiol ddod i’r amlwg. Mae’r ganolfan hon, felly, yn cydnabod fod gwreiddio’r Celfyddydau a methodoleg greadigol, o fewn gwaith sy’n ystyriol o drawma a mentrau cyfiawnder cymdeithasol, nid yn unig yn ddewis esthetig, ond yn strategaeth hanfodol i feithrin empathi, hyrwyddo iachâd, a gyrru trawsnewidiad cymdeithasol ystyrlon.”