Prifysgolion a Chynghorau yn Ymuno i Ddatgloi £1bn mewn Ariannu Partneriaeth Ymysg Pwysau Ariannol Cynyddol

Dyddiad: Dydd Iau, Tachwedd 27, 2025

Gan wynebu heriau ariannol digynsail, mae prifysgolion y DU a chynghorau lleol yn troi at bartneriaethau arloesol er mwyn diogelu bron i £1 biliwn mewn ariannu a gyrru twf cynhwysol.

Gyda’r Gyllideb yn gefndir i’r cyfan, mae’r ddau sector yn parhau i fod dan bwysau ariannol difrifol. MaeUniversities UK yn rhybuddio bod y sector addysg uwch yn wynebu colled net o £1.4 biliwn tra mae dyled awdurdodau lleol wedi carlamu i £122 biliwn, yn ôl dadansoddiad y BBC. Datgelodd arolwg diweddar Key Cities yn ogystal bod 60% o gynghorau yn bwriadu gwerthu asedau er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol megis gofal cymdeithasol oedolion a phlant.

Mewn ymateb, mae prifysgolion a chynghorau yn chwilio am ariannu arloesi yn seiliedig ar bartneriaeth sy’n gofyn am gydweithrediad rhwng sefydliadau dinesig, y byd academaidd a diwydiant preifat.

Mae cynhadledd gyntaf i-Place 25 a drefnwyd gan Rwydwaith Arloesi Key Cities yn cynnull prifysgolion, cynghorau ac arweinwyr y diwydiant i ystyried sut mae ecosystemau ac ardaloedd arloesi yn hybu twf a chyfleoedd ledled y DU.

Dan thema “Ardaloedd Arloesi ac Ecosystemau: Rhoi Hwb i Dwf a Chyfle,” mae’r digwyddiad yn cynnwys sesiwn frecwast gydag Audra Gill, Pennaeth y Diwydiannau Creadigol yng Nghyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), yn trafod bron i £1bn o ariannu partneriaeth, gan gynnwys:

  • £500m Cronfa Partneriaethau Arloesi Lleol UKRI
  • £150m Cronfa Twf Lleoedd Creadigol gan DCMS, wedi’i datganoli i chwe awdurdod maerol
  • Galwad agored newydd £100m+ o dan y Rhaglen Clwstwr Diwydiannau Creadigol AHRC (yn lansio ym mis Ionawr 2026)

Mae’r gynhadledd yn arddangos prosiectau arloesi lleol arloesol o’r naw prifysgol o fewn y Rhwydwaith Arloesi Key Cities, gan dynnu sylw at astudiaethau achos llwyddiannus o bartneriaethau sydd yn cyflawni traweffaith economaidd a chymdeithasol ymarferol.

Ymhlith y siaradwyr nodedig mae:

  • Yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam yng ngogledd Cymru
  • Laura Dyer, Dirprwy Brif Weithredwr, Arts Council England
  • Audra Gill, Pennaeth y Diwydiannau Creadigol, AHRC
  • Paul Dennet, Maer Salford
  • Cleo Newcombe-Jones, Rheolwr Gwasanaeth Lleoedd Cynaliadwy ac Adfywio gyda Chyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf
  • Elaine Hayes, Prif Weithredwr y Parc Morol Cenedlaethol cyntaf yn y DU yn Plymouth Sound

Mae Rhwydwaith Arloesi Key Cities (KCIN) yn cysylltu prifysgolion, llywodraeth leol, aelodau seneddol, a rhanddeiliaid dinesig ar draws y 24 tref a dinas. Mae aelodau cyfredol o blith y prifysgolion yn cynnwys Prifysgol Caerfaddon Spa, Prifysgol Bradford, Prifysgol Coventry, Prifysgol Essex, Prifysgol Caerhirfryn, Prifysgol Lincoln, Prifysgol Plymouth, Prifysgol Salford, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Southampton a Phrifysgol Wrecsam.

Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam yng ngogledd Cymru:

“Ym Mhrifysgol Wrecsam mae ein strategaeth 2030 wedi’i gwreiddio yn y gred bod cydweithredu’n datgloi datrysiadau i gymunedau. Drwy Rwydwaith Arloesi Dinasoedd Allweddol, rydym yn falch o weithio ochr yn ochr gyda phartneriaid dinesig er mwyn gyrru twf cynhwysol a chreu cyfleoedd sydd o bwys yn lleol ac yn genedlaethol. Gyda’n gilydd, gallwn droi heriau a rennir yn arloesi sy’n trawsnewid bywydau ac yn atgyfnerthu llefydd”.

Dywedodd Laura Dyer, Dirprwy Brif Weithredwr, Ymgysylltu a Llyfrgelloedd Arts Council England: 

“Mae Rhwydwaith Arloesi Key Cities yn dangos beth sy’n bosib pan mae partneriaid dinesig yn arwain gyda chydweithrediad ac uchelgais. Mae Arts Council England yn falch o gefnogi i-PLACE 25 ac i weithio ochr yn ochr gyda llywodraeth leol, addysg uwch a’r diwydiant er mwyn datgloi potensial llawn trefi, pentrefi a dinasoedd ar draws y wlad”.

Dywedodd yr Athro Nic Beech, Is-ganghellor Prifysgol Salford ac Is-gadeirydd Rhwydwaith Arloesi Key Cities:
“Rwy’n falch o weld Prifysgol Salford yn gweithredu fel partner sylfaen ar gyfer y gynhadledd bwysig hon i drafod sut y gall arloesi roi hwb gwirioneddol i dwf a chyfleoedd ar draws y DU. Mae’n rhywbeth sy’n rhedeg drwy ein DNA yn Salford ac yn chwarae rhan allweddol yn Strategaeth ein Prifysgol, Arloesi Er Mwyn Cyfoethogi Bywydau. Rydym wedi ymrwymo i arloesi sy’n creu byd mwy cynaliadwy, teg, iach, creadigol a ffyniannus. Mae’n hanfodol bod prifysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid yn dod ynghyd ar gyfer y sgyrsiau pwysig yma - nid yn unig er budd ein sefydliadau, ond ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a’r cydweithrediadau fydd yn llywio ein dyfodol a rennir gennym.”

Dywedodd y Cyng Michael Mordey, Dirprwy Gadeirydd Rhwydwaith Dinasoedd Allweddol ac Arweinydd Cyngor Dinas Sunderland:

“Mae’n wych gweld ein cynghorau, prifysgolion, cyrff cyhoeddus, a phartneriaid yn y sector preifat yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn gyrru arloesi lleol yn ein hardaloedd dinesig, ac i fod yn dyst i’r cyfleoedd mae partneriaethau o’r fath yn gallu eu datgloi. Ni ellir darparu newid gwirioneddol ar ei ben ei hun, ac rydym yn edrych yn ein blaen drwy barhau gyda’r trafodaethau a’r rhannu gwybodaeth ar draws y sector mae i-PLACE 25 wedi’i danio drwy ymgysylltiad parhaus drwy’r rhwydwaith Dinasoedd Allweddol, APPG Dinasoedd Allweddol, a’r Rhwydwaith Arloesi Dinasoedd Allweddol.”

Mae’r rhestr lawn o bartneriaid ar gyfer cynhadledd i-PLACE 25 yn cynnwys: Arts Council England, Connected Places Catapult, Arup, MediaCityUK, GM Business Growth Hub, Cynhadledd BEYOND, Prifysgol Salford, a Chyngor Dinas Salford.