WGU i nodi Diwrnod Clefydau Prin trwy gefnogi ymgyrch RARExham
Date: Dydd Gwener 24 Chwefror 2023
Mae myfyrwyr a staff Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (WGU) yn rhoi eu cefnogaeth i ymgyrch sydd â'r nod o daflu goleuni ar glefydau prin.
I nodi Diwrnod Clefydau Prin, sy'n cael ei gynnal ar 28 Chwefror, mae'r brifysgol yn ymuno â sefydliadau lleol eraill i hyrwyddo menter RARExham, a gafodd ei greu i dynnu sylw at yr effaith mae clefydau prin yn ei chael ar unigolion ac aelodau o'u teuluoedd.
Syniad cwmni buddiannau cymunedol (CIC) o'r Wyddgrug yw RARExham, sef Same but Different, sy'n defnyddio'r celfyddydau ar gyfer newid cymdeithasol cadarnhaol.
Mewn ymgais i helpu i godi ymwybyddiaeth, mae'r brifysgol yn cynnal arddangosfa ffotograffig sy'n canolbwyntio ar glefydau prin a'r effaith maen nhw'n ei chael.
Ledled y byd, mae gan 1 o bob 17 o bobl glefyd prin a bydd 30 y cant o blant sy'n cael diagnosis o glefyd prin yn marw cyn eu pen-blwydd yn bum mlwydd oed.
Dywedodd Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltu Polisi Cyhoeddus WGU, sy'n arwain prosiect Cenhadaeth Ddinesig y sefydliad: “Ar ran pawb yn y brifysgol, rwy'n hynod falch o roi ein cefnogaeth i RARExham — menter arbennig a phwysig gyda’r nod o dynnu sylw at glefydau prin.
“Mae gen i gysylltiad personol â Same but Different gan fod clefydau prin wedi effeithio ar fy nheulu. Gwnaeth y gefnogaeth gan y brifysgol a Same but Different wahaniaeth enfawr i'r ffordd roeddem ni’n ymdopi a pharhau i ymdopi drwy gyfnod anhygoel o anodd i mi a'm hanwyliaid.
“I gyd-fynd â Diwrnod Clefydau Prin, rydym ni’n cynnal arddangosfa ffotograffig sy'n tynnu sylw at eu heffaith.
“Mae ein cefnogaeth i ymgyrch RARExham yn pwysleisio ymrwymiad y brifysgol i'r Siarter Clefydau Prin, y gwnaethom ni gofrestru ar ei chyfer yn 2019. Rydym ni hefyd yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Same but Different i greu cynnwys dysgu ar gyfer ein Prifysgol Plant, fel rhan o'n prosiect Cenhadaeth Ddinesig.”
Mae gan Ceridwen Hughes, Cyfarwyddwr Same but Different, brofiad personol o afiechyd prin gan fod ei mab, Isaac, yn dioddef o syndrom Moebius - cyflwr prin sy'n deillio o dan-ddatblygiad nerfau'r wyneb sy'n rheoli rhai o symudiadau'r llygaid a mynegiant yr wyneb. Gall y cyflwr hefyd effeithio ar y nerfau sy'n gyfrifol am leferydd, cnoi a llyncu.
Dywedodd Ceridwen: “Mae llawer o'r mentrau rydyn ni'n eu gwneud yn Same but Different yn seiliedig ar roi mwy o lais i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan glefydau prin.
“O brofiad fy mab, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw sicrhau bod pobl â chlefydau prin yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi gan y gymuned lle maen nhw’n byw, a dyna pam y gwnaethom ni greu RARExham. Y syniad yw fod pobl a sefydliadau yn dangos eu cefnogaeth mewn unrhyw ffordd maen nhw’n dymuno a dod at ei gilydd o dan faner RARExham.
“Hoffwn ddiolch i fyfyrwyr a staff Prifysgol Glyndŵr Wrecsam am eu cefnogaeth anhygoel i'r ymgyrch bwysig hon.”
Gallwch ddarganfod mwy am RARExham a sut y gallwch chi ddangos eich cefnogaeth trwy fynd i www.rarexham.co.uk.