Teyrngedau i’r Athro Peter Excell
Mae teyrngedau wedi eu talu i Athro Emeritws nodedig o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam, bu farw ar ôl salwch byr.
Roedd yr Athro Emeritws Peter Excell wedi gwasanaethu yn y brifysgol am flynyddoedd lawer mewn nifer o rolau academaidd a rolau arweinyddiaeth – gan gynnwys swyddi Dirprwy Is-Ganghellor.
Roedd yn hyrwyddwr brwd o waith cydweithwyr, ac yn mynychu seremonïau graddio Glyndŵr yn ffyddlon.
Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, yr Is-Ganghellor: “Gwnaeth Peter gyfraniad sylweddol i’r Brifysgol yn rhinwedd ei swydd fel academydd ac fel cyn Dirprwy Is-Ganghellor.
“Yn dilyn ei ymddeoliad, yn ei rôl fel Athro Emeritws, roedd Peter yn llysgennad gwych dros Glyndŵr a, hyd yn ddiweddar iawn, roedd yn cynrychioli’r brifysgol mewn cynadleddau, yn ymgysylltu â chydweithwyr ac yn mynychu digwyddiadau Prifysgol pryd bynnag y gallai.
“Gallai gyfarfod â gwleidyddion blaenllaw – fel Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins, a gyfarfu yn 2015, gydag academyddion a phobl fusnes rhyngwladol allweddol, a chydag ymchwilwyr yn cychwyn yn eu maes – ac eto yn eu trin i gyd yn gyfartal, yn deg – a gyda’r diddordeb brwd a ddaeth yn ei sgil i bopeth a wnaeth.
“Gellid dibynnu bob amser ar Peter i gyflwyno enwebiadau proffil uchel i Gymrodyr Anrhydeddus, gyda Chymrodoriaethau’r brifysgol dros y blynyddoedd yn ddyledus iawn i’w waith.
“Cyfarfu llawer o’n staff, myfyrwyr a llywodraethwyr â’r Athro Excell dros y blynyddoedd mewn seremonïau graddio a digwyddiadau eraill.
“Roedd yn awdur ac ymchwilydd toreithiog ac, yn gynharach eleni, dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn ogystal â Doethuriaeth Uwch o Brifysgol Caer.”
Gweithiodd yr Athro Excell ar amrywiaeth o bynciau yn gysylltiedig ag electroneg, cyfathrebu a chyfrifiadureg, ymhlith eraill, ac yn ystod gyrfa ymchwil yn rhychwantu degawdau, adeiladodd rwydwaith o gydweithwyr ledled y byd – yr oedd llawer ohonynt wedi dechrau ar eu gwaith o dan ei arweiniad.
Mae academyddion a staff proffesiynol presennol a chyn-weithwyr Glyndŵr eisoes wedi talu teyrnged i’r Athro Excell am ei arweinyddiaeth, ei gefnogaeth academaidd a’i gyfeillgarwch. Mae’n cael ei oroesi gan ei wraig, Dianne, a’r plant Matthew a Charlotte.
Ychwanegodd yr Athro Maria Hinfelaar: “Bydd colled fawr ar ôl Peter ac rydym yn cydymdeimlo â Dianne a’u teulu.”