Prifysgol yn dathlu Cymrodorion Er Anrhydedd newydd i gydnabod eu gwasanaeth i gymunedau yng ngogledd Cymru

Dyddiad: Dydd Lau, Ebrill 17, 2025

Mae dau unigolyn anhygoel ac elusen gymunedol a chadwraeth ddiwylliannol wedi eu dyfarnu gyda Chymrodoriaeth Er Anrhydedd o Brifysgol Wrecsam, er mwyn cydnabod eu cyfraniadau sylweddol i ogledd Cymru.

Fel rhan o seremonïau graddio’r sefydliad yr wythnos hon, cyflwynwyd Cymrodoriaethau er Anrhydedd i Brosiect Glowyr Wrecsam i gydnabod eu gwasanaeth i dreftadaeth, diwylliant ar gymuned ehangach; Yr Arglwydd Barry Jones am ei gefnogaeth i’r Brifysgol ac ymrwymiad gydol oes i wasanaethau cyhoeddus; a Rachel Clacher CBE i gydnabod ei gwasanaeth i fyd busnes a’r gymuned ehangach.

Mae’r Brifysgol yn rhoi Cymrodoriaethau Er Anrhydedd i unigolion i gydnabod eu hymrwymiad sylweddol i’r Brifysgol a’r gymuned ehangach.

Y Gymrodoriaeth Er Anrhydedd gyntaf i gael ei dyfarnu yr wythnos hon oedd dyfarniad ar y cyd i Brosiect Glowyr Wrecsam. Dyma oedd y tro cyntaf i’r Brifysgol ddyfarnu Cymrodoriaeth Er Anrhydedd ar y cyd i grŵp.

Humphrey Ker, Noddwr Prosiect Glowyr Wrecsam a Chyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Wrth gyflwyno’r wobr nodedig, tynnwyd sylw at gysylltiad cryf y Prosiect gyda gorffennol diwydiannol y rhanbarth - gan ddwyn cyswllt uniongyrchol Drychineb Glofa Gresffordd yn 1934 i’r dydd presennol.

Mae’r Gymrodoriaeth yn cydnabod taith y Prosiect yn atgyweirio Gorsaf Achub y Glowyr i’w hesblygiad yn hwb cymunedol. Mae’r safle nawr yn lleoliad ar gyfer Amgueddfa’r Glowyr sy’n datblygu mentrau celfyddydol bywiog a rhaglenni dysgu sy’n cefnogi pobl o bob cefndir a gallu.

Roedd nifer o gynrychiolwyr o Brosiect Glowyr Wrecsam yn bresennol yn y seremoni, gan gynnwys Keith Hett - y glöwr olaf i gamu allan o Bwll y Bers pan gaeodd.

Fel rhan o’r seremoni, cyflwynodd Prosiect Glowyr Wrecsam y Brifysgol gyda Lamp Ddiogelwch Glöwr - gweithred symbolaidd oedd yn cydnabod hanes cyfoethog mwyngloddio yn y rhanbarth, ac un a oedd yn nodi dechrau perthynas ddyfnach gyda’r sefydliad.

Meddai’r noddwr ar gyfer Prosiect Glowyr Wrecsam, yr actor Humphrey Ker: “Ar ran Prosiect Glowyr Wrecsam, hoffwn ddiolch i Brifysgol Wrecsam am yr anrhydedd fawr yma.

“Mae’r gydnabyddiaeth nid yn unig yn deyrnged i’n gwaith ni, ond mae’n dathlu’r cysylltiadau cryf sydd rhwng ein helusen a’r Brifysgol. Rydym yn falch o gynnig ystod eang o gyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli a phrofiad gwaith ar gyfer myfyrwyr ar draws nifer o ddisgyblaethau, a byddwn yn teimlo’n gyffrous wrth weld y berthynas yma’n mynd yn ddyfnach wrth symud ymlaen.

“Mae ein drysau ar agor bob amser. Hoffem wahodd yr holl fyfyrwyr a’r staff academaidd yn gynnes i daro heibio’r Caffi Achub - mae yna wastad groeso cynnes yn aros am bawb yno.

Yn ystod y seremoni, dywedodd Mr Ker, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Wrecsam: “Yn y clwb pêl-droed, rydym yn aml yn siarad am ein hawydd i fod yn gymdogion da i bobl Wrecsam, ac yma heddiw yn y Brifysgol, a’r gwaith y mae’n fraint fawr i mi fod yn rhan ohono gyda Phrosiect Glowyr Wrecsam, rwyf wedi cael fy mendithio gyda gweld dau gymydog gwych.

“Mae bod yma heddiw i weld y weithred yma o ddod ynghyd, yr undod yma rhwng dau sefydliad sy’n gwneud cymaint o waith gwych ar gyfer pobl Wrecsam, yn anrhydedd enfawr ac rwy’n tynnu fy het clwb pêl-droed i ffwrdd am eiliad a gwisgo fy het Prosiect Glowyr Wrecsam, i ddiolch o waelod ein calonnau i’r Brifysgol am y gydnabyddiaeth hon.

“Mae’n anrhydedd fawr, nid yn unig i dderbyn y Gymrodoriaeth hon ond hefyd i fod yma heddiw, gyda’r holl ddarpar-raddedigion, llongyfarchiadau a da iawn chi am lwyddo.”

Ddydd Mercher, daeth yr Arglwydd Barry Jones yn Gymrawd Er Anrhydedd o’r Brifysgol, wedi perthynas hirhoedlog gyda’r sefydliad, a chael ei benodi’n Llywydd cyntaf y sefydliad a ragflaenodd y Brifysgol - NEWI - yn 2007. Fel Llywydd, chwaraeodd yr Arglwydd Jones ran hanfodol wrth sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni statws prifysgol ac fe ddaeth yn Ganghellor cyntaf Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Hyd heddiw, mae’r Arglwydd Jones yn parhau’n gefnogwr ffyddlon ac yn eiriolwr pwerus dros y Brifysgol.

Mae gyrfa yr Arglwydd Jones o fewn y gwasanaethau cyhoeddus yn ymestyn dros bum degawd, wedi iddo fod yn gwasanaethu fel AS Llafur dros Ddwyrain Sir y Fflint o 1970 hyd 1983, ac yna Alun a Glannau Dyfrdwy hyd 2001.

Bellach, yn 86 mlwydd oed, mae’n parhau’n aelod gweithredol o Dŷ’r Arglwyddi ac yn teithio i Lundain yn aml iawn i bleidleisio. Y mae hefyd yn llywydd Cynghrair Merswy Dyfrdwy ac mae’n eiriolwr pwerus dros bobl ifanc yng ngogledd Cymru.

Yr Arglwydd Barry Jones 

Dywedodd yr Arglwydd Jones: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd fawr derbyn Cymrodoriaeth o Brifysgol Wrecsam heddiw - sefydliad y bu gennyf gysylltiadau cryf ag ef ers nifer o flynyddoedd.

“Heddiw mae Prifysgol Wrecsam yn sefyll hyd yn oed yn dalach yng ngogledd-ddwyrain Cymru - gyda’i hagwedd dwymgalon sy’n cyrraedd ymhell ac agos. Mae’r Brifysgol yn falch o’i hanes a’i threftadaeth - ac yn ymwybodol iawn o ddatblygiadau glo a dur y ganrif ddiwethaf, tra hefyd yn edrych ymlaen ac yn agor y drws hyd yn oed yn fwy llydan.

"Mae’n sefydliad sy’n deall bod busnesau angen sgiliau - ac mae’n gweithio’n galed i’w darparu i’n rhanbarth.”

Y Gymrodoriaeth Er Anrhydedd olaf yr wythnos i gael ei chyflwyno heddiw oedd Ms Clacher MBE, cyd-sylfaenydd Moneypenny a sylfaenydd yr elusen, WeMindTheGap, sy’n gwasanaethu pobl ifanc Wrecsam, Sir y Fflint a Swydd Gaer gyda chyfres lawn o raglenni cyfannol sy’n newid dyfodol i bobl ifanc.

Rachel Clacher CBE yn derbyn ei Chymrodoriaeth er Anrhydedd.   

Yn gynharach eleni, fe wnaeth tîm Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol ymuno gyda’r elusen ar gyfer y ‘Big Conversation’ diweddaraf i ddysgu’n uniongyrchol gan bobl ifanc oed 18-21 am eu bywydau a beth fyddai’n ei wella.

Mae’r adroddiad a gynhyrchwyd bellach yn gosod y trywydd o ran sut mae partneriaid cenedlaethol fel y Loteri Fawr yn gweithio â phobl ifanc.

Wrth siarad ynghylch cael ei henwi fel un o Gymrodorion Er Anrhydedd y Brifysgol, meddai Rachel: “Mae hi wir yn anrhydedd i mi dderbyn Cymrodoriaeth Er Anrhydedd gan Brifysgol Wrecsam - rwyf wrth fy modd.

“Mae’n golygu cymaint i gael fy nghydnabod gan sefydliad sy’n rhan mor ganolog o’n dinas - un sy’n enwog am ei hagwedd ofalgar, gefnogol a chynhwysol tuag at addysg, ac am gynnig cyrsiau sy’n adlewyrchu realiti ein byd heddiw.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am yr holl gyfleoedd mae Wrecsam wedi’i roi i mi: o fy helpu i ddod o hyd i bobl ifanc anhygoel i ymuno gyda’r tîm Moneypenny, i ddarparu cartref croesawgar ar gyfer ein helusen.

“Nawr, rwy’n gobeithio rhoi yn ôl drwy helpu i ddod â’n dinas ynghyd ar gyfer uchelgeisiau blaengar a dewr ar gyfer ein dyfodol ni i gyd. Er mwyn gwneud hynny, bydd angen i ni gydweithredu mewn ffordd radical ac mae tîm y Brifysgol eisoes wedi dangos beth sy’n bosib. Dim ond megis dechrau yw’r gwaith gyda WeMindTheGap ad The Big Conversation ynghylch pobl ifanc  Pwy a ŵyr ble y gallen ni fod yn mynd gyda’n gilydd o’r fan yma?”