Theatr Clwyd i weithredu Neuadd William Aston mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr
Date: 23/02/22
Mae Theatr Clwyd a Phrifysgol Glyndŵr yn gweithio mewn partneriaeth newydd i achub dyfodol Neuadd William Aston Wrecsam. Gyda’n gilydd byddwn yn gwarchod y lleoliad celfyddydol hanfodol hwn fel ased cymunedol, gan sicrhau bod pobl Wrecsam a Gogledd Cymru yn cael mynediad i’r adloniant gorau o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Mae’r bartneriaeth hon yn cynnig dechrau newydd – gan ddod ag arbenigedd theatrig theatr gynhyrchu fwyaf Cymru ynghyd ag arloesedd Prifysgol Glyndŵr, i sicrhau bod y lleoliad yn ffynnu i’r dyfodol.
Rydym yn adeiladu ar gyfer y tymor hir, i sicrhau bod ein rhaglen yn tyfu mewn cytgord â’r dref a’r rhanbarth rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn cymryd pethau’n araf – cam wrth gam gan weithio i feithrin ymddiriedaeth – byddwn yn siarad â’n cymunedau ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn rym cydweithredol er daioni sy’n dod â phobl at ei gilydd.
Yn ystod 2022 byddwn yn cynnal rhaglen gyfyngedig cyn i restr lawn o ddigwyddiadau ddychwelyd yn 2023.
Dywedodd Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd:
“Rydyn ni’n gyffrous am fod yn gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr i roi bywyd newydd i’r lleoliad hanfodol yma ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru. Rydyn ni’n adeiladu ar gyfer y tymor hir ac er na fyddwn yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau tan 2023, byddwn yn sicrhau bod y bartneriaeth hon a’r gwaith rydym yn ei gyflwyno yn cyflawni ar gyfer ein cymunedau yn Wrecsam a thu hwnt ac yn cryfhau cais Dinas Diwylliant Wrecsam, ond hefyd y byd celfyddydol ehangach yng Ngogledd Cymru.”
Dywedodd Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Yn dilyn ymarfer tendro cadarn, mae’n bleser gan y brifysgol gyhoeddi Theatr Clwyd fel gweithredwr newydd Neuadd William Aston. Bydd cytundeb prydles newydd yn cael ei lofnodi erbyn Ebrill 1 a bydd hyn yn ein galluogi i gyfoethogi ac ehangu’r rhaglen o ddigwyddiadau yn Neuadd William Aston yn ogystal â darparu cyfleoedd i’n myfyrwyr, a fydd yn elwa o wybodaeth diwydiant Theatr Clwyd. Mae Neuadd William Aston yn rhan allweddol o’n prifysgol ac ni allwn aros i weld beth ddaw yn 2023.”