Y Canghellor newydd yn tynnu sylw at Bwysigrwydd Cyflawniad ar gyfer y Brifysgol
Mae Colin Jackson wedi cael ei gosod yn swyddogol yn Ganghellor newydd Prifysgol Glyndwr Wrecsam.
Ar ôl derbyn swydd y Canghellor yn ffurfiol, dywedodd Mr Jackson – un o athletwyr mwyaf poblogaidd Prydain: "Mae'n wir anrhydedd i mi dderbyn swydd Canghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae rhagolygon y myfyrwyr a'r staff yn enfawr ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o'r dyfodol.
“Yn dod o fyd chwaraeon, dwi wedi bod yn lwcus iawn i gael profiad o ddelio â chymaint o faterion a gwersi bywyd, gan gynnwys troi methiannau'n llwyddiannau a pharhau i fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig a chadw ffocws.”
Daeth staff a myfyrwyr Prifysgol Glyndwr Wrecsam i'r seremoni yn ogystal ag urddasolion lleol ac aelodau o'r gymuned leol. Yn ystod ei araith, siaradodd Mr Jackson yn angerddol hefyd am gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer dyfodol y Brifysgol a'i rhanbarth.
Meddai: “Mae gennym gymaint i edrych ymlaen ato gyda'r twf posibl yn economaidd, gan gadw pobl dawnus lleol y mae'r Brifysgol wedi'u creu a'u meithrin a bod ar flaen y gad o ran adfywio Wrecsam a'r gymuned.
“Heb anghofio hefyd ein bod, fel rhan o Gampws 2025, yn cael treftadaeth o fyd y campau – Canolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol newydd mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae hyn i gyd yn gyffrous iawn ac ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam, ein dymuniad yw gweld llwyddiant parhaus a dyfodol disglair a llewyrchus i bawb.”
Meddai Is-Ganghellor Prifsgol Glyndwr Wrecsam, Maria Hinfelaar: “Rydym yn wirioneddol falch a braint yw cael Colin fel ein Canghellor am y tair blynedd nesaf.
“Rydym wedi coleddu pedwar gwerth yma fel rhan o'n gweledigaeth a'n strategaeth – bod yn hygyrch, yn gefnogol, yn arloesol ac yn uchelgeisiol-ac mae Colin mewn sawl ffordd yn ymgorfforiad o'r gwerthoedd hyn. Bydd yn olynydd teilwng i'r rhai a aeth o'i flaen.”
Mae rôl y Canghellor yn un llysgenhadol, a fydd yn gweld Colin yn llywyddu dros seremonïau graddio a digwyddiadau eraill ar y campws. Rhoddwyd cymrodoriaeth er anrhydedd iddo am ei wasanaethau i chwaraeon gan Brifysgol Glyndwr Wrecsam yn 2016.
Cafodd Colin ei eni yng Nghaerdydd ac mae'n un o'r athletwyr gorau a mwyaf poblogaidd y mae Prydain Fawr erioed wedi'i gynhyrchu, gan ennill nifer o recordiau a teitlau byd niferus. Ar ôl ymddeol o athletau, gwnaeth Colin drosglwyddo'n ddi-rwystr i fyd darlledu, yn fwyaf nodedig fel rhan annatod o BBC Athletics.