Prosiect arloesol myfyriwr ôl-raddedig Glyndŵr i hybu'r iaith Gymraeg
Mi fyddai arwyddion ffordd - a gwyddor newydd - yn helpu atgyfnerthu hunaniaeth genedlaethol Gymraeg.
Dyma beth yw gred Carl Edwards, myfyriwr MA Ymarfer Dylunio, wnaeth arddangos ei syniad arloesol yn sioe gradd Meistri a gynhaliwyd yng nghampws Stryd Regent Brifysgol Glyndŵr Wrecsam trwy fis Awst.
Mae Carl, sydd yn dod o’r Wyddgrug, wedi dyfeisio llythrennau Gymraeg newydd i fynd ar arwyddion ffyrdd yn y gobaith yn byddant yn ymddangos ar arwyddion ffyrdd ein gwlad rhyw ddydd.
Nod Carl ydy taclo’r dryswch a greir gan y llythrennau dwbl sydd yn cynrychioli seiniau nodweddiadol y Gymraeg, fel ‘dd’.
Meddai Carl: “Tydi’r llythrennau hyn ddim yn gweithio’n effeithlon ac yn achosi dryswch. Er enghraifft, tydi ‘dd’ ddim hyd yn oed yn cynnwys sŵn ‘d’.”
Ysbrydolwyd Carl i greu’r llythrennau rwnig yn ar ôl ymweliadau i Athens a Warsaw fel rhan o’r prosiect ‘Alien’, cynllun cyfnewid diwylliannol Ewropeaidd.
“Wnes i sylweddoli fod bob tro ti’n mynd i wlad arall, heblaw'r iaith sy’n amlwg, y peth gyntaf sy’n dy daro di ydy’r arwyddion - meysydd awyr, porthladdoedd, unrhyw fath o gludiant ar ffyrdd,” meddai
“Felly ges i gwpl sgyrsiau gyda dylunwyr eraill - yn ogystal ag ieithyddion, economegwyr ac addysgwyr hefyd - ac mi wnes i sylwi yng Nghymru ‘does ‘na ddim hunaniaeth genedlaethol sydd yn amlwg i bawb pan ti’n gyrru fewn; hynna oedd wedi dechrau fi meddwl amdano fo.”
Dyfeisiodd Carl ffurfdeip newydd, ynghyd â ‘colourways’ a saethau cyfeiriadol i greu edrychiad gwahanol i arwyddion gwledydd eraill.
Daeth ysbrydoliaeth y cyn disgybl Ysgol Maes Garmon gan waith Edward Williams, neu Iolo Morgannwg, hynafiaethydd a bardd dadleuol o’r 19fed ganrif a dyfeisiodd Coelbren y Beirdd.
Cafodd anogaeth hefyd gan Steve Heller, cyfarwyddwr celf a newyddiadurwr uchel ei barch, mewn gweithdy.
Gellir gweld arwyddion Carl yn sioe gradd ddiweddaraf Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, sydd yn dathlu doniau celf a dylunio myfyrwyr Meistr.
Mae Carl yn ddarluniwr graffig masnachol profiadol, gyda 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, a daeth i Glyndŵr i fireinio’i ddoniau ar gyrsiau BA ac MA.
Roedd o wrth ei bodd yn astudio yn Glyndŵr oherwydd safonau addysgu a chymorth “ardderchog” eu darlithwyr.
“Wnaethon nhw wir cefnogi a helpu fi ar fy nghwrs BA a’r MA hefyd - mae pawb wedi bod yn help mawr i mi,” meddai.
“Mae’r cwrs wedi bod yn wych, mae’n rhaid dweud. Hwn di’r tro cyntaf i mi wneud rhywbeth sydd dim yn fasnachol, felly mae’n neis gwneud rhywbeth jest i fi.”
Bwriad Carl ydy parhau’r prosiect fel rhan o gwrs PhD ac yn gobeithio bydd y syniad yn denu diddordeb siaradwyr Cymraeg.
“Dw i’n teimlo’n gryf amdan yr iaith a bydd o’n neis iddo symud ymlaen - unrhyw beth i helpu hunaniaeth Cymraeg dy bwynt y prosiect a dweud y gwir,” meddai.
“Dw i’n gwybod fod yna arwyddion ffordd ddwyieithog rŵan ond tydi o ddim yn ddigon i fi. Byddai’n neis os fydd rhywun yn cefnogi’r syniad a dw i’n gobeithio cael ymateb positif.”