Profiad myfyrwraig nyrsio yn ysbrydoli ei chwaer
Mae myfyrwraig a benderfynodd newid ei bywyd a chynyddu’i opsiynau gyrfaol trwy astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn annog eraill i wneud cais - yn cynnwys ei theulu’i hun!
Mae Gemma Whitehead, sydd yn byw yng Nghroesoswallt, yn cynghori eraill i ystyried wneud cais i’r brifysgol ar gyfer mynediad ym mis Medi i gymryd y cam nesaf.
O ganlyniad i benderfyniad Gemma’r haf diwethaf, mae hi wedi sicrhau lle ar gwrs BA (Anrh) Nyrsio I Oedolion y brifysgol yn fuan wedyn - ac mae hi bellach wedi cwblhau flwyddyn gyntaf gradd tair blynedd, fydd yn ei rhoi ar ben ffordd at yr yrfa mae hi wedi eisiau trwy gydol ei bywyd.
Meddai: “Soniodd ffrind roeddwn i’n arfer gweithio hefo nhw am raglen nyrsio Glyndŵr - roeddwn i eisiau gwybod mwy ac mi es i ar y gwefan - a dyma fi.
“Doeddwn i ddim yn feddwl byddai siawns gen i - roedd hyn ym mis Awst - ond mi wnes i’n gais beth bynnag. Wedyn ges i alwad ffôn, yn gofyn i mi ddod am gyfweliad wyneb yn wyneb - ac yn fuan wedyn, ges i fy nerbyn!
“Dw i wedi mwynhau fy mlwyddyn gyntaf yn Glyndŵr gymaint, dw i wedi argymell i fy chwaer y dylai hi wneud cais - ac mae hi newydd gael cynnig lle hefyd!”
Yn y flwyddyn ers iddi sicrhau lle, mae Gemma yn ceisio cyrraedd y 2,300 awr glinigol ac sydd yn rhaid i fyfyrwyr Nyrsio Oedolion eu cwblhau yn ystod y cwrs.
Meddai: “Cyn hyn, wnes i weithio yn y sector gofal yn bennaf - roeddwn i’n rheolwr preswyl mewn cartref gofal trigfannol.
“Ers dechrau fel nyrs, dw i wedi gweithio mewn cartref gofal unwaith eto - ond hefyd yn adrannau gwaedlestrol ac anadlol Ysbyty Brenhinol yr Amwythig a’r Midland Centre for Spinal Injuries yn Gobowen.
“Dw i wedi eisiau bod yn nyrs erioed - cyn belled a dw i’n medru cofio. Dw I’n magu tri phlentyn, felly wnes i ohirio bob tro - ond wnes i feddwl ‘mae'n hen bryd i mi wneud rhywbeth i fi fy hun.”
Mae’r cymorth y mae Gemma wedi’i derbyn yn ystod ei hamser yn Glyndŵr dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn fuddiol iawn i Gemma - rhywbeth sydd wedi helpu tawelu’i meddwl ar ôl dechrau’r cwrs gyda phryderon am ddychwelyd i addysg.
Meddai: “Mae wedi bod llawer yn well na beth wnes i ddisgwyl. Fel myfyriwr hyn, a dydw i ddim wedi bod mewn addysg am dipyn, roeddwn i’n bryderus am sut y byddwn yn dod yn fy mlaen hefo tasgau academaidd fel ysgrifennu traethodau - ond mae’r cymorth wedi bod yn wych!
“O gymharu gyda phrifysgolion eraill, lle mae cannoedd o bobl aer gyrsiau mae Glyndŵr yn llawer mwy cyfeillgar - mae pawb mor gyfeillgar ar fy nghwrs. Mae’r darlithiwr yn barod i ateb unrhyw gwestiynau ac mae hi bob tro yn ymateb mor fuan â phosib.”
Mae Gemma’n awyddus i annog unrhyw un sydd yn ystyried eu hopsiynau ar gyfer eleni bod dal amser ganddynt i wneud cais a sicrhau lle ar gwrs yn yr hydref.
Meddai: “Tydi hi byth yn rhy hwyr i feddwl am ymgeisio - yr amser yma llynedd, doeddwn i ddim hyd yn oed wedi gwneud cais a ddim yn gwybod os byddwn i’n cael lle - ond mi wnes i, a dw i’n edrych ymlaen at yr ail flwyddyn.”
Dywedodd Angela Williams, Uwch Darlithydd Nyrsio Oedolion: “Mae wedi bod yn wych i weithio gydag Emma ac mae’i stori’n dangos ei bod hi byth yn rhy hwyr i wneud cais - os ydych yn feddwl astudio gyda ni yn Glyndŵr, ffoniwch, ewch ar-lein neu dewch i un o’n Diwrnodau Agored am gyngor cyfeillgar, un ac un.”