Prifysgol yn falch o gynnal cyngerdd arbennig yn cynnwys cerddoriaeth o Gymru a ledled Ewrop

Dyddiad: Dydd Gwener, Chwefror 21, 2025

Bydd prynhawn o gerddoriaeth gan gantorion uchel eu parch, sydd wedi ennill y gwobrau mwyaf mawreddog yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei gynnal yn Wrecsam fis nesaf, wrth i'r ardal baratoi tuag at ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae Prifysgol Wrecsam yn falch o gynnal prynhawn gyda Sêr yr Eisteddfod, yn cynnwys Erin Rossington, Llinos Haf Jones, Rhys Meirion dan arweiniad Brian Hughes cyfeilydd adnabyddus, ddydd Sul, Mawrth 23 am 3yp yn Neuadd William Aston.

Mae Brian Hughes yn Gymrawd Anrhydeddus o’r Brifysgol ac yn un o’r cyfansoddwyr corawl pwysicaf sy’n byw yng Nghymru heddiw.

Bydd y prynhawn o gerddoriaeth yn cynnwys rhaglen gyfoethog ac amrywiol sy'n dathlu'r cysylltiad rhwng cyfansoddwyr Cymru a'u cymheiriaid Ewropeaidd.

Wrth siarad cyn y cyngerdd, dywedodd Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu’r Gymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam – a hefyd Dirprwy Gadeirydd (Diwylliant) Eisteddfod 2025: “Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i arddangos y ddawn gerddorol anhygoel sydd gan Gymru i’w chynnig.

“Roeddem wrth ein bodd pan ddaeth ein Cymrawd Anrhydeddus, Brian Hughes atom i ofyn a fyddem fel prifysgol yn gefnogol i gynnal digwyddiad o’r math hwn yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Nid yn unig y mae’n gyfle i fwynhau cerddoriaeth wych ar brynhawn Sul ond mae hefyd yn ffordd arall o ddangos ein hymrwymiad i gefnogi’r Eisteddfod sy’n digwydd yn Wrecsam yr haf hwn. Mae’n gyfnod hynod gyffrous, yn enwedig wrth i’r ŵyl ddod yn nes.

“Mae’n bwysig nodi nad yw’r digwyddiad hwn – a’r gerddoriaeth sy’n cael ei pherfformio – yn y cyfrwng Cymraeg yn unig.”

Ychwanegodd yr Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Wrth i gyffro gynyddu yn y ddinas cyn yr Eisteddfod Genedlaethol, ein pleser a’n braint aruthrol yw cynnal prynhawn gyda sêr yr Eisteddfod.

“Mae’r cyngerdd hwn a gwyliau diwylliannol fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn blatfform bwerus o ddiwylliant a chymuned, ac yn cyfrannu at ddiwylliant Cymru yn y dyfodol.

“Fel prifysgol, rydym wrth ein bodd ein bod wedi cydweithio â’n Cymrawd Anrhydeddus, Brian Hughes a Theatr Clwyd i ddod â’r prynhawn arbennig hwn o gerddoriaeth i Wrecsam.”

Bydd canran o elw’r cyngerdd yn mynd i gronfa Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyngerdd, gan gynnwys sut i archebu tocynnau i’w gweld drwy wefan Neuadd William Aston yma.