Y Brifysgol yn paratoi i arddangos cynnig cyfrwng Cymraeg a dathlu treftadaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Dyddiad: Dydd Lau, Gorffennaf 24, 2025
Bydd cynnig cyfrwng Cymraeg Prifysgol Wrecsam yn cael ei arddangos a’i ddathlu yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Bydd staff a myfyrwyr y Brifysgol yn gweithio’n galed i dynnu sylw at y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yno, ac i arddangos yr holl gyfleoedd amrywiol i astudio a dysgu Cymraeg, wrth astudio a gweithio yn y sefydliad.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a gynhelir o 2-9 Awst, bydd y Brifysgol yn cynnig ystod o weithgareddau diddorol ac addysgol, ac yn arwain sgyrsiau a thrafodaethau panel ar ystod eang o bynciau.
Bydd y trafodaethau panel a gynhelir yn cynnwys:
- Rhoi sylw i gynllun Cymraeg Gwaith y Brifysgol, lle caiff y gynulleidfa glywed am brofiadau aelodau staff yn dysgu’r iaith, gyda chyfraniadau gan staff o bob lefel hyfedredd yn y Gymraeg - a gynhelir ddydd Sul, Awst 3 o 2pm.
- Sgwrs am yr effaith drawsnewidiol a gaiff pêl-droed ar gymunedau, yn canolbwyntio ar Sefydliad Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam, wedi’i harwain gan Sara Hilton, Uwch Ddarlithydd Gwyddor Pêl-droed a Hyfforddi. Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn hynny - a gynhelir ddydd Mawrth, Awst 5 am 2pm.
- Trafodaeth banel am sicrhau dyfodol i’r Gymraeg mewn chwaraeon - wedi’i harwain gan Sara Hilton, Manon Rees O'Brien o Actif Gogledd Cymru, Bethan Woolley o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Elgan Williams o Sefydliad Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam, Chwaraeon Cymru, a Gwyn Derfel o Undeb Rygbi Cymru - a gynhelir ddydd Mawrth, Awst 5 am 2.45pm.
- Bydd Ffion Roberts, Uwch Ddarlithydd Therapi Iaith a Lleferydd, yn cyflwyno sgwrs ar sut y gall technoleg uwchsain bennu systemau llafariaid siaradwyr Cymraeg y Gogledd a'r De. Mae hyn yn gysylltiedig ar darn o waith ymchwil sydd wrthi’n cael ei gynnal gan academyddion o Brifysgol Wrecsam. Cynhelir y sgwrs ddydd Iau, Awst 7 am 2pm.
- Tynnu sylw at Ganolfan Peirianneg ac Opteg Menter (EEOC) y Brifysgol, sydd bron yn barod - prosiect adeiladu cyntaf Cynllun Twf Gogledd Cymru - a'r cyfleoedd y bydd yn eu creu i bobl ifanc Gogledd Cymru yn y sector gweithgynhyrchu gwerth uchel. Cynhelir y drafodaeth banel ddydd Gwener, Awst 8 am 2pm.
Ymhlith y llu o weithgareddau a gynhelir gan y Brifysgol yn ystod yr wythnos fydd y cyfle i ymwelwyr gynnig cipolwg ar ddyfodol y Gymraeg drwy ymweld â pheiriant amser y Brifysgol yn y babell Gwyddoniaeth a Pheirianneg i rannu eu barn am ddyfodol yr iaith, yn ogystal â’r cyfle i blant chwarae gêm o Minecraft.
Yn y cyfnod sy’n arwain at yr Eisteddfod, yn ogystal â pharatoi gweithgareddau a sgyrsiau, mae staff wedi bod yn cymryd rhan mewn ffyrdd eraill. Mae hyn yn cynnwys grŵp o staff sydd wedi dod ynghyd i harddu ardaloedd ar y campws ac o gwmpas y ddinas i sicrhau bod Wrecsam yn barod i ddangos y croeso.
Bydd grŵp o staff Prifysgol Wrecsam, llawer ohonynt weid bod yn dysgu’r Gymraeg drwy gynllun Cymraeg Gwaith yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth parti llefaru ar y dydd Iau, wedi misoedd o baratoi ac ymarferion, pan fyddant yn llefaru’r gerdd ‘Gêm Bêl-droed’ gan Bryan Martin Davies.
Dywedodd Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu’r Gymraeg y Brifysgol: “Mae’r cyffro wedi bod yn cynyddu ers y cyhoeddiad mai Wrecsam fyddai’n cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol eleni - ac mae wedi bod yn bleser llwyr gweld sut mae ein staff a’n myfyrwyr wedi dod ynghyd i baratoi ar ei chyfer - a rhoi croeso cynnes i ymwelwyr.”
“Dyma’r tro cyntaf ers 14 mlynedd i Wrecsam ei chynnal, ac rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle i arddangos ein cynnig cyfrwng Cymraeg drwy weithgareddau gwych a thrafodaethau panel. Cawn hefyd arddangos ein hymrwymiad parhaus i greu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol lle gall pawb ddathlu ac ymgysylltu â’n treftadaeth Gymreig, yn ogystal â chyfrannu at Cymraeg 2050 - sef nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
Ychwanegodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Mae cymuned ein Prifysgol wrth ei bodd ac yn falch y bydd gennym bresenoldeb mor gryf yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
“Mae’r Eisteddfod yn un o gonglfeini hunaniaeth Gymreig, yn dathlu’r iaith, y gerddoriaeth a’r traddodiadau diwylliannol. Wrth i Wrecsam gynnal y digwyddiad eleni, mae’n pwysleisio pa mor bwysig yw hyrwyddo a chynnal treftadaeth fywiog ein dinas.
“Rydym yn hynod falch o’n treftadaeth a’n diwylliant Cymreig cyfoethog, yn ogystal â’r iaith, ac yn integreiddio hyn yn llawn balchder i bopeth a wnawn. Mae’n rhan hanfodol o’n cefndir fel sefydliad.”
“Ein nod cyffredinol yw cyfrannu at ddatblygu a chryfhau gweithlu’r dyfodol yng Nghymru drwy feithrin a hyrwyddo system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog. Mae ein rôl yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn fwy na dathliad i ni; mae hefyd yn adlewyrchu ein nodau strategol a’n hymrwymiad i’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu.”
Prifysgol Wrecsam hefyd yw prif noddwr Maes B eleni - yr ŵyl gerddoriaeth cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i hanelu at bobl ifanc, a gynhelir ochr yn ochr â’r Eisteddfod Genedlaethol.
- I weld y rhestr lawn o weithgareddau a sgyrsiau dan arweiniad Prifysgol Wrecsam, ewch i: https://wrexham.ac.uk/cy/eisteddfod/