Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Phlismona wedi cael ei chydnabod yn yr Inspire! Gwobrau Tiwtor 2026

Mae Dr Joanne Prescott, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Phlismona, wedi cael ei chydnabod yn yr Inspire! Gwobrau Tiwtor 2026 am ei chyfraniad eithriadol i ddysgu oedolion.

Mae Dr Joanne Prescott, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Phlismona, wedi cael ei chydnabod yn yr Inspire! Gwobrau Tiwtor 2026 am ei chyfraniad eithriadol i ddysgu oedolion. 

Mae Dr Joanne Prescott, a fu’n glaf trawsblannu, wedi ymroi ei gyrfa i sicrhau y gall dysgwyr gael mynediad i’r un cyfleoedd addysg trawsnewidiol a newidiodd ei bywyd hi ei hun.

Bellach yn Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Phlismona ym Mhrifysgol Wrecsam, cafodd Joanne lawdriniaeth i drawsblannu dwy ysgyfaint a achubodd ei bywyd ym mis Hydref 2011. Yn ystod y broses hir o adferiad, daeth addysg bellach yn llwybr iddi yn ôl i gyflogaeth a rhoi gobaith iddi ar gyfer y dyfodol.

“Fe roddodd astudio Troseddeg ddiben i mi ac fe wnaeth addysg ailgodi fy hyder, adfer fy hunaniaeth a rhoi cyfnod newydd o fywyd i mi”, meddai Joanne. “Rhoddodd addysg oedolion fy mywyd yn ôl i fi. Bob dydd rwy’n ymdrechu i sicrhau y caiff pobl eraill yr un cyfle.”

Mae Joanne yn un o chwe tiwtor a gaiff eu cydnabod am eu cyfraniad i addysg yn seremoni Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid a gynhelir yn adeilad y Senedd yng Nghaerdydd ar 17 Mawrth.

Caiff tiwtoriaid eu hanrhydeddu am eu gwaith ar draws Addysg Bellach, Addysg Bellach, gweithleoedd, Addysg Gymunedol a Cymraeg i Oedolion.

Wedi’u cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae’r gwobrau yn cydnabod tiwtoriaid eithriadol sy’n mynd yr ail filltir i rymuso oedolion sy’n ddysgwyr gan drawsnewid eu bywydau a chryfhau cymunedau.

Wrth siarad am ei henwebiad am y wobr, dywedodd ei bod yn “wirioneddol arbennig” i gael ei chydnabod gyda’i chymheiriaid i ddathlu grym trawsnewidiol addysg oedolion. Cyn dychwelyd i addysg, bu’n gweithio mewn gofal iechyd a helpodd i sefydlu llety dros nos ar gyfer pobl ddigartref yn Wrecsam.

Yn ogystal â darlithio, mae Joanne yn arwain rhaglen gradd BA (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Wrecsam ac yn cyflwyno addysg uwch i garcharorion yn HMP Berwyn.

Gan addysgu troseddau cyfoes, cyfiawnder, adsefydlu a niwed cymdeithasol, mae wedi datblygu a diwygio’r cwricwlwm i sicrhau ei fod yn gynhwysol, cyfoes ac yn berthnasol yn broffesiynol.

Enillodd Joanne ei PhD yn archwilio dulliau gweithredu adferol yn HMP Berwyn, gan ddyfnhau ei dealltwriaeth o addysg drawsnewidiol, yn arbennig ar gyfer carcharorion a gafodd eu hymyleiddio.

Nid yw ei gwaith rhagorol wedi mynd heb ei sylwi. Cafodd ei henwi yn Ddarlithydd y Flwyddyn yng ngwobrau staff Prifysgol Wrecsam yn 2019 a 2025, a chafodd hefyd ei chymeradwyo am ei gwaith gyda Gyrfaoedd ac Ehangu Mynediad yn HMP Berwyn.

“Nid gwobrau yw’r effaith sydd bwysicaf i mi, ond cynnydd dysgwyr yn ailddarganfod eu llais drwy addysg a sgil-effeithiau rhoi yn ôl,” meddai.

“Rwy’n sefyll fel tystiolaeth o rym trawsnewidiol addysg – o glaf trawsblannu yn ailadeiladu ei nerth, i fod yn arweinydd academaidd mewn prifysgol a charcharau a llunio llwybrau ar gyfer eraill.”

Enwebwyd Joanne gan Dr Sarah Dubberley, Prif Ddarlithydd, a ganmolodd ei gwaith o fewn y brifysgol ac yn HMP Berwyn a’i rhagoriaeth yn datblygu’r cwricwlwm ac ehangu mynediad i ddysgu.

“Mae ei gallu i ysbrydoli dysgwyr i ailgysylltu gyda addysg yn ffactor allweddol mewn cynnydd parhaus a deilliannau cadarnhaol i ddysgwyr,” ychwanegodd.

Dywedodd Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: “Llongyfarchiadau i Joanne ar ennill y wobr yma. Mae Gwobrau Ysbrydoili! Tiwtoriaid yn gyfle i ddathlu’r tiwtoriaid gwych ledled Cymru sy’n cefnogi oedolion sy’n ddysgwyr i ddatblygu sgiliau newydd.

“Mae llawer o ddysgwyr wedi dweud wrthyf fod dychwelyd i ddysgu wedi gwella eu bywydau, a phan fo un person yn dysgu gwyddom fod y budd yn ymestyn ledled teuluoedd a chymunedau cyfan mewn ffyrdd sydd wirioneddol yn newid bywydau.

“Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y tiwtoriaid gwych fel Joanne sy’n gweithio ar draws addysg drydyddol sy’n gwneud gwahaniaeth bob dydd.” 

Meddai Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid yn dathlu ymroddiad anhygoel addysgwyr ledled Cymru sy’n mynd ati bob dydd i gefnogi oedolion sy’n ddysgwyr ym mhob amgylchedd – o safleoedd cymunedol a phrifysgolion i golegau addysg bellach a’r gweithle.

“Wrth anrhydeddu eu llwyddiannau, rydym yn dathlu’r holl sector addysg oedolion gan wybod lle bynnag mae dysgu yn digwydd, fod gan diwtor angerddol y grym i newid bywydau.”

Cefnogir y gwobrau gan Colegau Cymru, Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru, Prifysgolion Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.